Fframwaith Rheoli Perfformiad y Cyngor
- Dydd Iau 10 Tachwedd, 2.00pm – 4.00pm
- Contributors: Noelwyn Daniel (Pennaeth TGCh a Pholisi Corfforaethol a Chyfarwyddwr Dros Dro yr Amgylchedd), Gwyneth Ayers (Rheolwr Polisi Corfforaethol, Perfformiad a Phartneriaeth), Robert James (Rheolwr Perfformiad Corfforaethol)
Mae'r fframwaith hwn yn nodi dull y Cyngor o fonitro a rheoli perfformiad. Nod y Fframwaith yw cadw'r Cyngor ar y trywydd iawn ac i ganolbwyntio ar gyflawni ei Strategaeth Gorfforaethol, drwy roi'r wybodaeth a'r offer sydd eu hangen ar gynghorwyr, rheolwyr a staff i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n perfformio'n dda sy'n helpu i sicrhau canlyniadau da i breswylwyr.
Amcanion:
- Rhoi trosolwg o Fframwaith Rheoli Perfformiad y Cyngor, a yrrir gan Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, a sut y mae'n gweithio'n ymarferol.
- Amlinellu sut y mae gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi'u hymgorffori ar draws y Cyngor fel rhan o reoli perfformiad a gwneud penderfyniadau (gan gynnwys yr egwyddor datblygu cynaliadwy, pum ffordd o weithio a nodau cenedlaethol).
- Amlinellu sut mae gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021 sy'n ymwneud â pherfformiad yn cael eu gweithredu gan y Cyngor.
