Amharu ar Drefniadau Gwaith - Hydref 2024

1. Cyflwyniad

Derbynnir na allwn gynllunio ar gyfer popeth a all ddigwydd, ac o bryd i'w gilydd gall amgylchiadau godi a fydd yn amharu ar gyfran sylweddol o'r gweithlu. Gallai'r rheswm dros yr amharu fod yn un mewnol megis lefelau staffio is, colli safleoedd, methiant TG / colli data, methiant cyfleustod neu ddylanwad allanol fel tywydd eithafol, llifogydd, tân neu ffrwydriad, pandemig ffliw neu ddamwain drafnidiaeth, ac nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysol.

Ym mhob achos o amharu ar drefniadau gwaith, diben y polisi yw pennu sut y bydd y Cyngor yn ymdrin â goblygiadau staffio bryd hynny.

Mewn achos o amharu ar y gweithlu, bwriedir i'r polisi hwn gael blaenoriaeth ar y polisïau a'r arferion cyflogaeth sy’n bodoli eisoes.