Polisi Absenoldeb Tadolaeth - Ebrill 2026
Yn yr adran hon
- Cyflwyniad
- Cwmpas
- Hawl i absenoldeb tadolaeth (genedigaeth)
- Hawl i absenoldeb tadolaeth (mabwysiadu)
- Faint o absenoldeb tadolaeth gallwch ei gymryd
- Amseru'r absenoldeb tadolaeth
- Hysbysiad i gymryd absenoldeb tadolaeth (genedigaeth)
- Hysbysiad i gymryd absenoldeb tadolaeth (mabwysiadu yn y DU)
- Hysbysiad i gymryd absenoldeb tadolaeth (mabwysiadu o dramor)
- Hysbysiad hwyr
- Newid eich cynlluniau absenoldeb tadolaeth
- Tâl tadolaeth
- Rhagor o wybodaeth
- Absenoldeb ar gyfer Cymorth Mamolaeth/Mabwysiadu
- Eich hawliau yn ystod absenoldeb tadolaeth
- Absenoldeb gofal newyddenedigol
- Absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth
- Dychwelyd i'r gwaith ar ôl absenoldeb gofalwyr
- Amser i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer apwyntiadau cyn geni
- Amser i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer apwyntiadau mabwysiadu
- Diogelu Data
- Absenoldeb ychwanegol
- Adfer pensiwn oherwydd absenoldeb tadolaeth heb dâl
- Gam-drin y polisi Gadael Tadolaeth
- Sicrhau cyfle cyfartal
Faint o absenoldeb tadolaeth gallwch ei gymryd
Gallwch gymryd hyd at bythefnos o absenoldeb tadolaeth. Nid oes rhaid i chi gymryd eich absenoldeb mewn un cyfnod, ond mae'n rhaid cymryd absenoldeb mewn blociau o wythnos o leiaf. Bellach nid oes angen gweithio am gyfnod penodol o amser er mwyn bod yn gymwys i gael absenoldeb tadolaeth.
Mae hyn yn golygu y gallwch gymryd yr absenoldeb mewn:
• un bloc o wythnos;
• un bloc o bythefnos; neu
• dau floc ar wahân o wythnos yr un.
Mae wythnos o absenoldeb tadolaeth yr un mor hir â'ch wythnos waith arferol. Mae hyn yn golygu, os ydych yn weithiwr amser llawn, fod un wythnos yn [pump] diwrnod. Os ydych yn gweithio pedwar diwrnod yr wythnos yn ôl eich contract, mae un wythnos yn bedwar diwrnod, ac yn y blaen.
Dim ond pythefnos o absenoldeb tadolaeth gallwch ei gymryd am bob beichiogrwydd neu achos o fabwysiadu, hyd yn oed os genir mwy nag un plentyn o ganlyniad i'r beichiogrwydd neu os lleolir mwy nag un plentyn o dan yr un trefniant mabwysiadu.
