Canllawiau Safonau Ymddygiad (Gwerthoedd craidd diwygiedig) - Hydref 2024

Atodiad 1 - Diffiniadau

Bwlio
Diffiniad
Gellir diffinio bwlio fel a ganlyn "ymddygiad atgas, bygythiol, maleisus, sarhaus neu iselhaol, cam-drin grym neu awdurdod mewn ymgais i danseilio unigolyn neu grŵp o weithwyr a all beri iddynt ddioddef straen".

Aflonyddu
Diffiniad
Mae'n anodd pennu beth yn union yw diffiniad aflonyddu. Fodd bynnag, a siarad yn gyffredinol, mae'n cynnwys amryw fathau o ymddygiad nad oes ei eisiau, sy'n bychanu neu'n atgas i'r sawl dan sylw ac sy'n digwydd gyda'r bwriad neu gyda'r effaith o darfu ar urddas yr unigolyn neu greu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, iselhaol neu atgas. Bydd yr ymddygiad a welir yn amrywio yn ôl y math o aflonyddu sydd ar waith. Gall hyn fod yn seiliedig ar:

Oedran
Gwawdio neu fychanu ar sail barn a rhagfarn ystrydebol ar oed a phrofiad unigolyn.

Anabledd
Trin pobl yn ddiurddas, eu gwawdio neu eu heithrio oherwydd eu hanabledd, oherwydd eu bod neu oherwydd y credir eu bod yn agored i niwed neu'n llai annibynnol.

Hil
Gweithred neu gyfres o weithredoedd sy'n targedu unigolyn neu grŵp o bobl oherwydd lliw eu croen, eu hil, eu cenedligrwydd, eu tarddiad ethnig neu wahaniaethau o ran diwylliant. Mae'n gallu amrywio o greu awyrgylch anghysurus neu annymunol i gam-drin corfforol.

Crefydd neu Gred
Ymddygiad sy'n gymdeithasol annerbyniol ac sy'n fethiant i oddef na chydnabod hawliau neu anghenion unigolion sydd â chred, daliadau ac arferion crefyddol gwahanol.

Rhywedd
Sylwadau nad oes eu heisiau neu sylwadau difrïol a wneir ar sail canfyddiadau a rhagfarnau ystrydebol.

Aflonyddu Rhywiol
Ymddygiad o natur rywiol nad oes ei eisiau e.e. ymagweddu rhywiol (corfforol neu eiriol), cynigion, fflyrtio atgas, ensyniadau, sylwadau anweddus, edrych mewn modd anllad a chwibanu neu arddangos defnyddiau awgrymog neu bornograffig.

Nodweddion/Dewisiadau Personol
Ymddygiad sy'n beio neu'n gwawdio ar sail nodweddion personol neu ffordd o fyw.

Cyfeiriadedd rhywiol/rhamantaidd
Ymddygiad sy'n beio neu'n gwawdio ar sail atyniad rhywiol rhywun at bobl eraill, neu ddiffyg atyniad. Ynghyd â chyfeiriadedd rhamantaidd, mae hwn yn rhan o hunaniaeth cyfeiriadedd person.

Ailbennu rhywedd, hunaniaeth o ran rhywedd a mynegiant rhywedd
Ymddygiad sy'n beio, yn gwawdio neu'n eithrio pobl o ganlyniad i ailbennu rhywedd, eu hunaniaeth o ran rhywedd a'u mynegiant rhywedd.

Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr nac yn ddethol.

Mae enghreifftiau o fwlio ac aflonyddu ar sail cyfeiriadedd rhywiol a mynegiant/hunaniaeth rhywedd yn cynnwys:

