Polisi ynghylch Costau Teithio a Chynhaliaeth Staff - Pobl, Digidol a Pholisi - Dyddiad: Ebrill 2009, Diweddarwyd EBM/ACE: 14 Ionawr 2010, 3 Ionawr 2023, Chwefror 2025, Adolygwyd: Mai 2025, Dyddiad Adolygu: Ebrill 2028
Lwfansau Teithio
Cyffredinol
14. Os mai defnyddio cerbyd yw'r dull teithio mwyaf effeithlon a chost-effeithiol, fe'ch anogir i ddefnyddio cynllunwyr llwybrau ar-lein, megis Google Maps neu AA Route Planner ymlaen llaw i benderfynu ar y llwybr mwyaf priodol ar gyfer taith benodol. Os byddwch yn dewis defnyddio'ch llwybr eich hun yn lle hynny, dim ond cost y llwybr byrraf ar gynllunydd llwybr fydd yn cael ei thalu i chi.
15. Os yw'r Cyfarwyddwr neu'r uwch-swyddog enwebedig yn cytuno, cyn gwneud taith, bod dull arall o deithio, e.e. trên neu fws, yn amhriodol oherwydd amser dechrau, amserlen anaddas neu gysylltiadau gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, byddwch yn cael eich awdurdodi i deithio gan ddefnyddio'r dulliau teithio mwyaf effeithlon a chost-effeithiol, er enghraifft, car hurio, car adrannol.
16. Pan fydd mwy nag un gweithiwr yn teithio i'r un cyfarfod, cynhadledd ac ati ac mae teithio mewn cerbyd preifat wedi'i awdurdodi, dylid trefnu iddynt rannu car, lle bo'n bosibl, a bydd asesiadau risg yn y gweithle a chanllawiau diweddaraf y llywodraeth yn berthnasol.
17. Cydnabyddir ei bod yn bosibl y bydd argyfwng neu na fydd teithio rheolaidd drwy ddefnyddio llwybrau a bennwyd ymlaen llaw wrth ddefnyddio cynllunydd llwybr a argymhellir bob amser yn ymarferol neu'n briodol, er enghraifft, Gofal Cartref gyda llwybrau cleient a bennwyd. Rhaid i reolwr y gwasanaeth sicrhau bod y trefniadau teithio mwyaf effeithiol ar waith drwy geisio cymorth gan y tîm trafnidiaeth.
Teithio ar Drên
18. Dylid teithio ar drên gyda thocyn wedi'i brynu ymlaen llaw lle bo hynny'n bosibl gan y mai hyn fel arfer fydd y tocyn mwyaf economaidd neu ei brynu ar y diwrnod teithio lle nad yw prynu ymlaen llaw yn bosibl. Gellir talu ymlaen llaw gan ddefnyddio'r cerdyn credyd corfforaethol neu ei dalu gan y gweithiwr a'i hawlio yn ôl. Dylid ond defnyddio gwarantau teithiau trên o dan amgylchiadau eithriadol.
19. Rhaid cael derbynebau os oes angen unrhyw deithiau ychwanegol mewn bws neu dacsi.
20. Lle bo hynny'n bosibl dylai swyddogion sy'n teithio gydag aelodau etholedig ar fusnes swyddogol drefnu eu taith trwy'r Gwasanaethau Democrataidd er mwyn arbed cymaint o arian â phosibl.
Defnydd o geir hurio a cheir adrannol
21. Dylech geisio defnyddio'r dulliau trafnidiaeth mwyaf effeithiol gan gynnwys ceir adrannol y Cyngor a cherbydau hurio. Efallai y bydd eich Uned Cymorth Busnes adrannol yn gallu eich cynorthwyo gyda threfniadau archebu os nodir mai hwn yw'r dull cludiant mwyaf effeithlon ac economaidd.
22. Bydd angen i chi gael sesiwn ymgyfarwyddo â gyrru cyn defnyddio ceir adrannol y Cyngor. Mae hynny at ddibenion yswiriant.
