Canllawiau Safonau Ymddygiad (Gwerthoedd craidd diwygiedig) - Hydref 2024

8. Seiberfwlio

Mae'r enghreifftiau o seiberfwlio neu aflonyddu gan ddefnyddio dulliau electronig yn cynnwys:

  • Neges e-bost dramgwyddus - anfon negeseuon e-bost tramgwyddus at gydweithiwr neu drydydd parti arall hyd yn oed os yw i fod yn jôc, lle gallai person gael ei dramgwyddo gan gynnwys y neges neu unrhyw atodiadau.
  • Bygythiadau trwy e-bost - yn ogystal â bygythiad uniongyrchol gallai hyn hefyd gynnwys negeseuon cymharol ddiniwed o ran eu cynnwys ond gall yr ystyr a awgrymir y tu ôl i'r neges fod yn ffurf ar fwlio.
  • Negeseuon e-bost ymfflamychol - anfon negeseuon e-bost ymosodol a/neu sarhaus at unigolion neu grwpiau o unigolion.
  • Postio sylwadau ar flogiau a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol Nid ydym yn caniatáu mynediad i gyfryngau cymdeithasol yn ystod oriau gwaith neu drwy ein rhwydwaith ar unrhyw adeg heblaw am resymau busnes dilys a lle cafwyd y caniatâd perthnasol. Mewn perthynas â defnyddio cyfryngau cymdeithasol, mae angen i chi fod yn ystyriol o'r ffaith nad defnydd busnes yn unig a all gael effaith yn y gweithle ond hefyd defnydd personol o gyfryngau cymdeithasol y tu allan i'r gweithle. Cyfeiriwch at ein Polisi Cyfryngau cymdeithasol.
  • Copïo unigolion yn fwriadol mewn negeseuon e-bost nad oes angen iddynt wybod am y cynnwys, lle bernir bod hyn yn amhriodol ac sydd â'r bwriad o fychanu neu danseilio unigolyn.