  • gwneud sylwadau sarhaus a bygythiadau mewn ffordd homoffobig, ddeuffobig a thrawsffobig.
  • cyfeirio'n ddiangen ac yn ddiraddiol at gyfeiriadedd rhywiol/rhamantaidd unigolyn a'i hunaniaeth neu ei fynegant o ran rhywedd.
  • cyfrannu at gellwair neu jôcs sy'n ddiraddiol i gyfeiriadedd rhywiol unigolyn, ei gyfeiriadedd rhywiol/rhamantaidd canfyddedig neu ei hunaniaeth neu fynegiant o ran rhywedd.
  • datgelu bod unigolyn yn unigolyn LGBTQ+ heb gael ei ganiatâd.
  • anwybyddu neu eithrio cydweithiwr o weithgareddau oherwydd ei fod yn LGBTQ+.
  • lledaenu sïon neu glecs am gyfeiriadedd rhywiol unigolyn neu ei hunaniaeth neu fynegiant o ran rhywedd.
  • gofyn cwestiynau busneslyd i gydweithiwr LGBTQ+ am ei fywyd preifat.
  • gwneud rhagdybiaethau am gydweithiwr a'i farnu ar sail ei gyfeiriadedd rhywiol/rhamantaidd neu ei hunaniaeth/mynegiant o ran rhywedd.
  • defnyddio credoau crefyddol i gyfiawnhau cyfeiriadedd rhywiol/rhamantaidd neu fwlio ac aflonyddu sy'n seiliedig ar hunaniaeth neu fynegiant o ran rhywedd.
  • gwadu bod deurywioldeb yn gyfeiriadedd rhywiol dilys, neu ystrydebau negyddol am bobl sy'n ddeurywiol (megis credu eu bod yn amlgymharus neu'n anonest). Deurywiol – term ymbarél a ddefnyddir i ddisgrifio cyfeiriadedd emosiynol, rhamantaidd a/neu rywiol tuag at fwy nag un rhywedd. (Gall pobl ddeurywiol ddisgrifio'u hunain gan ddefnyddio un neu fwy o blith amrywiaeth o dermau, gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, deurywiol, panrywiol, deu-chwilfrydig, cwiar, a hunaniaethau eraill nad ydynt yn unrhywiol neu'n unrhamantaidd).

Gall gweithiwr LGBTQ+ sydd wedi'i dargedu oherwydd ei gyfeiriadedd rhywiol/rhamantaidd fod yn amharod i roi gwybod am hynny i gydweithiwr neu ei reolwr os yw'n poeni am gyfrinachedd, labelu neu fictimeiddio pellach. Os bydd gweithiwr yn teimlo na all roi gwybod am y digwyddiad i'w reolwr yn gyntaf, gall gysylltu â Phartner Busnes Adnoddau Dynol neu gynrychiolydd undeb llafur yn gyfrinachol.

Yn ogystal, o Hydref 2010, mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn nodi bod aflonyddu hefyd yn cynnwys y canlynol:

Aflonyddu ar sail cysylltiad. Mae'n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn neu aflonyddu unrhyw unigolyn am ei gysylltiad ag unigolyn arall sydd â nodwedd warchodedig (oni bai am briodas a phartneriaeth sifil, a beichiogrwydd a mamolaeth). Er enghraifft, byddai tynnu coes unigolyn o hyd ac o hyd gan gredu'n anghywir ei fod yn fyddar yn fath o aflonyddu. Yn yr un modd, os yw unigolyn yn cael ei fwlio neu ei aflonyddu oherwydd person arall sy'n gysylltiedig â'r unigolyn, er enghraifft os yw plentyn yr unigolyn yn anabl, os yw partner yr unigolyn yn feichiog neu os yw ffrind yr unigolyn yn Gristion selog, caiff hyn ei ystyried yn fath o aflonyddu.

Aflonyddu yn seiliedig ar dybiaeth Mae'n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn neu aflonyddu unrhyw unigolyn yn seiliedig ar ganfyddiad fod ganddo nodwedd warchodedig benodol (oni bai am briodas a phartneriaeth sifil, a beichiogrwydd a mamolaeth) pan nad oes ganddo, mewn gwirionedd, y nodwedd warchodedig honno. Os gelwir enwau neu gwneir sbri am ben gweithiwr oherwydd bod ei gydweithwyr yn credu ei fod yn drawsryweddol, gallai honni ei fod yn dioddef o aflonyddu mewn perthynas â nodwedd warchodedig o ran ailbennu rhywedd (rydym yn cynnwys hunaniaeth o ran rhywedd a mynegiant rhywedd yn y diffiniad hwn), er nad yw'n berson trawsrywiol.

Nid yw bwlio neu aflonyddu yn dibynnu ar safle nac awdurdod yr unigolyn. Mae'n amlwg bod tebygrwydd rhwng bwlio ac aflonyddu ond y mae hefyd un gwahaniaeth hollbwysig sef mai gwahaniaethu sydd wrth wraidd pob aflonyddu.