Polisi Datgelu Camarfer Medi 2024 - Amddiffyniad Cyfreithiol i Weithwyr sydd â Phryderon yn y Gwaith

Sut mae'r polisi'n cyd-fynd â pholisïau eraill y Cyngor?

25. Bwriedir i'r Polisi Datgelu Camarfer ymdrin â phryderon sylweddol sydd y tu allan i gwmpas gweithdrefnau eraill ac sydd er lles y cyhoedd, h.y. gellir rhoi gwybod am unrhyw bryderon difrifol sydd gennych ynghylch unrhyw agwedd ar ddarparu gwasanaeth neu ymddygiad swyddogion neu Aelodau'r Cyngor, neu eraill sy'n gweithredu ar ran y Cyngor o dan y polisi hwn.

26. Dylid lleisio pryderon sydd gennych ynghylch eich cyflogaeth eich hun gyda'r awdurdod, megis telerau ac amodau cyflogaeth, iechyd a diogelwch, perthnasoedd gwaith, arferion gwaith newydd, yr amgylchedd gwaith neu newid sefydliadol, trwy'r weithdrefn Achwyniadau.

27. Dylid lleisio pryderon sydd gennych ynghylch honiadau am fwlio, aflonyddu, erledigaeth neu gamwahaniaethu yn y gweithlu yn unol â chanllawiau Safonau Ymddygiad y Cyngor.

28. Gallai mater datgelu camarfer fod yn gysylltiedig ag achwyniad neu bryderon ynghylch safonau ymddygiad, ac os felly bydd angen i'r Cyngor ystyried y ffeithiau, asesu'r risgiau a phenderfynu ar y ffordd orau o ymdrin â'r mater (gweler Atodiad A - Llifsiart Datgelu Camarfer).

29. Dylid darllen y polisi hwn ochr yn ochr â Chôd Ymddygiad Gweithwyr y Cyngor ac unrhyw weithdrefnau corfforaethol a/neu adrannol ar gyfer ymchwilio i bryderon, y gellir eu datblygu o bryd i'w gilydd, ac y deuir â hwy i sylw gweithwyr ac eraill y mae’r polisi hwn yn berthnasol iddynt.