Canllawiau Safonau Ymddygiad (Gwerthoedd craidd diwygiedig) - Hydref 2024

7. Diffinio gwahaniaethu (uniongyrchol neu anuniongyrchol), fictimeiddio, bwlio, aflonyddu rhywiol ac aflonyddu

Mae gwahaniaethu uniongyrchol yn driniaeth llai ffafriol yn uniongyrchol oherwydd nodwedd warchodedig.

Enghraifft:

Mae Geraint eisiau gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Mae'n gwneud cais am swydd yn y tîm gofal cymdeithasol, ond mae ei gais yn cael ei wrthod oherwydd bod y tîm yn credu bod gan fenywod well sgiliau gofalu ac y byddai ganddynt fwy o hygrededd gyda chleientiaid. Gwahaniaethu uniongyrchol oherwydd rhyw yw hyn.

Gwahaniaethu anuniongyrchol yw pan fydd pawb yn cael eu trin yr un fath ond bod pobl â nodwedd warchodedig dan anfantais.

Enghraifft:

Mae gan Jay ddiabetes math 1 ac mae'n gweithio fel cynorthwyydd arlwyo mewn ysgol. Mae'r goruchwyliwr yn mynnu bod pawb yn cael egwyl ar yr un pryd, heb unrhyw seibiannau eraill. Weithiau mae angen rhywbeth i'w fwyta ar Jay rhwng prydau bwyd i helpu i reoli ei ddiabetes. Mae goruchwyliwr Jay yn dweud na fydd unrhyw newidiadau'n cael eu gwneud i'r arfer hwn. Gwahaniaethu anuniongyrchol yw hyn.

Fictimeiddio yw pan fydd rhywun yn cael ei drin yn llai ffafriol oherwydd ei fod yn ymwneud â chwyn ynghylch gwahaniaethu neu aflonyddu ac mae'n fath penodol o wahaniaethu o dan y gyfraith (Deddf Cydraddoldeb 2010).

Enghraifft:

Roedd Luca yn dyst mewn tribiwnlys cyflogaeth, yn cefnogi cydweithiwr a oedd yn honni gwahaniaethu ar sail rhyw.

Mae Luca yn gwneud cais am ddyrchafiad ac nid yw'n ei gael. Mae aelod o'r panel dethol yn dweud bod Luca yn un sy'n hoff o achosi trwbl a wnaeth gefnogi honiad o wahaniaethu yn erbyn y cwmni.

Os mai dyma'r rheswm dros benderfyniad y panel, mae Luca yn cael ei fictimeiddio.

Caiff bwlio ei ddiffinio fel “ymddygiad tramgwyddus, bygythiol, maleisus neu sarhaus, camddefnyddio grym trwy ddulliau sy'n tanseilio, bychanu, dirmygu neu niweidio'r derbynnydd”.

Enghreifftiau:

  • beirniadu gwaith rhywun yn gyson.
  • lledaenu sïon maleisus am rywun.
  • rhoi rhywun i lawr yn gyson mewn cyfarfodydd.
  • rhoi llwyth gwaith trymach na phawb arall i rywun yn fwriadol.
  • gadael rhywun allan o ddigwyddiadau cymdeithasol tîm.
  • rhoi sylwadau neu luniau ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n bychanu, yn tramgwyddo neu'n bygwth.

Gall bwlio ddigwydd hefyd gan staff tuag at rywun mewn swydd uwch; rheolwr er enghraifft. Weithiau gelwir hyn yn 'upward bullying' neu 'subordinate bullying'. Gall fod gan un gweithiwr neu grŵp o weithwyr.

Gall enghreifftiau o 'upward bullying' gynnwys:

  • dangos amarch yn barhaus.
  • gwrthod cyflawni tasgau.
  • lledaenu sïon.
  • tanseilio awdurdod rhywun yn gyson.
  • gwneud pethau fel bod rhywun yn ymddangos heb sgiliau neu'n methu â gwneud ei waith yn iawn.

