Polisi Datgelu Camarfer Medi 2024 - Amddiffyniad Cyfreithiol i Weithwyr sydd â Phryderon yn y Gwaith

Atodiadau

Atodiad A

Llifsiart Datelu Camarfer

Atodiad B

CYFRINACHOL - FFURFLEN ADBORTH Y WEITHDREFN DATGELU CAMARFER

Atodiad C

ASTUDIAETHAU ACHOS DATGELU CAMARFER

Cynhyrchwyd yr astudiaethau achos canlynol gan ‘Public Concern at Work’ (PCaW), yr elusen datgelu camarfer, sy'n cynghori unigolion pan fyddant mewn cyfyng-gyngor ynghylch datgelu camarfer, a sefydliadau ynghylch eu trefniadau datgelu camarfer.

Maent yn enghreifftiau o bryderon datgelu camarfer y mae unigolion wedi'u lleisio mewn sefydliadau eraill.

Achos 1 – Twyll yn y GIG
Y Stori
Roedd Tim yn cydlynu hyfforddiant ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG. Roedd yn pryderu bod ei bennaeth yn trefnu bod un o'i ffrindiau yn darparu hyfforddiant ar delerau amheus oedd yn costio mwy nag £20,000 i'r Ymddiriedolaeth bob blwyddyn. Roedd mwy o gyrsiau na'r angen yn cael eu trefnu, ac roedd y ffrind bob amser yn cael ei dalu pan fyddai cwrs yn cael ei ganslo. Er bod Tim yn gofyn i'w bennaeth drefnu nodyn credyd fel yn achos contractau hyfforddi eraill, fyddai hynny byth yn digwydd. Allai Tim ddim deall chwaith pam roedd y ffrind yn cael ei dalu am sesiynau hyfforddi a gyflwynwyd gan staff y GIG. Un diwrnod pan oedd y pennaeth allan, gwelodd Tim y ffrind yn mynd i swyddfa'r pennaeth ac yn gadael amlen yno. Oherwydd ei amheuon, edrychodd Tim yn yr amlen a gweld ei bod yn llawn papurau £20, gwerth tua £2,000. Gan ei fod yn ansicr beth i'w wneud, ffoniodd Tim Public Concern at Work. Dywedodd Tim fod ei bennaeth yn unigolyn dylanwadol yn yr Ymddiriedolaeth ac nad oedd yn sicr wrth bwy y dylai sôn, yn enwedig gan fod yr Ymddiriedolaeth yn cael ei hailstrwythuro, ac nad oedd swyddi neb o'r cyfarwyddwyr yn ddiogel. Roedd Tim hefyd yn sylweddoli y gallai fod esboniad diniwed am yr arian yn yr amlen, gan ei fod yn beth mor amlwg i'w wneud.

Cyngor PCaW
Cyngor PCaW oedd y gallai Tim fynd at un o gyfarwyddwyr yr Ymddiriedolaeth neu at Uned Gwrth-Dwyll y GIG. Beth bynnag fyddai ei benderfyniad, cynghorwyd Tim i lynu at y ffeithiau a chanolbwyntio ar drefniadau a thaliadau penodol oedd wedi achosi amheuon. Fe'i cynghorwyd hefyd i osgoi'r demtasiwn i ymchwilio i'r mater ei hunan. Dywedodd Tim ei fod yn teimlo'n llawer gwell, ac y byddai'n penderfynu beth i'w wneud yn ystod y gwyliau roedd ar fin ei gymryd.

Beth ddigwyddodd
Pan ddychwelodd, cododd Tim ei bryderon gydag un o gyfarwyddwyr yr Ymddiriedolaeth, a alwodd ar Uned Gwrth-Dwyll y GIG. Roedd amheuon Tim yn iawn: plediodd ei bennaeth a'r hyfforddwr yn euog i ddwyn £9,000 oddi ar y GIG, a dedfrydwyd y ddau ohonynt i gyfnod o 12 mis yn y carchar, wedi'i ohirio am ddwy flynedd.

Achos 2 – Galw ar y Rheoleiddiwr
Y Stori
Roedd Ian yn gweithio fel arolygydd diogelwch mewn parc hamdden. Ef oedd yn gyfrifol am gynnal a chadw un o reidiau mwyaf poblogaidd y parc. Bob bore byddai'n cynnal archwiliad diogelwch ar y reid, ac os oedd popeth yn iawn, byddai'n llofnodi'r log i ddweud bod y reid yn ddiogel. Yn ystod un archwiliad, sylwodd fod y pinnau ar yr echelau oedd yn cadw'r cerbydau'n sefydlog braidd yn rhydd. Teimlai Ian fod hynny'n achosi risg ddifrifol, a dywedodd wrth ei reolwyr.

