Polisi Datgelu Camarfer Medi 2024 - Amddiffyniad Cyfreithiol i Weithwyr sydd â Phryderon yn y Gwaith

Beth yw agwedd y Cyngor at gamymddwyn yn y gweithle?

11. Rydym yn ystyried pob achos o gamymddwyn o fewn y Cyngor yn ddifrifol iawn, gan ein bod wedi ymrwymo i gynnal y safonau uchaf o ran bod yn agored, yn onest ac yn atebol. Os oes gennych bryderon difrifol am unrhyw agwedd ar waith y Cyngor, fe'ch anogir i leisio'r pryderon hynny, yn wir, mae disgwyl i chi wneud.

12. Rydym yn deall bod y penderfyniad i roi gwybod am bryder yn gallu bod yn un anodd, a hynny, ymhlith pethau eraill, am eich bod yn ofni y bydd y sawl a fu’n camymddwyn yn dial arnoch. Fodd bynnag, os byddwch yn lleisio pryderon, ni fydd gennych ddim i'w ofni, gan y byddwch yn cyflawni eich dyletswydd i'ch cyflogwr, eich cydweithwyr, a'r sawl rydych yn rhoi gwasanaeth iddynt.

13. Ni oddefir unrhyw aflonyddu neu erledigaeth, gan gynnwys pwysau anffurfiol, ar yr unigolion hynny sydd wedi lleisio’u pryder, ac ystyrir unrhyw weithred o’r fath yn dramgwydd ddisgyblu ddifrifol, yr ymdrinnir â hi o dan y weithdrefn ddisgyblu.

14. Ni fyddwn yn goddef unrhyw ymgais ar ran unrhyw weithiwr, cynghorydd, contractiwr neu gyflenwr i'r Cyngor i gosbi mewn unrhyw fodd, neu i gael effaith niweidiol ar unrhyw un sydd wedi rhoi gwybod i'r Cyngor am unrhyw bryder difrifol, dilys, a all fod ganddynt ynghylch camymddwyn ymddangosiadol.

15. Byddwn yn trin y cyfryw ymddygiad gan un o weithwyr y Cyngor fel mater disgyblu difrifol, ac mae unrhyw ymddygiad o'r fath gan Gynghorydd yn debygol o gael ei gyflwyno fel achos o dorri Côd Ymddygiad yr Aelodau.

16. Lle cyflawnir unrhyw ymddygiad o'r fath gan unrhyw un o gontractwyr neu gyflenwyr y Cyngor, byddwn yn ystyried hynny'n achos difrifol o dorri amodau'r contract.

17. Bydd unrhyw ymddygiad o'r fath gan unrhyw un sy'n derbyn gwasanaeth gan y Cyngor yn cael ei ystyried yn achos o dorri amodau darparu'r gwasanaeth hwnnw.