Canllawiau Safonau Ymddygiad (Gwerthoedd craidd diwygiedig) - Hydref 2024
Yn yr adran hon
- 1. Cyflwyniad
- 2. Cwmpas
- 3. Cyfrinachedd
- 4. Rolau a chyfrifoldebau
- 5. Ymddygiad derbyniol
- 6. Ymddygiad annerbyniol
- 7. Diffinio gwahaniaethu (uniongyrchol neu anuniongyrchol), fictimeiddio, bwlio, aflonyddu rhywiol ac aflonyddu
- 8. Seiberfwlio
- 9. Penderfynu p'un a yw ymddygiad annerbyniol yn digwydd.
- 10. Galluogrwydd, ymddygiad a rheoli cadarnhaol
- 11. Dysgu a Datblygu
- 12. Datrys pryderon ynghylch ymddygiad annerbyniol
- 13. Camau ffurfiol
- 14. Aflonyddu trydydd parti
- 15. Cwynion Maleisus
- 16. Sicrhau cyfle cyfartal
- Atodiad 1 - Diffiniadau
- Atodiad 2 - Rheoli Perfformiad
- Atodiad 3 - Ffyrdd Anffurfiol o Ddatrys Gwrthdaro
- Atodiad 4 - Rheoli Gwrthdaro
- Atodiad 5
Atodiad 3 - Ffyrdd Anffurfiol o Ddatrys Gwrthdaro
1. Cyfathrebu Uniongyrchol
Os yw eich trafodaethau fel pe baent yn “mynd i unman” rhowch gynnig ar ffordd arall. Er enghraifft, os nad yw'r person yn ateb eich negeseuon ffôn, rhowch gynnig ar sgwrs drwy e-bost neu sgwrs wyneb yn wyneb. Os yw eich sgyrsiau ar lafar yn troi mewn cylchoedd, ceisiwch gynnwys person arall i hwyluso'r sgwrs neu ysgrifennwch lythyr.
2. Esbonio'r effaith arnoch eich hun
Un ffordd o wella parch wrth gael trafodaeth anodd yw defnyddio datganiadau sy'n dechrau gyda'r person cyntaf yn hytrach na'r ail berson h.y. esbonio sut ydych chi'n teimlo a beth yr hoffech ei gael yn hytrach na dehongli neu farnu beth wnaeth y parti arall neu ddyfalu cymhellion y parti arall.
Amrywiad ar y dull hwn yw esbonio:
Pan wnaethoch…. Rwy'n teimlo.... Ai dyma'r hyn oeddech chi'n ei fwriadu?
Hynny yw, rydych yn esbonio mewn modd mor ffeithiol ag sy'n bosibl sut y gwnaethoch ymateb i'r hyn a ddywedwyd neu a wnaed gan y person arall (neu na wnaed), ac wedyn yn esbonio sut rydych chi'n teimlo y mae hyn wedi effeithio ar eich perthynas waith. Gallwch wedyn ofyn i'r person arall ymateb.
Gallai'r person arall (neu'r bobl eraill) gyfaddef mai eu bwriad yn wir oedd creu mwy o bellter rhyngoch. Ar y llaw arall, gallent gydnabod bod hyn yn ganlyniad anfwriadol i'r hyn a wnaethant, a dechrau trafodaeth ar sut i newid eu ffordd o gyfathrebu a gwella eich perthynas yn y dyfodol.
3. Ysgrifennu Llythyr
Gall ysgrifennu eich meddyliau fod o help mawr i chi er mwyn cael pethau'n glir a meddwl am yr hyn rydych am ei ddweud a sut rydych am ei ddweud wrth y person arall - a fydd yn gallu darllen y llythyr ac adfyfyrio ar ei gynnwys mewn preifatrwydd, heb y pwysau o orfod rhoi ymateb i chi ar unwaith.
Dylai fod gan lythyr 3 rhan:
a. Y ffeithiau fel rydych yn eu gweld - heb unrhyw ddehongliadau neu farnau. Yr hyn y byddai tâp sain neu dâp fideo yn ei recordio.
b. Eich teimladau neu'ch adweithiau. Yr effaith, yr anawsterau neu'r niwed sy'n bodoli yn awr.
c. Y ffyrdd o wella pethau yr ydych yn eu cynnig. Beth ydych chi'n meddwl ddylai ddigwydd nesaf, eich syniadau ar gyfer camau nesaf adeiladol, neu “reolau sylfaenol” ar gyfer y dyfodol.
Weithiau mae hi o gymorth i ysgrifennu llythyr, hyd yn oed os nad ydych yn ei roi i'r person arall neu'r bobl eraill. Gallai fod o gymorth i chi ddeall eich teimladau a nodi eich blaenoriaethau, a gall hefyd weithredu fel “sgript” ar gyfer yr hyn rydych am ei bwysleisio pan fyddwch yn siarad uniongyrchol â'r parti arall.
4. Gofyn i drydydd parti diduedd hwyluso
Weithiau mae o gymorth i gynnwys rhywun annibynnol a diduedd i helpu'r cyfathrebu rhyngoch chi a'r sawl y gallech fod yn cael trwbl gydag ef/hi, a'ch helpu i ddatrys eich pryderon mewn modd adeiladol. Gallai'r person hwn fod eich rheolwr llinell, cynrychiolydd Undeb Llafur neu Bartner Busnes Adnoddau Dynol a all ddefnyddio ei sgiliau i hwyluso rhwng unigolion yn anffurfiol. Rhaid i bawb sy'n ymwneud â'r broses gadw cyfrinachedd llwyr.