23. Eich cyfrifoldeb chi yw cynnal gwiriadau cyn teithio ac ymgyfarwyddo â char hurio.
24. Chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod gennych drwydded yrru ddilys cyn ymgymryd ag unrhyw deithio sy'n gysylltiedig â busnes mewn car fflyd, car hurio neu gar adrannol. Os ydych wedi'ch gwahardd rhag gyrru, rhaid i chi roi gwybod i'ch Goruchwyliwr/Rheolwr ar unwaith, sydd yn ei dro yn gorfod hysbysu'r Rheolwr Fflyd yn unol â Pholisi Risg Ffyrdd Fflyd yr Awdurdod.
25. Gall defnyddio unrhyw gerbyd heb drwydded yrru ddilys olygu bod eich yswiriant yn annilys (cerbyd eich hun) a gall arwain at gamau disgyblu.
Defnyddio cerbyd personol at ddibenion busnes
26. Dylid defnyddio'ch cerbyd eich hun dim ond pan nad oes trafnidiaeth arall ar gael, er enghraifft, trenau, car adrannol, car hurio neu lle byddai'n ddefnydd aneffeithiol o amser i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a lle mai dyma'r math rhataf o gludiant.
27. Rhaid i hawliadau teithio sy'n defnyddio'ch cludiant eich hun fod ar gyfer y llwybr byrraf sydd ar gael i'r gyrchfan ac yn unol â'r Rheolau Gweithdrefnau Ariannol.
28. Dylid defnyddio'ch cludiant eich hun lle, mewn trafodaeth â'ch rheolwr llinell, y penderfynir mai hwn yw'r dull trafnidiaeth mwyaf effeithlon a chost-effeithiol.
29. Mae'r Cyngor yn ad-dalu cyfraddau milltiroedd busnes cerbydau preifat ar gyfraddau CThEF (mae hyn yn cynnwys cerbydau trydan yn unol â chanllawiau CThEF):
Y cyfraddau presennol am bob milltir fusnes (yn ddarostyngedig i newidiadau a wneir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi)
Y Math o Gerbyd | Hyd at 10,000 milltir | Uwch na £10,000 |
Ceir a faniau | 45c | 25c |
Beiciau modur | 24c | 24c |
30. Ad-delir tollau, costau fferi a ffioedd parcio os cyflwynir derbynebau.
31. Mae'n rhaid i chi sicrhau bod yswiriant eich cerbyd yn cynnwys teithio "busnes".
32. Chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod gennych drwydded yrru ddilys cyn ymgymryd ag unrhyw deithio sy'n gysylltiedig â busnes yn eich cerbyd eich hun. Os ydych wedi'ch gwahardd rhag gyrru, rhaid i chi roi gwybod i'w Goruchwyliwr/Rheolwr ar unwaith, sydd yn ei dro yn gorfod hysbysu'r Rheolwr Fflyd yn unol â Pholisi Risg Ffyrdd Fflyd yr Awdurdod.
Aros Dros Nos a Lwfansau Cynhaliaeth - y tu allan i'r sir
33. Rydych yn gymwys i hawlio treuliau rhesymol, yn amodol ar y gyfradd taliadau treuliau a nodir yn Atodiad B, ac ar gyflwyno derbynebau ategol.
34. Lle bynnag y bo'n bosibl, dylid archebu llety drwy eich Uned Cymorth Busnes neu'n uniongyrchol drwy'r Gwasanaethau Corfforaethol gan ddefnyddio gweithdrefnau'r Cerdyn Credyd Cofforaethol, ond os ydych yn mynychu digwyddiad swyddogol yng nghwmni aelodau etholedig; dylid trefnu'r llety drwy'r Gwasanaethau Democrataidd.
35. Os yw'r bwyd wedi'i gynnwys ym mhris y llety, ni thelir lwfans prydau bwyd ychwanegol.
36. Os nad yw prydau bwyd wedi'u cynnwys ym mhris y llety bydd costau unrhyw brydau bwyd a brynwyd yn cael eu talu ar gyflwyno derbynebau ac yn amodol ar gyfradd bresennol y lwfans treuliau a nodir yn Atodiad B. Mae rhywfaint o hyblygrwydd yn bosibl mewn achosion eithriadol a gafodd eu cymeradwyo gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth perthnasol.