Gall fod yn anodd i rywun sydd mewn rôl reoli neu arwain sylweddoli bod staff yn ei fwlio. Mae'n bwysig ystyried y rhesymau go iawn dros yr ymddygiad. Er enghraifft, efallai fod problem ehangach o ran diwylliant y tîm y gellir ei chlustnodi a'i thaclo.

Digwydd aflonyddu rhywiol pan fydd gweithiwr yn destun ymddygiad nas dymunir, a bod hwnnw o natur rywiol. Nid oes yn rhaid i'r ymddygiad fod wedi'i gymell yn rhywiol, dim ond bod yn rhywiol ei natur.

Enghreifftiau:

Mae gweithiwr gwrywaidd yn newid delwedd bornograffig trwy gludo delwedd o'i gydweithwraig arni. Yna mae'n anfon y ddelwedd at gydweithwyr eraill, sy'n ei gwawdio. Nid oedd y weithred hon wedi'i chymell yn rhywiol, ond mae'r defnydd o'r ddelwedd yn rhywiol ei natur.

Mae gweithiwr benywaidd yn cael perthynas rywiol am gyfnod byr gyda'i goruchwyliwr. Mae'r gweithiwr yn dweud wrth ei goruchwyliwr ei bod yn credu mai camgymeriad oedd y cwbl a'i bod am i'r berthynas ddod i ben. Drannoeth, mae'r goruchwyliwr yn cydio yn y gweithiwr wrth ei phen-ôl ac yn dweud, 'Dere mlân, stop esgus bo ti ddim moyn fi’. Er bod y berthynas rywiol wreiddiol yn gydsyniol, mae ymddygiad y goruchwyliwr wedi i'r berthynas ddod i ben yn ymddygiad nas dymunir o natur rywiol.

Mae ymddygiad 'o natur rywiol' yn cynnwys ystod eang o ymddygiad, megis:

  • sylwadau neu jôcs rhywiol.
  • arddangos lluniau, posteri neu ffotograffau sy'n graffig yn rhywiol.
  • syllu neu edrych yn awgrymog neu'n chwantus.
  • gwneud cynigion ac ymagweddu rhywiol.
  • gwneud addewidion yn gyfnewid am ffafrau rhywiol.
  • ystumiau rhywiol.
  • cwestiynau busnesgar am fywyd preifat neu rywiol unigolyn neu berson yn trafod ei fywyd rhywiol ei hun.
  • negeseuon neu gyswllt rhywiol ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • lledaenu sïon rhywiol am berson.
  • anfon negeseuon e-bost neu negeseuon testun sy'n amlwg-rywiol, ac
  • unrhyw gyffwrdd, cofleidio, tylino neu gusanu nas dymunir.

Gall unigolyn brofi ymddygiad nas dymunir gan rywun o'r un rhyw neu ryw gwahanol.

Nid ystyrir rhyngweithio rhywiol sy'n cael ei wahodd, yn digwydd o'r ddwy ochr, neu'n gydsyniol yn aflonyddu rhywiol, gan y'i dymunir. Fodd bynnag, gall ymddygiad rhywiol yr oedd croeso iddo yn y gorffennol droi'n ymddygiad nas dymunir.

Caiff aflonyddu ei ddiffinio fel “ymddygiad nas dymunir sy'n ymwneud â nodwedd warchodedig berthnasol, sydd â'r pwrpas neu'r effaith o darfu ar urddas unigolyn neu greu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, bychanol neu dramgwyddus ar gyfer yr unigolyn hwnnw”. Gall ymddygiad sy'n cael un o'r effeithiau hyn ar rywun gael ei ystyried yn aflonyddu hyd yn oed os nad oedd yr effaith honno'n fwriadol.

Y nodweddion gwarchodedig perthnasol yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd (gan gynnwys hunaniaeth o ran rhywedd a mynegiant rhywedd), hil (gan gynnwys lliw, cenedligrwydd ac ethnigrwydd), crefydd, cred neu ddiffyg cred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol/rhamantaidd.

Enghreifftiau:

Mae gweithiwr Sicaidd yn gwisgo twrban i weithio. Mae ei reolwr yn ei gamgymryd am Fwslim ac yn gwneud sylwadau Islamoffobig dilornus tuag ato. Gallai'r gweithiwr wneud honiad o aflonyddu yn ymwneud â chrefydd neu gred oherwydd canfyddiad ei reolwr o'i grefydd.

