Polisi Datgelu Camarfer Medi 2024 - Amddiffyniad Cyfreithiol i Weithwyr sydd â Phryderon yn y Gwaith

Beth sydd dan sylw yma?

1. Rydym ni (y 'Cyngor') am sicrhau amgylchedd gwaith lle byddwch chi (y 'gweithiwr') yn teimlo'n hyderus i leisio unrhyw bryderon ynghylch camymddwyn o fewn y Cyngor. Fodd bynnag, mae rhai pobl yn gyndyn o leisio eu pryderon o achos eu bod yn ofni'r ôl-effeithiau posibl neu'n teimlo eu bod yn bradychu eu cydweithwyr. Gallai rhai farnu ei bod yn haws anwybyddu'r pryder, yn hytrach na rhoi gwybod am achos o gamymddwyn a allai fod yn ddim mwy nag amheuon.

2. Gall camymddwyn gynnwys twyll, ymddygiad llwgr, llwgrwobrwyo, anonestrwydd, anghysondebau ariannol, camweinyddu difrifol oherwydd ymddygiad bwriadol ac amhriodol, gweithgareddau anfoesegol (a allai fod yn droseddol) a gweithredu neu ddiffyg gweithredu peryglus sy'n achosi risg i iechyd, diogelwch neu'r amgylchedd, tramgwyddau troseddol, neu fethiant i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu reoliadol.

3. Nid yw datgelu camarfer yn cynnwys camreoli, gan y gall hynny ddeillio o reolaeth wan, er enghraifft, yn hytrach na chamymddwyn. Gellir delio â chamreoli o dan Bolisi Gallu'r Cyngor neu ei Weithdrefn Disgyblu, fel sy'n briodol.

4. Bwriad y polisi hwn yw eich annog a'ch cefnogi i godi pryderon difrifol yn hyderus ac yn ddiogel o fewn y Cyngor, a gweld hynny fel dyletswydd, yn hytrach nag anwybyddu'r broblem. Cyfeirio y mae ‘Datgelu Camarfer’ at weithwyr yn datgelu camymddwyn, yn ogystal â gweithredu neu ddiffyg gweithredu anghyfreithlon yn y gwaith.

5. Bydd y polisi hwn yn cael ei gymhwyso'n gyson at bawb, heb ystyried hil, lliw, cenedl, tarddiad ethnig neu genedlaethol, iaith, anabledd, crefydd, cred neu ddiffyg cred, oedran, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil na chyfrifoldebau magu plant.

6. Os bydd gennych unrhyw bryderon cydraddoldeb ac amrywiaeth yng nghyswllt cymhwyso’r polisi hwn a’r weithdrefn hon, gofynnir i chi gysylltu ag aelod o’r Tîm AD a fydd, os bydd angen, yn sicrhau bod y polisi/weithdrefn yn cael eu hadolygu’n briodol.