Amharu ar Drefniadau Gwaith - Hydref 2024
3. Egwyddorion
Mewn achosion o amharu, mae'r Cyngor yn ceisio sicrhau bod cysondeb o ran y ffordd y rheolir gweithwyr, gan sicrhau ar yr un pryd bod adnoddau digonol gan y meysydd gwasanaeth sy'n cael blaenoriaeth.
Mae'r Polisi yn ceisio helpu rheolwyr llinell i gael cydbwysedd rhwng yr angen am gynnal gwasanaethau hanfodol a rheoli'r materion pobl sy'n deillio o'r amharu. Mae'r Polisi yn darparu opsiynau i'w hystyried o ran cefnogi'r egwyddor hon a sicrhau tegwch a chysondeb wrth ei chymhwyso.
