Canllawiau Safonau Ymddygiad (Gwerthoedd craidd diwygiedig) - Hydref 2024

Atodiad 4 - Rheoli Gwrthdaro

Canllaw i Reolwyr

Rheoli gwrthdaro rhwng unigolion

1. Cael gair tawel

Mewn llawer o anghydfodau rhwng unigolion ceir newid clir o gam anffurfiol i gam ffurfiol yn y gwrthdaro.

Mae'r cam anffurfiol yn aml yn golygu siarad â'ch gweithwyr, a gwrando arnynt. Yn aml gall rhoi amser a lle i bobl fynegi eu teimladau a'u pryderon helpu i glirio'r aer.

Mae angen i weithwyr wybod hefyd:

  • y gallant siarad â chi os oes ganddynt broblem yn y gwaith.
  • y byddwch yn gwrando arnynt ac yn cymryd eu pryderon o ddifrif; a
  • â phwy y gallant siarad os ydynt yn ei chael hi'n anodd trafod eu pryderon â chi, e.e. yr Adran Adnoddau Dynol.

Mae'n helpu os gallwch feithrin diwylliant yn eich tîm sy'n annog gweithwyr i fynegi eu barn a meddwl am ffyrdd o ddatrys problemau.

2. Ymchwilio'n anffurfiol

Peidiwch â gwneud penderfyniadau cyflym ar sail teimlad greddfol ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd. Cymerwch amser i siarad ag aelodau'r tîm, cydweithwyr a chasglu unrhyw wybodaeth berthnasol am y bobl sydd yn ymwneud â'r mater. Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi siarad ag aelod o'r adran Adnoddau Dynol er mwyn cael cyngor neu gallai cydweithiwr neu oruchwyliwr fod yn ymwybodol o unrhyw broblemau personol sy'n effeithio ar berfformiad gweithiwr.

Mae angen i chi hefyd fod yn glir ynghylch eich rôl yn y broses o ddatrys y gwrthdaro a'r hyn yr ydych yn gobeithio ei gyflawni. Bydd gan y rhan fwyaf o bobl sy'n cael eu hunain mewn gwrthdaro eu syniadau eu hunain ynghylch yr hyn yr hoffent ei weld yn digwydd, ond beth fyddai'n ganlyniad rhesymol i bawb?

3. Defnyddio gweithdrefnau mewnol yr Awdurdod

Os yw gweithiwr yn gwneud cwyn swyddogol i chi yna mae'r gwrthdaro wedi symud tuag at gam mwy ffurfiol. Os yw hyn yn digwydd mae angen i chi gyfeirio at Bolisi Achwyniadau'r Awdurdod wrth ddelio ag achwyniadau, bwlio neu aflonyddu - yn ogystal â'r Polisi Disgyblu ar gyfer camymddwyn, y Polisi Galluogrwydd ar gyfer perfformiad gwael a'r Polisi Absenoldeb Salwch. Ceir hefyd weithdrefnau ar wahân ar gyfer ymdrin ag anghydfodau torfol.

4. Gwella eich sgiliau fel rheolwr

Mae cael sgyrsiau un i un gyda gweithwyr a rheolwyr eraill yn gofyn am gryn dipyn o sensitifrwydd ac empathi. Mae angen i chi:

  • wrando ar yr hyn y mae gweithwyr yn ei ddweud a cheisio sylwi ar unrhyw ffactorau sylfaenol sy'n achosi anhapusrwydd neu straen.
  • holi gweithwyr mewn modd pwyllog a digynnwrf, gan roi tawelwch meddwl iddynt a'r cyfle i siarad yn rhydd.
  • ailfframio'r hyn a ddywedwyd fel bod modd gweld problemau mewn goleuni gwahanol.
  • adeiladu timau trwy ffurfio cysylltiadau rhwng buddion yr unigolyn a buddion y tîm, eich adran neu'r Awdurdod.
  • arwain trwy esiampl a gosod y cywair cywir ar gyfer y ffordd y mae pobl yn cyfathrebu â'i gilydd yn eich tîm a sicrhau bod yna barch tuag at amrywiaeth (gweler Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yr Awdurdod a gwnewch yn siŵr fod eich tîm yn ymwybodol o hyn hefyd).

Gall hyfforddiant a datblygiad eich helpu i fod yn ymwybodol o'r materion cyflogaeth cyfredol a chadw eich sgiliau rheoli'n gyfoes. Edrychwch ar Bolisi Dysgu a Datblygu'r Awdurdod a gofynnwch am gyngor gan eich Ymgynghorydd Dysgu a Datblygu Corfforaethol.

Ceir hefyd ystod o gyfleoedd hyfforddiant a datblygu ar gyfer eich tîm os oes gennych bryderon ynghylch dynameg tîm ac ati, a bydd y tîm Dysgu a Datblygu yn gallu rhoi cyngor.

5. Ystyried cael help

Yn aml mae rheoli gwrthdaro rhwng gweithwyr yn fater o ddeall y canfyddiadau sydd gan un person o'r person arall. Canfyddiad yw'r broses o ddehongli'r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu am bobl eraill - trwy wrando, siarad, arsylwi a rhyngweithio'n gyffredinol.

Weithiau gall ymdrin â'r canfyddiadau hyn brofi eich sgiliau rheoli pobl i'r eithaf. Efallai y bydd angen hyfforddiant arbennig arnoch - neu sgiliau parti allanol - i reoli gwrthdaro'n llwyddiannus. Yn yr amgylchiadau hyn gallwch ofyn am gyngor gan Adnoddau Dynol a all eich cynorthwyo i nodi technegau i helpu rheolwyr i archwilio eu ffyrdd eu hunain o ddatrys heriau yn y gwaith, a'r tîm dysgu a datblygu corfforaethol a fydd yn gallu eich cynghori ynghylch y cymorth sydd ar gael i ddatblygu eich sgil, eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o ddatrys gwrthdaro.