Polisi ynghylch Costau Teithio a Chynhaliaeth Staff - Pobl, Digidol a Pholisi - Dyddiad: Ebrill 2009, Diweddarwyd EBM/ACE: 14 Ionawr 2010, 3 Ionawr 2023, Chwefror 2025, Adolygwyd: Mai 2025, Dyddiad Adolygu: Ebrill 2028

Teithio Ychwanegol

37. Byddwch yn gymwys i wneud hawliad am gostau teithio ychwanegol os ydych wedi ysgwyddo gwariant ychwanegol gan fod eich gweithle contractiol wedi’i newid gan yr Awdurdod a bod costau milltiroedd cymudo ychwanegol wedi'u hysgwyddo. Nid yw hyn yn berthnasol os ydych yn gofyn am newid i'ch gweithle neu'n gwneud cais am swydd mewn gweithle gwahanol.

38. Rydych yn gymwys i gael costau teithio ychwanegol o ddyddiad yr adleoli am gyfnod o ddeuddeg mis ar y mwyaf, neu ar ddyddiad cynharach pan na fydd costau ychwanegol yn cael eu hysgwyddo mwyach neu'n cael eu lleihau e.e. os byddwch yn symud yn nes at eich canolfan newydd. Os bydd symud tŷ yn golygu na fydd milltiroedd pellach yn cael eu hysgwyddo, yna ni fydd yr Awdurdod yn ad-dalu costau teithio ychwanegol.
 
39. Dim ond gwariant gwirioneddol ychwanegol fydd yn cael ei ad-dalu h.y. mae'n rhaid i chi ymgymryd â'r daith. Dyma'r gwahaniaeth rhwng cost teithio o'ch cartref i'r hen weithle a chost teithio o'ch cartref i'r gweithle newydd. Dyma filltiroedd sy'n uwch na milltiroedd y daith flaenorol i'r gweithle neu gostau ychwanegol a ysgwyddir os ydych yn teithio drwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.  

40. Er mwyn bod yn gymwys i gael costau teithio ychwanegol, rhaid eich bod yn teithio mwy na 5 milltir ychwanegol bob ffordd (10 milltir y diwrnod) i weithle newydd sy'n bellach o'ch cartref.  Nid yw gweithwyr achlysurol yn gallu hawlio costau teithio ychwanegol.

41. Os byddwch yn teithio i'r gwaith mewn car, byddwch yn cael y milltiroedd ychwanegol dros y llwybr byrraf i'r gweithle newydd ac yn ôl ar ôl i'r 10 milltir ychwanegol cyntaf gael ei ddidynnu. Er enghraifft, os ydych yn teithio 25 milltir ychwanegol y dydd (yno ac yn ôl) gallwch hawlio milltiroedd ychwanegol o 15 milltir y dydd gan nad oes ad-daliad am y 10 milltir gyntaf. Os byddwch yn dewis llwybr sy'n hirach at ddibenion hwylustod, yna ni fydd y costau milltiredd ychwanegol o ganlyniad i'r dewis hwn yn cael eu had-dalu. 

42. Bydd ad-daliad ond yn cael ei wneud ar gyfer  costau teithio ychwanegol gwirioneddol oherwydd gofynion teithio ychwanegol i'r gweithle newydd ac oddi yno. Os bydd dau neu fwy o weithwyr (sy'n ddarostyngedig i'r trefniadau hyn) yn penderfynu teithio gyda'i gilydd ar unrhyw ddiwrnod penodol, yna bydd ad-daliad ond yn cael ei wneud i un gweithiwr sy'n destun asesiad risg yn y gweithle a chanllawiau cyfredol y llywodraeth.  

43. Ni fydd yr Awdurdod yn talu am yr amser ychwanegol a dreulir yn teithio. 

44. Os ydych yn gweithio ar sail peripatetig heb unrhyw weithle gontractiol, nid ydych yn gymwys i hawlio costau teithio ychwanegol o dan y polisi hwn.

45. Bydd hawliadau Milltiroedd Ychwanegol yn cael eu talu ar gyfradd gyfredol CThEF sy'n berthnasol i'r holl hawliadau teithio eraill fel y nodir yn para. 28.

46. Ni ellir hawlio am filltiroedd ychwanegol yn ystod unrhyw absenoldeb o'r gwaith.

47. Mae'n rhaid i chi roi gwybod i'ch rheolwr llinell am unrhyw newid mewn amgylchiadau a allai effeithio ar eich cymhwysedd i hawlio am gostau milltiroedd ychwanegol.  Bydd unrhyw ordaliadau'n cael eu hawlio'n ôl yn y gyflogres nesaf sydd ar gael.

48. Rheolwyr llinell sy'n gyfrifol am wirio ac awdurdodi hawliadau.  Gellir gofyn am gyngor gan y Tîm Gwasanaethau Gweithwyr os oes angen. 

49. Os cewch eich adleoli i weithle newydd dros dro am gyfnod o fis neu lai, byddwch yn gymwys i hawlio treuliau teithio swyddogol o'ch prif weithle. Os cewch eich adleoli dros dro am gyfnod o fwy na mis, yna bydd taliadau Teithio Ychwanegol yn berthnasol. 

50. Dylid gwneud hawliad bob mis/bob 4 wythnos, a thrwy'r cyfleuster hunanwasanaeth ar-lein os yw ar gael. Os nad yw'r cyfleuster hwn ar gael, yna dylid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio'r ffurflen hawlio Teithio Ychwanegol.  Yn unol â Rheolau Gweithdrefnau Ariannol yr Awdurdod, bydd hawliadau ond yn cael eu prosesu os ydynt yn cael eu gwneud yn ystod y mis yn dilyn y gwariant.