Polisi Datgelu Camarfer Medi 2024 - Amddiffyniad Cyfreithiol i Weithwyr sydd â Phryderon yn y Gwaith

Ynghylch beth y galla i ddatgelu camarfer?

21. Fe'ch anogir i 'ddatgelu camarfer' pan fyddwch yn credu'n rhesymol bod camarfer wedi digwydd, neu ei fod yn debygol o ddigwydd, mewn un neu fwy o'r chwe maes canlynol:

  • Tramgwyddau troseddol.
  • Torri rhwymedigaeth gyfreithiol.
  • Camweinyddu cyfiawnder.
  • Perygl i iechyd a diogelwch unigolyn.
  • Niwed i'r amgylchedd.
  • Celu gwybodaeth am unrhyw un o'r uchod yn fwriadol.

22. Gallwch leisio pryderon difrifol am unrhyw agwedd ar y gwasanaeth a ddarperir neu am ymddygiad swyddogion/aelodau'r Cyngor neu eraill sy'n gweithredu ar ran y Cyngor. Gall yr achos o gamymddygiad fod wedi digwydd eisoes neu fod yn debygol o ddigwydd yn y dyfodol. Er enghraifft, gallai eich pryderon ymwneud ag un neu fwy o'r chwe chategori o gamymddwyn a ddisgrifiwyd uchod:

  • sydd o bosibl yn anghyfreithlon, yn dwyllodrus, neu'n llwgr.
  • a allai fynd yn groes i'n Rheolau Sefydlog, ein Rheoliadau Gweithdrefn Ariannol, ein polisïau, ein codau ymddygiad, neu rwymedigaethau cyfreithiol eraill.
  • y gellid ei ystyried yn ymddygiad amhriodol gan swyddog neu aelod.
  • nad yw o bosibl yn cyrraedd safonau gweithredu sefydledig.
  • sy'n gyfystyr â chamdriniaeth rywiol, gorfforol, neu emosiynol.
  • y mae posibilrwydd ei fod yn peryglu Iechyd a Diogelwch unigolyn.
  • sy'n achosi, neu sy'n debygol o achosi, niwed i'r amgylchedd.
  • a allai ymwneud â chamweinyddu cyfiawnder.
  • sy'n ymgais i gelu unrhyw un o'r enghreifftiau uchod.

23. Yn ogystal, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i Gôd Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi. Mae'r Côd yn cynnwys:

  • Caethwasiaeth Fodern;
  • Cosbrestru;
  • Hunangyflogaeth ffug;
  • Defnyddio cynlluniau mantell a chontractau dim oriau mewn modd annheg;
  • Talu'r cyflog byw cenedlaethol.

Rydych hefyd yn cael eich annog i ddatgelu camarfer lle credwch yn rhesymol fod camymddwyn wedi digwydd neu'n debygol o ddigwydd a'i fod yn gysylltiedig â gweithgareddau uniongyrchol neu gadwyni cyflenwi y Cyngor, a bod y camymddwyn hwn yn ymwneud ag un neu fwy o'r chwe maes a ddisgrifiwyd ym Mharagraff 20 uchod. Gellir cael rhagor o wybodaeth ym Mholisi'r Cyngor ynghylch Cadwyni Cyflenwi a Chyflogaeth Foesegol.

24. Os bydd eich pryderon yn ymwneud â rhywbeth y tu allan i'r chwe maes a nodwyd uchod, fe'ch cynghorir ynghylch y weithdrefn gywir i'w dilyn fel y disgrifir isod.