Canllaw i Reolwyr ynghylch Cefnogi Staff Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol - Mehefin 2013 Adolygwyd: Medi 2020, Ionawr 2024

Beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud

O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae cyfeiriadedd rhywiol yn nodwedd warchodedig, p'un a yw unigolyn yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu'n syth. O dan y Ddeddf, mae'n anghyfreithlon gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol rhywun neu ei gyfeiriadedd rhywiol canfyddedig. Mae hefyd yn gwahardd gwahaniaethu yn erbyn rhywun oherwydd ei gysylltiad â rhywun sy'n lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol. Mae hyn yn berthnasol i'r holl weithwyr.

Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd yn nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae Adran 8 o'r Ddeddf yn nodi bod gan berson y nodwedd warchodedig o briodas a phartneriaeth sifil os yw'r person yn briod neu'n bartner sifil.

Creodd Deddf Partneriaeth Sifil (2004) undeb, bryd hynny ar gyfer parau o'r un rhyw yn unig, a hawliau sy'n gyfwerth â phriodas fel y gallai parau o'r un rhyw gofrestru eu partneriaeth sifil. O fis Rhagfyr 2019, gall parau dau ryw cymwys gofrestru partneriaeth sifil hefyd.

Yn ôl y gyfraith mae gan weithiwr sydd wedi cael partneriaeth sifil yr hawl i:

  • Gymryd enw eu partner.
  • Cael yr un hawliau â pharau priod o dan hawliau perthynas agosaf.
  • Hawliau mewn perthynas â phlant eu partner.
  • Hawliau treth penodol, gan gynnwys yr un hawliau etifeddiaeth â pharau heterorywiol priod.
  • Hawliau pensiwn.
  • Rhai budd-daliadau lles.
  • Yr un "manteision" a buddion yn y gwaith â pharau priod.

Gall hawliau eraill ymwneud â:

  • Mabwysiadu, absenoldeb tadolaeth a thai.

Mae pobl sy'n briod neu sy'n bartneriaid sifil yn rhannu nodwedd warchodedig priodas a phartneriaeth sifil. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn esbonio bod dyn priod a menyw mewn partneriaeth sifil yn rhannu nodwedd warchodedig priodas a phartneriaeth sifil.

Daeth Deddf Priodas (Cyplau o'r Un Rhyw) 2013 i rym ar 13 Mawrth 2014. Mae'r Ddeddf hon yn ymestyn priodas i bartneriaid o'r un rhyw yng Nghymru a Lloegr. Mae partneriaeth sifil yn un sydd wedi'i chofrestru o dan Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004, gan gynnwys y rheiny sydd wedi'u cofrestru y tu allan i'r DU.