Trawsnewid i Wneud Cynnydd

  • Dydd Gwener 7 Hydref, 9.30am – 12.30pm
  • Y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin
  • Contributors: Jon Owen (Rheolwr Trawsnewid i Wneud Cynnydd )

Nod y Rhaglen TIC (Trawsnewid i Wneud Cynnydd) yw cynorthwyo'r Cyngor i nodi ffyrdd doethach a gwell o weithio, gyda'r nod o ddarparu gwasanaethau mwy pwrpasol a chynaliadwy. Mae'r dull TIC yn annog timau i feddwl yn wahanol am y modd y caiff eu gwasanaethau eu darparu, ac i geisio ailffocysu'r gwasanaethau hyn o gwmpas anghenion y cwsmer mewn ffordd sy'n ceisio dileu gwastraff ac aneffeithlonrwydd.

Mae'r Tîm TIC wedi cefnogi dros 50 o brosiectau ers 2012 ac wedi helpu'r Cyngor i gyflawni dros £20m o arbedion.

Diben y sesiwn yw rhoi trosolwg o'r Rhaglen TIC, y ffyrdd o weithio a fabwysiadwyd gan y tîm, ac enghreifftiau o Astudiaethau Achos o'r math o waith sy'n cael ei wneud.

Bydd y sesiwn yn ceisio rhoi

  • Trosolwg o nodau ac amcanion y rhaglen TIC;
  • Amlinelliad o waith y rhaglen hyd yma a'r math o brosiectau a chanlyniadau a gyflawnwyd;
  • Datblygu dealltwriaeth o'r 'ffyrdd o weithio' a'r methodolegau a fabwysiadwyd gan y tîm;
  • Darparu enghreifftiau o astudiaethau achos o'r math o brosiectau a gyflawnwyd fel rhan o'r rhaglen;
  • Cyfleu'r weledigaeth ar gyfer cam nesaf rhaglen drawsnewid a newid Sir Gaerfyrddin.