Seiberddiogelwch
- Dydd Iau 1 Medi 9.00am – 12pm
- Zoom
- Contributors: Heddlu Dyfed Powys
Mae sesiwn wedi'i threfnu i bob Aelod gael dealltwriaeth o Ymwybyddiaeth Seiber a fydd yn cael ei chyflwyno gan Heddlu Dyfed-Powys.
Y prif feysydd a drafodir yn ystod y sesiwn fydd:
- Y dirwedd seiber bresennol
- Troseddau Seiber yn ardal Dyfed-Powys
- Pam mae pobl yn cael eu sgamio?
- Cyfrineiriau – pam maen nhw mor bwysig a'r ffordd orau o'u cadw
- Diogelwch e-bost (Gwirio'r anfonwr, peidiwch â chlicio ar ddolenni nac agor atodiadau o ffynonellau anhysbys)
- Sut cafodd y troseddwr fy manylion?
- Gwe-rwydo, SMS-rwydo, Llais-rwydo, Gwe-forfila – sut maen nhw'n berthnasol i mi?
- Twyll Mandad
- Sgam Rhamant
- Wi-Fi am ddim – y Risgiau
- Blacmel rhywiol
- Maleiswedd
- Cyfryngau Cymdeithasol – Gor-rannu a Pheirianneg Gymdeithasol
- Y We, Y We Ddofn, Y We Dywyll
- Ôl Troed Digidol
- Gosodiadau Preifatrwydd o fewn Apiau Cyfryngau Cymdeithasol
- Prynu'n ddiogel ar Farchnadoedd Ar-lein
- Cludo Arian
- Copïau wrth gefn a data pwysig
- Meddalwedd wystlo ac amgryptio
- Beth alla i ei wneud i atal fy hun rhag dioddef trosedd?
- Rhoi gwybod am droseddau seiber – E-byst, Negeseuon testun
- Adnoddau i gael rhagor o wybodaeth
- Sesiwn holi ac ateb
