Rhannu Absenoldeb Rhiant - Canllaw i'r Broses ar gyfer Penaethiaid - Mawrth 2026

Sut mae'r cyfnod Rhannu Absenoldeb Rhiant yn gweithio - Cam wrth gam - CAM 5

Cam 5: Ymateb y Rheolwr
Rhaid i reolwyr ymateb o fewn 14 diwrnod ar ôl derbyn Hysbysiad o Absenoldeb:
 
Absenoldeb parhaus (un cyfnod):
Rhaid ei gymeradwyo
• Absenoldeb ysbeidiol (sawl cyfnod)
Gall rheolwyr: 
  • Cytuno i'r absenoldeb y gofynnwyd amdano. 
  • Trafod a threfnu dewisiadau eraill.
  • Gwrthod y patrwm ysbeidiol.
Sylwer: 
Dim ond pan fydd gweithiwr yn cyflwyno un hysbysiad sy'n cynnwys nifer o gyfnodau absenoldeb ar wahân y gall rheolwyr wrthod Cyfnod Ysbeidiol o Rannu Absenoldeb Rhiant (ShPL). Yn yr achos hwnnw, gall y cyflogwr wrthod y patrwm o fewn y cyfnod trafod 14 diwrnod ond rhaid iddo ganiatáu i'r gweithiwr gymryd yr absenoldeb fel un cyfnod parhaus yn lle hynny os oes angen o hyd.
Os yw gweithiwr yn cyflwyno tri hysbysiad ar wahân ar gyfer tri chyfnod gwahanol o absenoldeb, mae'r rhain yn cael eu trin fel ceisiadau ar wahân ac ni ellir eu gwrthod dim ond oherwydd bod yr absenoldeb yn ysbeidiol, cyn belled â bod pob hysbysiad yn bodloni gofynion statudol. 
Mae pob hysbysiad absenoldeb yn cyfrif tuag at uchafswm y gweithiwr o dri chais.