Polisi Datgelu Camarfer Medi 2024 - Amddiffyniad Cyfreithiol i Weithwyr sydd â Phryderon yn y Gwaith
Yn yr adran hon
- Beth sydd dan sylw yma?
- Pa amddiffyniad cyfreithiol sydd gennyf i?
- A gaf fy amddiffyn os gwnaf ddatgeliad cyhoeddus?
- Pa gymorth galla i ddisgwyl ei gael?
- Beth yw agwedd y Cyngor at gamymddwyn yn y gweithle?
- Pwy sy'n gallu datgelu camarfer?
- Ynghylch beth y galla i ddatgelu camarfer?
- Sut mae'r polisi'n cyd-fynd â pholisïau eraill y Cyngor?
- Beth os wyf fi eisoes yn ymwneud â gweithdrefn AD arall?
- Sut mae'r polisi hwn yn cydweddu â Chôd Ymddygiad yr Aelodau?
- Beth os wyf fi am wneud honiadau yn ddienw?
- Fydd pwy ydwyf fi'n cael ei gadw'n gyfrinachol?
- Sut mae lleisio pryder?
- Beth fydd yn digwydd ar ôl i mi leisio fy mhryderon?
- Sut byddwn ni'n ymdrin â'ch pryderon?
- Beth fydd yn digwydd os na chaiff fy mhryderon eu cadarnhau yn dilyn ymchwiliad?
- Beth fydd yn digwydd os na fydda i'n fodlon ar ymateb y Cyngor?
- Pwy sy'n gyfrifol am y polisi hwn?
- Beth sy'n digwydd i'ch 'gwybodaeth' a'ch 'data personol’?
- Atodiadau
Pwy sy'n gallu datgelu camarfer?
18. Mae’r polisi hwn yn berthnasol i'r canlynol:
- Gweithwyr Cyngor Sir Caerfyrddin, yn cynnwys yr holl weithwyr cyflogedig, yr athrawon a gyflogir yn ganolog, a gweithwyr achlysurol.
- Gweithwyr contractwyr sy'n gweithio i'r Cyngor ar safleoedd y Cyngor, er enghraifft, staff asiantaethau, adeiladwyr, gyrwyr.
- Y rhai sy'n darparu gwasanaethau o dan gontract neu gytundeb arall gyda'r Cyngor ar eu safleoedd eu hunain, er enghraifft cartrefi gofal.
- Gweithwyr gwirfoddol sy'n gweithio gyda'r Cyngor.
- Ymgynghorwyr a gyflogir gan y Cyngor.
19. Fodd bynnag, nid yw'r polisi hwn yn cwmpasu staff a gyflogir mewn ysgolion sy'n cael eu rheoli'n lleol, y mae trefniadau lleol yn bodoli ar eu cyfer. Yn absenoldeb trefniadau lleol, argymhellir bod cyrff llywodraethu ysgolion yn mabwysiadu'r egwyddorion a geir yng ‘Ngweithdrefnau Chwythu’r Chwiban mewn Ysgolion a Pholisi Enghreifftiol’ Llywodraeth Cymru.
20. Fel arfer, dylai cyflogeion a gweithwyr Cwmnïau Masnachu Awdurdod Lleol y Cyngor godi unrhyw bryderon drwy weithdrefnau datgelu camarfer y Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol ei hun. Os yw'r pryder penodol yn ymwneud â'r trefniant llywodraethu, y contract busnes neu'r cytundeb cyfreithiol rhwng y Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol a'r Awdurdod neu i'r gwrthwyneb, gall yr unigolyn ddewis codi'r mater yn uniongyrchol gyda'r Awdurdod gan ddefnyddio'r broses a ddisgrifir yn y polisi hwn.