Polisi Amser o’r Gwaith - Chwefror 2026

3. Egwyddorion

Mae'r Cyngor wedi ymroi i sicrhau: 

•    Bod amgylchedd gwaith hyblyg yn cael ei ddatblygu, ar yr un pryd â chynnal darpariaeth gwasanaethau o safon. 

•    Bod cyflogeion yn cael cefnogaeth yn ystod cyfnodau argyfwng, gan gynnwys amgylchiadau annisgwyl a brys. 

•    Bod rheolwyr yn cydnabod pwysigrwydd cydbwyso bywyd cartref a gwaith, ac yn gweld bod hyblygrwydd yn elfen hanfodol er mwyn recriwtio, ysgogi a chadw staff o safon uchel a hynny ar bob haen.  

•    Bod pob cyflogai yn cael ei drin yn deg ac â chysondeb. 

•    Y cydymffurfir â deddfwriaeth statudol a hawliau contractiol.