Mae gweithiwr yn destun tynnu coes homoffobig a galw enwau, er bod ei chydweithwyr yn gwybod nad yw'n hoyw. Oherwydd bod y gamdriniaeth yn ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol, gallai hyn fod yn gyfystyr ag aflonyddu cysylltiedig â chyfeiriadedd rhywiol.

Mae ymddygiad nas dymunir, sydd yn ei hanfod yn golygu'r un peth â 'digroeso' neu 'diwahoddiad', yn cwmpasu ystod eang o ymddygiad. Gall gynnwys:

  • geiriau llafar.
  • tynnu coes.
  • geiriau ysgrifenedig.
  • negeseuon neu gyswllt ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • delweddau.
  • graffiti.
  • ystumiau corfforol.
  • mynegiant yr wyneb.
  • dynwared.
  • jôcs neu stranciau.
  • gweithredoedd sy'n effeithio ar amgylchoedd person.
  • ymddygiad ymosodol, ac
  • ymddygiad corfforol tuag at berson neu ei eiddo.

Mae'r enghreifftiau canlynol yn dangos yr amrywiaeth o ffyrdd y gall ymddygiad annerbyniol ddigwydd. Nid yw'r rhestr yn ddethol nac yn gynhwysfawr; mae'n dangos amrywiaeth o arwyddion posibl o ymddygiad annerbyniol:

  • Defnyddio iaith ymosodol, bygwth, gwatwar, anwybyddu pobl neu weiddi.
  • Rhoi'r bai ar eraill.
  • Cyfathrebu â phobl gartref yn ddiangen (yn enwedig, mynnu gwaith pan fydd y person yn absennol oherwydd salwch neu afiechyd).
  • Canolbwyntio ar wendidau yn unig.
  • Crybwyll manylion bywyd preifat unigolyn.
  • Gadael rhestrau hir amhosibl o dasgau a gwneud gofynion afresymol.
  • Beirniadu pobl yn eu habsenoldeb.
  • Sylwadau neu jôcs amhriodol.
  • Holi unigolion am eu perthynas/dewisiadau rhywiol/rhamantaidd.
  • Sylwadau cyson am agweddau o olwg corfforol neu ddefnyddio cyfeiriadau sy'n fychanol.
  • Syllu, edrych mewn modd chwantus neu edrych yn awgrymog ar rannau o'r corff.
  • Cyswllt corfforol sy'n cynnwys cyffwrdd digroeso o unrhyw fath.
  • Ymagweddu rhywiol digroeso.
  • Defnyddio pinyps, posteri neu ddelweddau electronig e.e. lluniau pornograffig, delweddau annerbyniol.
  • Sylwadau am oedran, hil (gan gynnwys lliw, cenedligrwydd ac ethnigrwydd), rhyw, ailbennu rhywedd (gan gynnwys hunaniaeth o ran rhywedd a mynegiant rhywedd), anabledd, cyfeiriadedd rhywiol/rhamantaidd a chrefydd neu gred (gan gynnwys diffyg cred), priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, neu eithrio cydweithiwr o sgyrsiau neu weithgareddau yn y gweithle ar sail un o'r rhain.
  • Bygwth neu awgrymu y byddwch yn achosi i'r unigolyn golli ei swydd neu fethu â chael dyrchafiad neu ddioddef rhyw fath arall o anhawster o ran gyrfa neu anfantais ariannol. Gall hyn hefyd gynnwys gwahodd gweithwyr i adael eu swydd os ydynt yn mynegi pryder.
  • Defnyddio iaith a/neu ystumiau mewn ffordd fel y mae rhywun yn ofni am ei ddiogelwch personol.
  • Gorfodi neu annog rhywun i fod yn rhan o aflonyddu neu fwlio person arall.

I gael rhagor o fanylion ynghylch diffiniadau o fwlio ac aflonyddu, cyfeiriwch at Atodiad 1.