Canllawiau Safonau Ymddygiad (Gwerthoedd craidd diwygiedig) - Hydref 2024

15. Cwynion Maleisus

Ar adegau, gellir ystyried bod y pryderon a wneir yn faleisus neu wedi eu chwyddo ormod o lawer, yn ddi-sail a/neu'n ymgais pur i ddifrïo cydweithiwr mewn rhyw ffordd. Bydd angen i'ch rheolwr sy'n ymdrin â'r pryderon ystyried y camau gweithredu priodol yn dilyn cael cyngor oddi wrth Bartner Busnes Adnoddau Dynol. Gellir defnyddio'r Gweithdrefnau Disgyblu yn y sefyllfa hon, fodd bynnag:

  • ni fydd gweithwyr yn destun camau disgyblu nac unrhyw niwed arall dim ond oherwydd nad yw eu cwyn yn cael ei chadarnhau, a
  • bydd gweithwyr dim ond yn wynebu camau disgyblu os canfyddir bod yr honiad yn ffug a heb ei wneud yn ddidwyll (hynny yw, heb gredu'n onest mai dyna yw'r gwir).