Polisi Absenoldeb Tadolaeth - Ebrill 2026
Yn yr adran hon
- Cyflwyniad
- Cwmpas
- Hawl i absenoldeb tadolaeth (genedigaeth)
- Hawl i absenoldeb tadolaeth (mabwysiadu)
- Faint o absenoldeb tadolaeth gallwch ei gymryd
- Amseru'r absenoldeb tadolaeth
- Hysbysiad i gymryd absenoldeb tadolaeth (genedigaeth)
- Hysbysiad i gymryd absenoldeb tadolaeth (mabwysiadu yn y DU)
- Hysbysiad i gymryd absenoldeb tadolaeth (mabwysiadu o dramor)
- Hysbysiad hwyr
- Newid eich cynlluniau absenoldeb tadolaeth
- Tâl tadolaeth
- Rhagor o wybodaeth
- Absenoldeb ar gyfer Cymorth Mamolaeth/Mabwysiadu
- Eich hawliau yn ystod absenoldeb tadolaeth
- Absenoldeb gofal newyddenedigol
- Absenoldeb tadolaeth partner mewn profedigaeth
- Dychwelyd i'r gwaith ar ôl absenoldeb gofalwyr
- Amser i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer apwyntiadau cyn geni
- Amser i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer apwyntiadau mabwysiadu
- Diogelu Data
- Absenoldeb ychwanegol
- Adfer pensiwn oherwydd absenoldeb tadolaeth heb dâl
- Gam-drin y polisi Gadael Tadolaeth
- Sicrhau cyfle cyfartal
Tâl tadolaeth
Wythnos 1 - Tâl tadolaeth uwch
Byddwch yn dal i gael eich talu ar eich cyfradd dâl arferol, cyn belled â bod gennych hawl i'r tâl (namyn tâl tadolaeth statudol, os ydych yn gymwys) wrth gymryd yr wythnos gyntaf o absenoldeb tadolaeth os:
• oes gennych hawl i gymryd absenoldeb tadolaeth;
• oes gennych o leiaf 26 wythnos o gyflogaeth barhaus gyda ni:
- ar ddiwedd y 15fed wythnos cyn wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth (mewn sefyllfa enedigaeth);
- ar ddiwedd yr wythnos pryd hysbysir mabwysiadwr y plentyn ei fod yn cael ei baru ar gyfer mabwysiadu (ar gyfer mabwysiadu yn y DU); neu
- ar ddiwedd yr wythnos pryd cafodd mabwysiadwr y plentyn yr hysbysiad swyddogol (ar gyfer mabwysiadu o dramor);
• ydych dal mewn cyflogaeth barhaus gyda ni ar y dyddiad y mae'r plentyn yn cael ei eni (mewn sefyllfa enedigaeth), yn cael ei leoli i'w fabwysiadu (ar gyfer mabwysiadu yn y DU) neu'n cyrraedd Prydain (ar gyfer mabwysiadu o dramor); ac
• rydych wedi cydymffurfio â'r gofynion hysbysu a thystiolaeth ac yn gallu darparu'r datganiadau fel y nodir yn y polisi hwn.
• ydych yn cadarnhau pryd rydych yn dymuno dechrau cael tâl tadolaeth uwch ar y ffurflen berthnasol i ddarparu hysbysiad cyfnod absenoldeb ar gyfer cymryd absenoldeb tadolaeth.
Wythnos 2 - tâl tadolaeth statudol
Mae tâl tadolaeth statudol yn daladwy yn ystod eich ail wythnos o gyfnod absenoldeb tadolaeth, cyn belled â bod gennych hawl iddo.
Pennir cyfradd y tâl tadolaeth statudol gan y Llywodraeth ar gyfer y flwyddyn dreth berthnasol, neu ar 90% o'ch enillion wythnosol cyfartalog (pa un bynnag sydd is).Byddwch yn gymwys ar gyfer tâl tadolaeth statudol os:
• oes gennych hawl i gymryd absenoldeb tadolaeth;
• oes gennych o leiaf 26 wythnos o gyflogaeth barhaus gyda ni:
- ar ddiwedd y 15fed wythnos cyn wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth (mewn sefyllfa enedigaeth);
- ar ddiwedd yr wythnos pryd hysbysir mabwysiadwr y plentyn ei fod yn cael ei baru ar gyfer mabwysiadu (ar gyfer mabwysiadu yn y DU); neu
- ar ddiwedd yr wythnos pryd cafodd mabwysiadwr y plentyn yr hysbysiad swyddogol (ar gyfer mabwysiadu o dramor);
• nad yw eich enillion wythnosol cyfartalog yn llai na'r terfyn enillion is ar gyfer cyfraniadau yswiriant gwladol;
• ydych dal mewn cyflogaeth barhaus gyda ni ar y dyddiad y mae'r plentyn yn cael ei eni (mewn sefyllfa enedigaeth), yn cael ei leoli i'w fabwysiadu (ar gyfer mabwysiadu yn y DU) neu'n cyrraedd Prydain (ar gyfer mabwysiadu o dramor);
• ydych wedi cydymffurfio â'r gofynion hysbysu a thystiolaeth perthnasol ac yn gallu darparu'r datganiadau fel y nodir yn y polisi hwn; ac
• rydych yn cadarnhau pryd rydych yn dymuno dechrau cael tâl tadolaeth statudol ar y ffurflen berthnasol i ddarparu hysbysiad cyfnod absenoldeb ar gyfer cymryd absenoldeb tadolaeth.