Canllawiau Safonau Ymddygiad (Gwerthoedd craidd diwygiedig) - Hydref 2024
Yn yr adran hon
- 1. Cyflwyniad
- 2. Cwmpas
- 3. Cyfrinachedd
- 4. Rolau a chyfrifoldebau
- 5. Ymddygiad derbyniol
- 6. Ymddygiad annerbyniol
- 7. Diffinio gwahaniaethu (uniongyrchol neu anuniongyrchol), fictimeiddio, bwlio, aflonyddu rhywiol ac aflonyddu
- 8. Seiberfwlio
- 9. Penderfynu p'un a yw ymddygiad annerbyniol yn digwydd.
- 10. Galluogrwydd, ymddygiad a rheoli cadarnhaol
- 11. Dysgu a Datblygu
6. Ymddygiad annerbyniol
Mae ymddygiad annerbyniol yn golygu unrhyw weithred gan unigolyn y gellir ei ddisgrifio fel gwahaniaethu, fictimeiddio, aflonyddu rhywiol, aflonyddu cysylltiedig â nodwedd warchodedig neu fwlio. Mae'n gostus, yn wrthgynhyrchiol ac yn gallu cael effaith ddinistriol ar y rheiny sy'n ei brofi.
Mae deddfwriaeth cyflogaeth yn gwahardd aflonyddu rhywiol sy'n digwydd pan fydd gweithiwr yn destun ymddygiad nas dymunir fel y'i diffinnir yn Adran 7 isod ac sydd o natur rywiol. Nid oes yn rhaid i'r ymddygiad fod wedi'i gymell yn rhywiol, dim ond bod yn rhywiol ei natur.
Mae deddfwriaeth cyflogaeth hefyd yn gwahardd aflonyddu sy'n ymwneud â nodwedd warchodedig berthnasol, h.y. hil (sy'n cynnwys lliw, cenedligrwydd, ethnigrwydd neu darddiadau cenedlaethol); anabledd; crefydd, cred neu ddiffyg cred; oedran; rhyw; ailbennu rhywedd (er nad yw'n ddeddfwriaethol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb rydym yn cydnabod hunaniaeth o ran rhywedd a mynegiant rhywedd yn y diffiniad hwn); cyfeiriadedd rhywiol/rhamantaidd; beichiogrwydd neu famolaeth; statws priodasol neu bartneriaeth sifil; yr Iaith Gymraeg (er nad yw'n ddeddfwriaethol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb rydym yn cydnabod beichiogrwydd neu famolaeth, statws priodasol neu bartneriaeth sifil a'r Iaith Gymraeg) neu nodwedd person arall hyd yn oed pan nad yw'n cael ei gyfeirio atynt, e.e. gall cydweithiwr sy'n dyst i, neu'n sylwi ar, ymddygiad nas dymunir yn erbyn cydweithiwr arall wneud honiad o aflonyddu, heb ystyried nodwedd warchodedig, ble mae'r ymddygiad yn effeithio arno/arni.
O dan Ddeddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997, gall aflonyddu ar rywun fod yn drosedd a/neu gall arwain at gamau sifil gan yr unigolyn sy'n destun yr aflonyddu.
Efallai na fyddai mor glir ymlaen llaw y gallai rhai mathau o ymddygiad fod yn annymunol, neu y gallai beri tramgwydd i unigolyn, e.e. rhai mathau o “dynnu coes”, fflyrtian, gofyn am i rywun gwrdd am ddiod breifat ar ôl gwaith neu ymddygiad oherwydd anabledd dysgu neu gyflwr iechyd meddwl penodol. Yn yr achosion hyn, nid ystyrir fod ymddygiad am y tro cyntaf sy'n peri tramgwydd yn anfwriadol yn cyfrif fel achos o aflonyddu, ond bydd yn cael ei weld fel achos o aflonyddu os yw'n parhau ar ôl i'r derbynnydd ei gwneud yn glir, trwy ei eiriau neu ei ymddygiad, fod ymddygiad o'r fath yn annerbyniol iddo/iddi.