Polisi Datgelu Camarfer Medi 2024 - Amddiffyniad Cyfreithiol i Weithwyr sydd â Phryderon yn y Gwaith

Pa gymorth galla i ddisgwyl ei gael?

10. Bob amser, wrth leisio ac ymchwilio i’ch pryderon:

  • bydd Cyfarwyddwyr a Phenaethiaid Gwasanaethau yn cefnogi proses yr ymchwiliad
  • bydd eich pryderon yn cael eu cymryd o ddifri
  • bydd y Cyngor yn gwneud popeth o fewn ei allu i'ch cefnogi ar hyd yr ymchwiliad, e.e. darparu gwasanaethau eiriolaeth, cyfieithwyr, cwnsela ac ati.

Os yw'n briodol, ac yn dilyn ymgynghori llawn, gall y Cyngor ystyried eich adleoli chi neu eraill yn ystod cyfnod yr ymchwiliad.