Polisi Datgelu Camarfer Medi 2024 - Amddiffyniad Cyfreithiol i Weithwyr sydd â Phryderon yn y Gwaith

Sut byddwn ni'n ymdrin â'ch pryderon?

43. Bydd y camau a gymerir gan y Cyngor yn dibynnu ar natur y pryder. Gall y materion a godir:

  • fod yn destun ymchwiliad mewnol gan unigolyn priodol, yn unol â Pholisi Ymchwiliadau'r Cyngor.
  • gael eu cyfeirio at yr Heddlu.
  • gael eu cyfeirio at Swyddfa Archwilio Cymru.
  • fod yn destun ymchwiliad annibynnol.

44. Er mwyn diogelu unigolion a’r Cyngor, gwneir ymholiadau i gychwyn i benderfynu a yw’n briodol cynnal ymchwiliad, ac os ydyw, pa fath o ymchwiliad y dylai fod. Bydd pryderon neu honiadau sy’n dod o fewn terfynau gweithdrefnau penodol (er enghraifft amddiffyn plant) yn cael eu cyfeirio fel arfer i’w hystyried o dan y gweithdrefnau hynny. Gellir datrys rhai pryderon drwy gytuno ar gamau gweithredu heb fod angen ymchwiliad.

45. Bydd y Swyddog Cyswllt yn cydnabod eich pryder cyn gynted â phosibl ac yn cysylltu â chi cyn pen 14 diwrnod calendr wedi i chi fynegi eich pryder, er mwyn:

  • dweud sut y bwriedir delio â’r mater.
  • rhoi amcan i chi faint o amser y bydd ei angen cyn y gellir ymateb yn derfynol.
  • dweud wrthych a oes unrhyw ymholiadau cychwynnol wedi’u gwneud; a
  • dweud wrthych a gynhelir ymchwiliad llawn, ac os na wneir hynny, pam.

46. Bydd y Swyddog Cyswllt yn rhoi cymaint o adborth â phosibl i chi, ond mewn rhai achosion ni ddywedir wrthych am yr union gamau a gymerwyd oherwydd y byddai gwneud hynny'n mynd yn erbyn y ddyletswydd sydd ar y Cyngor i rywun arall o ran arddel cyfrinachedd. Bydd modd newid yr amcanion a'r terfynau amser drwy gytundeb rhyngoch chi a'r Swyddog Cyswllt.

47. Bydd natur y materion a godwyd, yr anawsterau posibl a allai godi, ac eglurder y wybodaeth a ddarparwyd yn dylanwadu ar ba mor aml y byddwch chi a'r Swyddog Cyswllt mewn cysylltiad â'ch gilydd. Os bydd angen, bydd y Swyddog Cyswllt neu'r swyddog sy'n ymchwilio i'r mater yn ceisio rhagor o wybodaeth gennych.

48. Pan drefnir unrhyw gyfarfod rhyngoch chi a'r Swyddog Cyswllt, mae gennych hawl, os ydych yn dymuno, i gael cydymaith yn bresennol gyda chi (gall fod yn gynrychiolydd cydnabyddedig undeb llafur neu'n gydweithiwr nad yw'n gweithio yn y maes y mae'r pryder yn ymwneud ag ef). Cymerir camau er mwyn sicrhau eich bod yn dod ar draws cyn lleied o anawsterau â phosibl yn sgil lleisio'r pryder. Er enghraifft, os bydd yn ofynnol i chi roi tystiolaeth mewn achos troseddol neu ddisgyblu, byddwn yn trefnu eich bod yn cael cyngor am y weithdrefn.

49. Rydym yn deall y bydd angen i chi dderbyn sicrwydd bod y mater wedi derbyn sylw priodol, ac felly, yn amodol ar gyfyngiadau cyfreithiol, bydd eich Swyddog Cyswllt yn rhoi gwybod i chi am y canlyniad ac yn ei gadarnhau'n ysgrifenedig cyn pen 14 diwrnod calendr wedi i'r mater ddod i ben, h.y. a gadarnhawyd eich pryderon, pa gamau mae'r Cyngor yn bwriadu eu cymryd (yn amodol ar gyfyngiadau cyfrinachedd) a'r terfynau amser ar gyfer eu gweithredu. Bryd hynny gofynnir i chi gwblhau holiadur byr am eich profiad o'r weithdrefn datgelu camarfer (Gweler Atodiad B). Mae eich adborth yn bwysig i ni, gan y bydd yn ein helpu i fonitro effeithlonrwydd y polisi.