Amser o’r Gwaith ar Gyfer Dibynyddion Polisi a’r Weithdrefn - Ebrill 2026

1. Cyflwyniad

Cyflwynwyd yr hawl i amser o'r gwaith ar gyfer dibynyddion gan Ddeddf Cysylltiadau Cyflogaeth 1999, fe'i cynhwysir o dan Adran 57A o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996, a daeth i rym o 15 Rhagfyr 1999.


2. Cwmpas

Mae'r weithdrefn hon yn cwmpasu pob gweithiwr, ac eithrio staff mewn ysgolion a reolir yn lleol, y mae gweithdrefn ar wahân yn bodoli ar eu cyfer. 


3. Meini Prawf Cymhwyso

Rhaid bod angen amser o'r gwaith ar gyfer dibynnydd. Mae'r diffiniad o ddibynnydd yn cynnwys:

  • Priod: Gŵr, gwraig, partner sifil.

  • Plentyn: Plentyn o unrhyw oed.

  • Rhiant: Mae hyn yn cynnwys llys-rieni.

  • Rhywun sy'n byw ar yr un aelwyd: mae hyn yn cynnwys partneriaid neu berthnasau oedrannus sy'n byw gyda'r gweithiwr, ond nid yw'n cynnwys gweithiwr, tenant na lletywr.

Nid oes gofyniad gwasanaeth i fod yn gymwys ar gyfer amser o'r gwaith.


4. Beth yw'r Hawl?

Hawl yw hon i gymryd amser rhesymol o'r gwaith heb dâl yn ystod oriau gwaith y gweithiwr er mwyn cymryd camau sy'n angenrheidiol mewn nifer o wahanol amgylchiadau, fel y manylir isod:

  • I roi cymorth ar adeg pan fo dibynnydd yn cael ei daro'n wael, yn rhoi genedigaeth, yn cael ei anafu, neu'n dioddef ymosodiad.

  • I wneud trefniadau ar gyfer darparu gofal am ddibynnydd sydd wedi'i daro'n wael neu wedi'i anafu (mae salwch neu anaf yn cynnwys salwch neu anaf meddyliol).

  • O ganlyniad i farwolaeth dibynnydd (Byddai'r hawl hon yn cwmpasu, er enghraifft, gwneud trefniadau ar gyfer angladdau a'u mynychu).

  • Oherwydd amharu annisgwyl ar drefniadau gofal am ddibynnydd neu eu terfynu. (Byddai hyn yn cwmpasu'r gweithiwr yn darparu cymorth iddo/iddi ei hun neu'n gwneud trefniadau eraill).

  • I ddelio ag achos sy'n ymwneud â phlentyn i'r gweithiwr ac sy'n digwydd yn annisgwyl yn ystod cyfnod pan fo sefydliad addysgol y mae'r plentyn yn ei fynychu yn gyfrifol amdano. Byddai hyn yn cynnwys –

Pan fo'r plentyn mewn trallod am ryw reswm.

Lle bo'r plentyn wedi camymddwyn mewn modd difrifol a allai arwain at ei wahardd o'r Ysgol.

Nodyn – Mae gan y Cyngor Sir ddarpariaethau Absenoldeb Tosturiol gyda thâl, y gellir eu defnyddio adeg marwolaeth neu salwch difrifol aelod agos o'r teulu. Mae'r darpariaethau hyn yn annibynnol ar y Rheoliadau sy'n ymwneud ag Amser o'r gwaith ar gyfer Dibynyddion, ac yn ychwanegol atynt.


5. Gwneud Cais am Amser o'r Gwaith

Rhaid i'r gweithiwr gysylltu â'r rheolwr llinell neu'r swyddog enwebedig cyn gynted â phosibl, gan roi gwybod pam mae ef/hi yn absennol/pam mae angen amser o'r gwaith arno/arni ac am ba hyd mae ef/hi yn disgwyl bod yn absennol.

Bydd gofyn i weithwyr sy'n cymryd amser o'r gwaith at y diben hwn gyflwyno cais Amser o'r Gwaith ar gyfer dibynyddion gan ddefnyddio'r system hunanwasanaeth ar y we, Welcome - MyView.


6. Camddefnydd

Os camddefnyddir y polisi hwn, ymdrinnir â hynny o dan Weithdrefn Ddisgyblu'r Cyngor.

Enghreifftiau o gamddefnydd yw:

  • Cymryd absenoldeb at ddibenion heblaw ar gyfer dibynnydd, fel yn Adran 5..


7. Apeliadau

Os bydd gweithwyr o'r farn bod cais cyfreithlon ganddynt am amser o'r gwaith wedi cael ei wrthod, gallant ddefnyddio'r Weithdrefn Achwyn i ddatrys y mater.


8. Faint o Amser o'r Gwaith sy'n Rhesymol

Dylai'r rheolwr ystyried y canlynol wrth benderfynu faint o amser o'r gwaith sy'n rhesymol:

  • Beth sydd i'w wneud yn ymarferol? Faint o amser byddai hynny'n cymryd fel arfer?

  • A oes unrhyw amgylchiadau a fyddai'n cyfiawnhau caniatáu rhagor o amser ar gyfer y gweithiwr dan sylw? Er enghraifft, ydy'r dibynnydd yn byw bellter i ffwrdd, ac felly nid yw'n ymarferol i'r gweithiwr ddychwelyd i'r gwaith rhwng gwneud trefniadau?

  • A oes unrhyw anghenion gwasanaeth a fyddai'n effeithio ar faint o amser a ganiateir i weithiwr penodol ar adeg benodol?

  • Dylid cydbwyso'r ystyriaethau uchod wrth benderfynu beth sy'n rhesymol.


9. Sicrhau Triniaeth Gyfartal

Mae angen i'r holl weithwyr fabwysiadu dull cadarnhaol, agored a theg a sicrhau y cydymffurfir â Pholisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yr Awdurdod a'i gymhwyso'n gyson i bawb heb ystyried hil, lliw, cenedl, tarddiad ethnig neu genedlaethol, anabledd, crefydd a chred neu ddiffyg cred, oedran rhyw, ailbennu rhywedd, hunaniaeth rhywedd a mynegiant rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd neu famolaeth, statws priodas neu bartneriaeth sifil.

Yn ogystal, mae Safonau'r Gymraeg yn gofyn i ni 'sicrhau nad yw'r iaith yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg' a dylid defnyddio'r egwyddor hon wrth gymhwyso'r egwyddor hon.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â chydraddoldeb ac amrywiaeth mewn perthynas â gweithredu’r polisi a’r drefn hon, cysylltwch ag aelod o’r Tîm Adnoddau Dynol a fydd, os oes angen, yn sicrhau bod y polisi/drefn yn cael eu hadolygu’n briodol.

Os oes angen copi o'r cyhoeddiad hwn arnoch mewn fformat arall, cysylltwch â Rheoli Pobl drwy ffonio est 6184 neu drwy anfon e-bost at CE Duty HR CHR@carmarthenshire.gov.uk