Ar ôl archwiliad nad oedd Ian yn teimlo ei fod yn drylwyr, cliriodd y Rheolwr Gweithrediadau'r reid a dweud ei fod yn ddiogel. Roedd Ian yn anfodlon ynghylch hyn, a'r diwrnod canlynol, gan nad oedd camau adferol wedi'u cymryd, unwaith eto ni allai lofnodi i ddweud bod y reid yn ddiogel. Eto, penderfynodd y Rheolwr Gweithrediadau ddiystyru barn Ian, a chafodd ei drosglwyddo i reidiau eraill. Cysylltodd Ian â ni yr un diwrnod. Roedd yn pryderu bod y penwythnos yn dod, ac y byddai'r parc yn eithriadol o brysur. Roedd hefyd yn pryderu, petai'n mynd ar ôl y mater ymhellach, y byddai'n cael ei ddiswyddo.

Cyngor PCaW
Cyngor PCaW i Ian oedd y gallen nhw gysylltu â'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ar ei ran, a chyfleu'r wybodaeth roedd wedi'i rhoi heb nodi ei enw. Fodd bynnag, bydden nhw am siarad ag ef, fwy na thebyg, petaen nhw'n tybio y gallai'r sefyllfa fod yn ddifrifol. Dywedodd PCaW y bydden nhw'n esbonio pryderon Ian am ei swydd ac yn gofyn i HSE gadw hynny mewn cof. Er ei fod yn ansicr a fyddai'n siarad ag HSE, gofynnodd i ni wneud y cyswllt cyntaf. Cytunodd HSE fod y sefyllfa'n swnio fel y gallai fod yn ddifrifol. Fodd bynnag, fe ddywedson nhw wrth PCaW y byddai angen iddyn nhw siarad ag Ian. Esboniodd PCaW bryderon Ian, petai HSE yn sydyn yn galw heibio i archwilio'r reid dan sylw, y byddai ei gyflogwyr yn gwneud y cysylltiad yn ddigon rhwydd, ac y byddai'n colli ei swydd. Sicrhaodd HSE ni, petaen nhw'n cynnal archwiliad o'r fath, y gellid gwneud hynny mewn modd nad oedd yn datgelu rôl Ian. Aethon ni yn ôl at Ian, ac ar ôl trafod y sefyllfa, fe gytunodd i siarad ag HSE.

Beth ddigwyddodd
Yn fuan wedyn, cynhaliodd HSE ymweliad 'fel mater o drefn' â'r parc, ac archwilio'r reid honno, ynghyd â sawl reid arall. O ganlyniad i'r archwiliad, tynnwyd y reid allan o wasanaeth, a gwnaed y gwaith atgyweirio.

Achos 3- Dwyn mewn cartref gofal
Y Stori
Roedd FA yn gweithio fel cynorthwyydd gofal mewn cartref hen bobl. Roedd ef a rhai o'i gydweithwyr yn poeni bod SM, un o'r rheolwyr, yn dwyn arian o bosib oddi ar y preswylwyr. Roedd SM yn gofalu am arian poced y preswylwyr ac yn cadw cofnod o'r symiau a roddwyd a phryd. Roedd FA yn weddol sicr bod cofnod yn cael ei wneud bod arian yn cael ei roi i breswylwyr penodol pan nad oeddent wedi'i gael.

Ar ôl ychydig, credai fod yn rhaid iddo fynegi'r pryder gan fod y swm dan sylw yn cynyddu. Ar ôl iddo fynegi ei bryderon i berchnogion y cartref, daeth ymchwiliad i'r casgliad yn gyflym fod FA yn gywir, cafodd SM ei ddiswyddo a galwyd yr heddlu. Roedd awyrgylch annifyr yn y cartref gan fod rhai o ffrindiau SM yn gwrthwynebu'n gryf y ffaith bod y camarfer wedi cael ei ddatgelu. O fewn wythnosau, cafodd FA ei atal dros dro yn sgil honiadau ei fod wedi cam-drin y preswylwyr. Cysylltodd â ni dros y ffôn.

Cyngor PCaW
Ein cyngor oedd y dylai frathu ei dafod ac ymdrin â'r honiadau hyn yn deg. Er i'r ymchwiliad ddod i'r casgliad nad oedd unrhyw sail i'r honiadau, penderfynodd y perchnogion drosglwyddo FA i gartref arall. Roedd FA yn anhapus iawn a chysylltodd â ni unwaith eto. Bu inni ei helpu i ysgrifennu llythyr at y perchnogion i egluro ei fod am aros yn y cartref hwnnw ac y byddai ei drosglwyddo ar ôl iddo ddatgelu camarfer yn rhoi'r neges anghywir i aelodau eraill o staff.

Beth ddigwyddodd
Ailystyriodd y perchnogion y mater ac arhosodd FA yn y cartref. Pan gysylltydd FA â ni i ddweud bod SM wedi'i gael yn euog o ddwyn £1400 oddi ar y preswylwyr, dywedodd fod yr awyrgylch yn y cartref wedi gwella'n fawr.