Polisi Absenoldeb Tadolaeth - Ebrill 2026

Adfer pensiwn oherwydd absenoldeb tadolaeth heb dâl

Fel aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, gallwch adfer unrhyw ‘bensiwn a gollwyd’ sy'n deillio o gyfnod o absenoldeb tadolaeth heb dâl, drwy dalu cyfraniadau ychwanegol dan drefniant Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol pan fyddwch yn dychwelyd i'r gwaith. I wneud hynny, bydd angen ichi ddewis adfer y pensiwn a gollwyd cyn pen 30 diwrnod ar ôl dychwelyd i'r gwaith. Os byddwch yn dewis gwneud hynny o fewn y cyfnod a bennwyd ac os mai absenoldeb awdurdodedig heb dâl oedd y rheswm am yr absenoldeb, rhennir y gost â'r Awdurdod (1/3 i'r aelod a 2/3 i'r Awdurdod). 

Fodd bynnag, os byddwch yn dewis gwneud hynny mwy na 30 diwrnod ar ôl y dyddiad ar y slip cyflog sy'n dangos y didyniad yn sgil absenoldeb heb dâl, byddwch chi, yr aelod, yn ysgwyddo'r costau i gyd. 

Os ydych yn dymuno adfer y pensiwn a gollwyd yn ystod eich cyfnod o absenoldeb tadolaeth heb dâl, bydd angen ichi lenwi ffurflen gais ar-lein drwy'r gyfrifiannell ar-lein ar dudalen Absenoldeb o'r Gwaith gwefan Cronfa Bensiwn Dyfed.  Cyn defnyddio'r gyfrifiannell ar-lein, mae'n rhaid bod gennych wrth law y tâl pensiynadwy a gollwyd am eich cyfnod o absenoldeb heb dâl/gweithredu diwydiannol (cewch ofyn i'r gyflogres am y wybodaeth hon drwy e-bostio CRPayroll@sirgar.gov.uk ) a'r dyddiad pan oeddech wedi dychwelyd i'r gwaith.

Sylwch y bydd angen ichi gwblhau'r manylion canlynol i gyd ar y gyfrifiannell ar-lein: 

Adran manylion personol – cwblhewch bob maes, sef 1 – 7 (y wybodaeth y mae'n rhaid ei bod gennych i gwblhau'r adran hon yw eich rhif yswiriant gwladol a'ch rhif cyflogres).

Manylion am ddyfynbris: - cwblhewch feysydd 8, 9, 10, 11 a 12.

Maes 8 – nodwch y tâl pensiynadwy a gollwyd – dyma'r swm a ddangosir ar eich slip cyflog am dynnu'r absenoldeb heb dâl.

Maes 9 – nodwch y rheswm am yr absenoldeb – cliciwch ar 'absenoldeb awdurdodedig heb dâl' 'absenoldeb awdurdodedig heb dâl' yn y gwymplen.

Maes 10 – adran yn ystod absenoldeb – cliciwch ar 'prif adran' ("main section") yn y gwymplen (oni bai eich bod wedi dewis cyfrannu o dan Adran 50/50 o'r Cynllun).

Maes 11 – diwrnod olaf yr absenoldeb – nodwch ddyddiad olaf yr absenoldeb heb dâl a gymerwyd yn ystod y mis perthnasol. Os mai 'absenoldeb awdurdodedig heb dâl' yw'r rheswm dros yr absenoldeb, a'ch bod yn cyflwyno'r cais cyn pen 30 diwrnod o'r dyddiad a nodwyd ar y slip cyflog sy'n dangos yr absenoldeb heb dâl a ddidynnwyd, cliciwch ar y blwch '30 diwrnod yn amherthnasol' "30 day override" (bydd angen i'ch cyflogwr gadarnhau hyn).

Maes 12 – dull talu – cliciwch ar 'tynnu cyfandaliad' 'lump sum deduction' yn y gwymplen.

Yn olaf, cliciwch ar ‘Cael Dyfynbris’ ("Get Quote") i gyfrifo cost prynu pensiwn a gollwyd – bydd hyn yn ymddangos yn yr adran ganlyniadau ar ochr dde'r dudalen - gweler isod:

Cost y cyfandaliad i'r aelod cyn gostyngiad treth    £ xxx.xx

Sylwch y gallwch hefyd ddewis prynu'r pensiwn a gollwyd drwy dalu'r cyfraniadau pensiwn ychwanegol dros sawl blwyddyn gyfan, ond bydd yn ofynnol ichi gael archwiliad meddygol (gan Ymarferydd Meddygol Cofrestredig) a chael tystysgrif, a thalu am hynny eich hun, i dystio eich bod mewn iechyd da, cyn y gellir derbyn eich cais.

Ar ôl cwblhau'r camau uchod, os ydych yn dal i ddymuno bwrw ymlaen â phrynu'r pensiwn a gollwyd, bydd angen ichi ddilyn y camau canlynol: 

Cam 1 - bydd angen ichi lawrlwytho'r ffurflen ar-lein drwy dicio'r blwch ‘Cais’ 'Application' sy'n cadarnhau bod y wybodaeth a nodwyd yn gywir a'ch bod wedi darllen a deall y ‘Telerau ac Amodau’  mewn perthynas â'ch ceisiadau am bensiwn ychwanegol.

Cam 2 - cliciwch ar y botwm ‘cyflwyno’ ("submit") yng nghornel dde waelod y dudalen. Bydd hyn yn trosglwyddo'r manylion rydych wedi'u nodi i ddogfen pdf. 

Cam 3 - llofnodwch y datganiad ar y ffurflen hon a'i hanfon drwy e-bost neu drwy'r post yn syth i: 

Blwch post CR Payroll (CRPayroll@sirgar.gov.uk ) neu drwy'r post i Adnoddau Dynol/Y Gyflogres, Cyngor Sir Caerfyrddin. 3 Heol Spilman, Caerfyrddin SA31 1LE.

Os na fyddwch yn penderfynu adfer eich 'pensiwn a gollwyd', bydd y buddion pensiwn rydych wedi eu cronni yn ystod Blwyddyn y Cynllun (1 Ebrill tan 31 Mawrth) pryd yr oeddech ar gyfnod o absenoldeb heb dâl, yn gyfatebol is o ganlyniad. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar wefan Cronfa Bensiwn Dyfed.