Polisi Amser o’r Gwaith - Chwefror 2026

1. Cyflwyniad

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i wella cydbwysedd gwaith a bywyd ei gyflogeion. Mae'r Cyngor yn cydnabod bod rhai achlysuron/adegau pryd y mae cyfnodau byr neu hir o amser o'r gwaith yn angenrheidiol, y tu hwnt i'r hawl i wyliau blynyddol. Bydd y Cyngor yn gwneud ei orau glas i gefnogi'r staff i gydbwyso eu gwaith â'u hymrwymiadau personol.   

Y PRIF EGWYDDORION

•    Mae'r Polisi hwn yn weithredol yn amodol ar anghenion y gwasanaeth.
•    Mae'n rhaid rhoi rhybudd cymaint ymlaen llaw ag sy’n bosibl.
•    Os camddefnyddir y polisi hwn, ymdrinnir â hynny o dan Weithdrefn Ddisgyblu'r Cyngor.
•    Rhaid arfer cysondeb yn y modd y gweithredir y polisi hwn wrth ymdrin â phob un, heb ystyried hil, lliw, cenedl, tarddiad ethnig neu genedlaethol, iaith, anabledd, crefydd a chred neu ddiffyg cred, oedran, rhyw, ailbennu rhywedd, hunaniaeth neu fynegiant rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, statws o ran cyfrifoldebau magu plant, statws priodasol neu statws partneriaeth sifil (gan gynnwys partneriaid o'r un rhyw).