Canllawiau Safonau Ymddygiad (Gwerthoedd craidd diwygiedig) - Hydref 2024

14. Aflonyddu trydydd parti

Trydydd parti yw rhywun y mae gweithiwr yn rhyngweithio ag ef/hi fel rhan o'i swydd ond nad yw'n cael ei gyflogi gan yr Awdurdod.

Dyma rai enghreifftiau:

  • Preswylydd – ymwelydd â chanolfan gyswllt neu Hwb.
  • Defnyddiwr gwasanaeth – mewn cartref wrth ofalu amdanynt.
  • Cyswllt busnes – mewn cyfarfod neu mewn cynhadledd.
  • Unrhyw staff nad ydynt yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol, fel contractwyr, ymgynghorwyr neu weithwyr asiantaeth.
  • Rhieni yn rhyngweithio â staff a gyflogir gan un o ysgolion yr Awdurdod.

Gall aflonyddu trydydd parti arwain at atebolrwydd cyfreithiol ac ni chaiff ei oddef.

Fe'ch anogir i roi gwybod i'ch rheolwr llinell yn y lle cyntaf am unrhyw achos o aflonyddu trydydd parti, a'i gofnodi'n ffurfiol gan ddefnyddio gweithdrefnau adrodd; gweithdrefnau adrodd damweiniau a digwyddiadau yr Awdurdod.

Cynghorir rheolwyr i gymryd camau rhagweithiol a rhesymol i atal aflonyddu posibl gan drydydd partïon. Er enghraifft:

  • Cyfathrebu allanol yn rhannu polisi'r Awdurdod ar aflonyddu trydydd parti yn gorfforaethol neu cyn ymgysylltu â grwpiau trydydd parti, e.e. cyfarfodydd ymgynghori cyhoeddus.
  • Arddangos arwyddion, lle bo'n briodol, fydd yn amlwg iawn i drydydd partïon, yn nodi na oddefir aflonyddu o unrhyw fath gan drydydd parti.
  • Defnyddio negeseuon wedi'u recordio ar ddechrau galwadau ffôn yn nodi'r ymddygiad a ddisgwylir tuag at weithwyr a pha gamau a gymerir os bydd ymddygiad amhriodol.
  • Adolygu Diogelwch personol ac asesiadau risg ar gyfer y tîm, gan ystyried aflonyddu trydydd parti fel risg benodol.
  • Cymryd camau dilynol priodol os bydd achos o aflonyddu trydydd parti, gan ofyn am gyngor gan Bartneriaid Busnes Rheoli Pobl (Adnoddau Dynol, Dysgu a Datblygu a/neu Iechyd Galwedigaethol, Diogelwch a Llesiant) fel y bo'n briodol.