Polisi Absenoldeb Tadolaeth - Ebrill 2026

Cyflwyniad

Darpariaeth yw absenoldeb tadolaeth sy'n eich galluogi i gymryd absenoldeb yn ychwanegol at eich hawl i wyliau blynyddol, gan ganiatáu ichi gynorthwyo eich partner, helpu i rannu'r cyfrifoldebau gofal plant, a threulio amser buddiol gyda'ch plentyn newydd.

Mae'r polisi hwn yn amlinellu hawliau gweithwyr i absenoldeb tadolaeth ac i dâl am absenoldeb a gymerir ar 6 Ebrill 2026 neu wedi hynny lle bo naill ai:

•    wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth ar 5 Ebrill 2026 neu wedi hynny; 
•    y plentyn yn cael ei eni ar 6 Ebrill 2026 neu wedi hynny (hyd yn oed os oedd wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth cyn 5 Ebrill 2026); neu
•    disgwylir i'r plentyn gael ei leoli i'w fabwysiadu gyda'r mabwysiadwr (neu ddod i Brydain i'w fabwysiadu o dramor) ar 6 Ebrill 2026 neu wedi hynny. 

Ar gyfer hawliau sy'n berthnasol cyn y dyddiadau hynny, cyfeiriwch at ein Polisi Absenoldeb Tadolaeth dyddiedig Ebrill 2025 lle bo wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth cyn 5 Ebrill 2026 a'r enedigaeth cyn 6 Ebrill 2026.
 
Defnyddir y diffiniadau canlynol yn y polisi hwn:

"Mabwysiadwr" yw'r person y mae'r plentyn wedi cael/yn mynd i gael ei roi gydag ef/hi i'w fabwysiadu, neu pan fo dau berson wedi'u paru ar y cyd, pwy bynnag sydd wedi dewis bod yn fabwysiadwr y plentyn at ddibenion absenoldeb adeg mabwysiadu.
 
"Wythnos Ddisgwyliedig yr Enedigaeth" yw'r wythnos, gan ddechrau ar ddydd Sul, pryd y mae meddyg neu fydwraig y fam yn disgwyl iddi roi genedigaeth. 

"Paru ar gyfer mabwysiadu" yw pan fo asiantaeth fabwysiadu yn penderfynu y byddai person yn rhiant mabwysiadol addas ar gyfer plentyn naill ai'n unigol neu ar y cyd â pherson arall. Rhoddir gwybod i berson ei fod wedi cael ei "baru ar gyfer mabwysiadu" â phlentyn ar y dyddiad y mae'r person yn derbyn hysbysiad o benderfyniad yr asiantaeth fabwysiadu. 

"Hysbysiad swyddogol" yw hysbysiad ysgrifenedig, a gyflwynir gan neu ar ran yr awdurdod domestig perthnasol, ei fod yn barod i roi, neu eisoes wedi rhoi, tystysgrif i'r awdurdod tramor sy'n ymwneud â mabwysiadu'r plentyn, sy'n cadarnhau bod y mabwysiadwr yn gymwys i fabwysiadu ac wedi'i asesu a'i gymeradwyo fel rhiant mabwysiadol addas. 

"Partner" - mae'n cynnwys rhywun, o ba ryw bynnag, sy'n byw gyda'r fam, y fam feichiog, neu fabwysiadwr y plentyn mewn perthynas deuluol barhaus ond nad yw'n blentyn, rhiant, ŵyr/wyres, tad-cu/mam-gu, brawd/chwaer, modryb, ewythr, nith neu'n nai i'r fam neu'r mabwysiadwr.
 
"Lleoli ar gyfer mabwysiadu" yw lleoli ar gyfer mabwysiadu o dan gyfreithiau mabwysiadu'r DU, gan gynnwys lleoli gyda rhiant maeth awdurdod lleol sydd hefyd yn ddarpar fabwysiadwr ("meithrin i fabwysiadu").
 
Nid yw'r polisi yn rhan o'ch contract cyflogaeth, ac rydym yn cadw'r hawl i'w ddiwygio ar unrhyw adeg.