Geirdậu Cyflogaeth - Canllawiau Mawrth 2025

Yn yr adran hon



3. Darparu Geirdậu Ar Gyfer Gweithwyr Presennol Neu Gynweithwyr

Beth i'w wneud os cewch gais am roi geirda

Er nad oes unrhyw reidrwydd cyfreithiol i roi geirda, polisi'r Cyngor yw rhoi geirda gan ddefnyddio'r templed geirda y cytunwyd arno Cwbl Gyfrinachol Geirda Cyflogaeth Cais Am Eirda. Gellir defnyddio fformatau eraill ond rhaid cydymffurfio â chynnwys y templed.

Dim ond Rheolwr Llinell neu Ymgynghorydd Adnoddau Dynol / Recriwtio ddylai ymateb i gais am eirda.

Mae gan y sawl sy'n rhoi'r geirda ddyletswydd gofal i'r gweithiwr/cynweithiwr ac i'r darpar gyflogwr, a rhaid iddo/iddi sicrhau bod y geirda'n gywir ac yn ffeithiol. Ni ddylid mynegi barn bersonol.

Dylid cyfeirio ceisiadau am eirda gan gyrff allanol yn y lle cyntaf i'r Tîm Adnoddau Dynol (CEHRM@sirgar.gov.uk)    .Sicrhewch fod gwir angen ceisio geirda ar y person neu'r sefydliad sy'n gofyn am y geirda.

Os ydych yn ymateb i gais am eirda'n uniongyrchol, sicrhewch eich bod yn gwirio gyda'ch Ymgynghorydd Adnoddau Dynol i benderfynu a oes unrhyw beth sydd angen ei ddatgan. Sicrhewch eich bod yn dilyn y templed geirda ac ond yn darparu'r wybodaeth y mae hawl ei rhoi ac y gellir ei chefnogi gan ffeithiau sy'n hysbys i'r gweithiwr/cyn-weithiwr. Peidiwch â darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol.

Rhaid i bob cais am eirda lle ceisir asesiad o addasrwydd i weithio mewn gweithgaredd a reoleiddir neu gyda oedolion/plant sy'n agored i niwed gael eu hanfon at Tîm Adnoddau Dynol CEHRM@sirgar.gov.uk

Peidiwch byth â chynnwys gwybodaeth am gollfarnau troseddol (sydd wedi darfod neu sydd heb ddarfod) sydd wedi'u datgelu i chi drwy wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd neu'n uniongyrchol

gan y gweithiwr/cyn-weithiwr. Cyfrifoldeb y cyflogwr newydd yw gofyn am y wybodaeth hon yn uniongyrchol gan yr ymgeisydd neu drwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd os yw hynny'n ofynnol gan y swydd.

Cyfeiriwch y geirda at y canolwr a enwyd bob tro i sicrhau taw dim ond y person hwnnw fydd yn ei weld.

 

Canlyniadau posibl torri'r ddyletswydd gofal

Gall gweithiwr neu gyn-weithiwr siwio'r Cyngor os yw'n credu bod geirda wedi'i roi'n esgeulus gan arwain at dynnu cynnig o swydd yn ôl neu at golled arall. Mae nifer o achosion lle mae gweithwyr wedi llwyddo i wneud hawliad ac wedi cael setliad ariannol gan fod y cyflogwr wedi methu darparu geirda gwir a chywir. Dyma pam ei bod yn bwysig cadw at y ffeithiau ac osgoi barn bersonol a/neu oddrychol.

Gall hawliadau gwahaniaethu godi hefyd lle gellir cysylltu gweithredu ar ran y cyflogwr (neu ddiffyg gweithredu) wrth roi geirdâu â nodwedd warchodedig 1. fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Er enghraifft, os taw'r rheswm dros wrthod rhoi geirda neu wneud datganiadau negyddol mewn geirda oedd am fod gweithiwr neu gyn-weithiwr wedi gwneud hawliad am wahaniaethu ar sail hil yn erbyn y cyflogwr, gellid dehongli bod hyn yn weithred o erledigaeth a fyddai'n gyfystyr â gwahaniaethu hiliol anghyfreithlon.

Byddwch yn ymwybodol wrth roi geirda i weithiwr neu gyn-weithiwr sydd wedi newid ei ryw. Er y bydd y dull a chynnwys y geirda yn union yr un peth, dylid cymryd gofal wrth ddefnyddio'r enwau a'r rhagenwau. Trafodwch hyn gyda'r gweithiwr neu'r cyn-weithiwr yn gyntaf a mynnwch gyngor gan eich Ymgynghorydd Adnoddau Dynol os oes ann.

 

Awgrymiadau defnyddiol ar gyfer llunio'r geirda

Dylid seilio'r geirda a roir ar ffeithiau ac osgoi unrhyw oddrychedd. Dyma rai enghreifftiau i ddangos y gwahaniaeth rhwng datganiad ar sail ffeithiau a datganiad goddrychol.

 

Enghreifftiau o ffeithiau

Enghreifftiau o ddatganiadau goddrychol/amhendant/barn

Cafodd Jim sgôr o 2 ar raddfa o 1-5 (1 oedd yr isaf a 5 oedd yr uchaf) yn ei arfarniad perfformiad mwyaf diweddar (nodwch y flwyddyn). Barnwyd bod gwaith Jim yn anfoddhaol.
Rhoddwyd rhybudd ysgrifenedig cyntaf i Hannah ynghylch prydlondeb yn (Nodwch y dyddiad).

Roedd Hannah yn hwyr i'r gwaith yn aml yn y boreau.

Cafodd Jack ei ddiswyddo o'r cwmni am ymladd â chydweithiwr.

Nid oedd ymddygiad Jack yn y gwaith yn wych o bell ffordd.

Roedd Kate yn goruchwylio chwe aelod o staff ac mae ei harfarniadau'n dangos bod ganddi sgiliau rheoli pobl gwych.

Roedd Kate yn goruchwylio chwe aelod o staff ac rydym yn meddwl fod ganddi sgiliau rheoli pobl da iawn.

Roedd Jayne wedi cydymffurfio â phump allan o'i 12 terfyn amser misol yn 2012.

Nid oedd Jayne yn ddibynadwy.

 

1. oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a cyfeiriadedd rhywiol.