Canllawiau Safonau Ymddygiad (Gwerthoedd craidd diwygiedig) - Hydref 2024

4. Rolau a chyfrifoldebau

4.1 Pobl, Digidol a Pholisi

Bydd Tîm Partneru Busnes Adnoddau Dynol yn rhoi cyngor i chi a'ch rheolwr ynghylch defnyddio'r canllawiau hyn a'u polisïau a'u gweithdrefnau cysylltiedig.

Bydd y Tîm Dysgu a Datblygu yn eich cynorthwyo chi a'ch rheolwr i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth o reoli gwrthdaro.

Bydd y Tîm Iechyd Galwedigaethol, Diogelwch a Llesiant yn eich cynorthwyo chi a'ch rheolwr i gael cymorth iechyd, diogelwch a llesiant priodol.

 

4.2 RheolwyrRheolwyr

Mae eich goruchwylydd a'ch rheolwr yn gyfrifol am sicrhau eich bod chi a'ch tîm yn cyflawni eich holl ddyletswyddau yn unol â'r canllawiau hyn a pholisïau cysylltiedig drwy:

  • arwain drwy esiampl a gwella galluoedd o ran arweinyddiaeth bersonol, hybu safonau uchel o ran ymddygiad, rheoli gwrthdaro'n effeithiol a chymryd rhan briodol mewn gwaith datblygu rheoli perthnasol.
  • sicrhau bod y canllawiau hyn yn cael eu rhannu â'ch tîm a sicrhau eich bod yn deall eich cyfrifoldebau personol.
  • herio ymddygiad amhriodol yn y gweithle yn brydlon a hybu perthnasoedd cadarnhaol rhwng gweithwyr.
  • nodi eich anghenion hyfforddiant a datblygu unigol chi a'ch tîm mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth fel rhan o'r broses arfarnu.
  • sicrhau bod safonau iechyd, diogelwch a llesiant yn cael eu cynnal yn rhesymol a chynnal asesiadau risg yn y gweithle. Ystyried mesurau ataliol i liniaru ymddygiad amhriodol, yn cynnwys gan drydydd partïon.

 

4.3 Eich cyfrifoldebau

Rydych chi'n bersonol gyfrifol am sicrhau eich bod yn cefnogi mewn modd cadarnhaol egwyddorion a gwerthoedd y canllawiau hyn, yn hybu cysylltiadau cadarnhaol â gweithwyr, yn herio ymddygiad amhriodol ac yn cynnal yr egwyddorion a nodir yn y Côd Ymddygiad Gweithwyr, y Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a chanllawiau a pholisïau cysylltiedig eraill. Dylech ystyried eich anghenion datblygu eich hun mewn perthynas â'r canllawiau fel rhan o'r broses arfarnu.

Rhaid i chi:

  • Trin pawb ag urddas, ymddiriedaeth a pharch.
  • Bod yn ymwybodol o effaith ein hymddygiad ein hunain ar eraill.
  • Cyfathrebu'n onest ac yn agored, gan ddweud yn glir beth rydych yn ei olygu a beth rydych yn ei ddisgwyl gan eraill.
  • Darparu adborth gonest yn seiliedig ar dystiolaeth a bod yn agored i feirniadaeth adeiladol.