Knowles Fleet - cynllun budd car

Diweddarwyd y dudalen: 28/09/2026

Mae'r cynllun yn ffordd syml o brydlesu car newydd sbon, allyriadau isel o'ch dewis chi, gyda'r holl brif gostau rhedeg wedi'u cynnwys yn y pris misol.

Beth sy'n cael ei gynnwys?

  • Yswiriant cynhwysfawr llawn

  • Gwasanaethu a chynnal a chadw

  • Dadansoddi ac adfer

  • Teiars newydd (telerau ac amodau'n berthnasol)

  • Rheoli damweiniau ac atgyweiriadau

  • Cymorth a chyngor arbenigol

Nid oes blaendal na gwiriadau credyd i boeni amdanynt, ac mae'r holl brisiau'n cynnwys gostgyngiadau sylweddol sydd ond ar gael drwy'ch cynllun.

Sut mae'r cynllun yn gweithio?

Dewiswch eich car delfrydol o'r ystod eang o geir sydd ar gael, a thalu'n fisol drwy drefniant ildio cyflog syml.

Mae ildio cyflog yn golygu cytuno i gyfnewid rhan o'ch cyflog misol am fudd a ddarperir gan cyflogwr, fel car.

Tynnir taliadau o'ch cyflog gros, sy'n golygu bod cyfraniadau treth, Yswiriant Gwladol a phensiwn, yn cael eu cyfrifo yn seiliedig ar gyflog is - ac rydych chi'n elwa o'r arbedion.

Mae'r trefniant hwn yn cael ei nodi yn eich contract cyflogaeth am gyfnod y cytundeb buddion. Ar ddiwedd y cyfnod hwn, bydd eich cyflog yn dychwelyd i'w swm blaenorol.

Mae pob buddiant a ddarperir gan eich cyflogwr yn drethadwy.

Mae'r dreth ar gar yn seiliedig ar ei allyriadau carbon a'i bris rhestredig trethadwy.

Bydd eich cyflogwr naill ai'n casglu treth y budd car drwy newid eich côd treth neu drwy ei thynnu o'ch cyflog.

Mae Sam yn gweithio amser llawn, yn ennill £35,000 y flwyddyn ac yn teithio cyfartaledd o 10,000 o filltiroedd personol y flwyddyn. Mae'n dewis car Vauxhall Frontera trydan sydd wedi'i gymryd ar gontract 36 mis.

O dan y cynllun ildio cyflog, cyfanswm y gost y bydd Sam yn ei thalu bob mis yw £232,20.

Mae hyn wedi'i rannu fel a ganlyn:

Taliadau ildio cyflog misol: £327.90

(yn cynnwys treth, yswiriant, gwasanaethu ac atgyweiriadau, teiars newydd, cymorth torri i lawr, rheoli damweiniau, TAW)

Arbedion y gyflogres fisol: £108.87

(wedi'u rhannu rhwng Treth Incwm, yswiriant gwladol a pensiwn)

Y gost fisol net: £219.04

Treth Buddiant mewn Nwyddau (car cwmni): £13.17

Gall ymrwymo i drefniant ildio cyflog effiethio ar eich pensiwn. Felly, ym mhob achos, rydym yn argymell eich bod yn ceisio cyngor ariannol annibynnol cyn cymryd contract car.

Lwfans oes a blynyddol

Os ydych yn ennill cyflog uwch (yn nodweddiadol dros £100,000 y flwyddyn), efallai y bydd gennych bryderon ynglŷn â therfyn y lwfans oes a/neu flynyddol. Yn wahanol i'r gyfradd bensiwn, mae'r gyfradd treth incwm yn berthnasol i'r cyflog ym mhob band.

Band treth (ac eithrio lwfansau personol)

Incwm Trethadwy  Cyfradd Dreth
Hyd at £50,270 20%
£50,271 i £125,140 40%
Dros £125,140 45%

Mae'r cynllun yn gwneud gyrru cerbyd trydan yn fwy fforddiadwy.

  • Treth Buddiant mewn Nwyddau is.
  • Arbed ariad ar gostau rhedeg, yn enwedig os ydych yn gwefru gartref.
  • Pwynt gwefru gartref dewisol wedi'i gynnwys.
  • Cymorth a chyngor arbenigol am ddim.

Gallwch ddewis:

  • Dychwelyd eich car
  • Prynu eich car
  • Dewis car newydd o dan gytundeb newydd

Cyn ymuno â'r cynllun, mae'n bwysig meddwl am y meysydd canlynol a cheisio cyngor os oes angen:

Pensiwn - gall trefniadau ildio cyflog effiethio ar eich pensiwn gwaith, gwladol neu breifat. Mae'r effaith yn dibynnu ar amgylchiadau unigol felly efallai y byddwch am geisio cyngor pensiwn arbenigol.

Absenoldeb di-dâl - os ydych yn cymryd cyfnod estynedig o absenoldeb di-dâl, dylech sicrhau y byddwch yn dal i allu gwneud y taliadau car misol.

Gadael - ystyriwch a fyddech yn ymddiswyddo o'ch swydd yn ystod cyfnod y brydles. Os felly, efallai y byddwch yn atebol am gostau terfynu cynnar.

Credydau Treth Gwaith - ceisiwch gyngor arbenigol os ydych yn derbyn Credydau Treth Gwaith.

Tâl mamolaeth - gallai cymryd rhan yn y cynllun leihau eich tâl mamolaeth galwedigaethol gan y bydd hyn yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar cyflog is. Os byddwch yn beichiogi yn ystod cyfnod brydles, cysyllwch â Knowles Fleet cyn gynted â phosibl.

Ni allai fod yn symlach:

Ewch i  https://knowlesfleet.com/carcc/a gofynnwch am ddyfynbrisiau ar gyfer unrhyw geir y mae gennych ddiddordeb ynddynt.

  • Dewiswch y car cywir i chi a chyflwynwch eich dyfynbris.

  • Unwaith y bydd eich cyflogwr yn cymeradwyo'ch dyfynbris, caiff eich car ei archebu.

  • Byddwch yn derbyn diweddariadau rheolaidd nes bydd eich car newydd yn cael ei ddanfon yn syth i'ch drws!

Mae darparwr arbenigol eich cynllun, Knowles Fleet, wrth law gyda chefnogaeth lawn.

ff. 01206 255420

e. quotesteam@kafleet.com

https://knowlesfleet.com/carcc/

 

Ewch i wefan Knowles Fleet i gael rhagor o wybodaeth