Academi Arweuyddiaeth
Diweddarwyd y dudalen: 10/01/2024
Croeso i'r Academi Arweuyddiaeth
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i wynebu ei heriau gyda chryfder, hyder a phenderfyniad.
Mae'r Academi hon yn dwyn arweinwyr ynghyd ar wahanol gyfnodau o'u gyrfaoedd. Mae'r rhaglenni yn yr academi wedi'u dylunio i ddarparu annibyniaeth, hyder a set gref o sgiliau arwain a fydd yn dod â'r gorau allan ohonoch chi ac aelodau eich tîm; ymdrechu fel un i sicrhau gwasanaeth sy'n bodloni anghenion ein cymuned yn llawn.
Mae dysgu trwy gymysgedd o ddysgu drwy brofiad, rhyngweithio â chydweithwyr a digwyddiadau ffurfiol wrth wraidd yr Academi hon, gan grynhoi'r gwahanol ffyrdd y mae pobl yn dysgu gan ddefnyddio'r model 70:20:10.
Mae elfennau allweddol Yr Academi yn cynnwys:
- Dwy sgwrs Hyfforddi Gyrfa - un ar y dechrau ac un ar y diwedd. Mae'r rhain yn cynnig cymorth personol i greu eich llwybr datblygu eich hun, gwerthuso dysgu a'r hyn sy'n digwydd nesaf i chi'r cyfranogwr.
- Sgyrsiau ysbrydoledig gan siaradwyr Mewnol ac Allanol
- Sgiliau Arweinyddiaeth Penodol
- Adfyfyrio
- Cymhwyso sgiliau a dysgu yn y gweithle
- Mentora
Mae pob lefel yn seiliedig ar hunanfyfyrio a dysgu parhaus felly mae'n bwysig gofyn i chi'ch hun:
Pa fath o arweinydd ydych chi a pha fath o arweinydd ydych am fod?
Mae'r Academi hon yn adlewyrchu diwylliant Cyngor Sir Caerfyrddin a'r gofynion rheoli pobl o ddydd i ddydd.
Fe'i rhennir yn 3 lefel rhaglen i gefnogi ein rheolwyr ar wahanol gyfnodau yn eu gyrfa:
- Darpar Arweinydd - Datblygiad Arweinydd 1
- Arweinydd Newydd – Datblygiad Arweinydd 2
- Arweinydd Datblygol - Datblygiad Arweinydd 3
Mae pob rhaglen wedi'i dylunio i gynnwys sawl methodoleg ddysgu i gefnogi effaith fawr ac integreiddio dysgu yn hawdd i'r gweithle. Ac mae'r tair rhaglen wedi cael eu datblygu i annog annibyniaeth, hyder, a set gref o sgiliau arwain, i ddod â'r gorau allan nid yn unig ohonoch chi ond hefyd aelodau'r tîm. Rydym wedi creu profiad dysgu yn hytrach nag amrywiaeth o gyrsiau.
Y dulliau dysgu a ddefnyddir fel arfer yw
- Gweithdai hyfforddiant grŵp (wyneb yn wyneb a rhithwir)
- Setiau Dysgu Gweithredol
- Hyfforddiant un i un
- Cysgodi yn y gweithle
- Siaradwyr Ysbrydoledig
- Hunan-ddysgu
- Adfyfyrio
- Prosiectau Gwella Busnes
- Grwpiau Rhwydweithio / Bydi
- Achrediad ILM neu Ardystiad DPP
- Cyflwyniadau Datblygu'r Cynrychiolwyr
Mae'r holl raglenni wedi'u seilio ar yr egwyddor dysgu 70/20/10.
Mae newid ac ymgorffori ymddygiadau a ffyrdd newydd o weithio yn golygu mwy na mynychu cwrs yn unig a thrwy weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol, rheolwyr llinell a gweithwyr proffesiynol Datblygu a Dysgu mewnol, mae gennym gyfrifoldeb ar y cyd i ddarparu llwybr datblygu hynod ymarferol sy'n 'canolbwyntio ar weithredu.'
Wedi'i anelu at staff sydd â dyheadau i fod yn rheolwr.
Mae'n galluogi cyfranogwyr i brofi'r sgiliau sydd eu hangen i fod yn rheolwr da.
Mae'n darparu rhywfaint o wybodaeth hanfodol a fydd yn cefnogi eu dyheadau a'u datblygiad personol.
Cynnwys:
SEFYDLU
Bydd yr holl gyfranogwyr yn dechrau'r rhaglen gyda sesiwn Sefydlu.
- Sesiwn gyda Hyfforddwr
- Diwylliant Cyngor Sir Caerfyrddin
- Trawsnewid yng Nghyngor Sir Caerfyrddin
- Rheoli eich dysgu drwy Thinqi
- Trosolwg o'r Fframwaith Un Cyngor
- Beth yw Arweinydd Da - ymarfer
RHAGLEN – Darpar Arweinydd - Datblygiad Arweinydd 1
- Modiwl 1 Y daith Ddatblygu
- Modiwl 2 Datblygu sgiliau cyfathrebu effeithiol fel rheolwr posibl
- Modiwl 3 Y sgiliau i reoli pobl ac adnoddau
- Gwaith prosiect – gweithio gyda'ch rheolwr llinell i nodi darn o waith lle byddwch yn gallu rhoi eich dysgu ar waith, dangos eich dysgu yn ymarferol. Byddwch wedyn yn rhoi cyflwyniad byr ar hyn yn ystod y cyfnod Adfyfyrio.
Adfyfyrio
Bydd yr holl gyfranogwyr yn gorffen gyda'i gilydd drwy gyfnod o adfyfyrio
- Cyflwyniad: Beth wyf wedi'i ddysgu a sut bydd yn cael ei roi ar waith
- Rhwydweithio
- Bitesize – Sut i fod yn Fentor (dewisol)
- Sesiwn gyda Hyfforddwr
Ymrwymiad
- Rhaglen 6 mis a fydd yn cynnwys 2 ddiwrnod o Sefydlu dros gyfnod o 2 wythnos a chyfnod Adfyfyrio o 2 wythnos, presenoldeb 1 diwrnod i'w gadarnhau
- Mae pob un o 3 modiwl y rhaglen yn para 1 diwrnod, dros gyfnod o 4 mis.
- Gwaith prosiect - wedi'i wasgaru dros gyfnod o 4 mis.
- Hunan-ddysgu
- Gwaith grŵp
- Cyflwyniad Terfynol
Wedi'i anelu at reolwyr ar y rheng flaen, sydd o bosibl yn rheoli tîm mawr neu efallai'n dechrau ar eu taith reoli.
Edrychwch yn fanwl ar y sgiliau sydd eu hangen i gael y gorau o aelodau'r tîm. Dysgwch am bwysigrwydd cyfathrebu da, dirprwyo effeithiol, gosod amcanion clir a mesuradwy a chymryd ymagwedd ragweithiol wrth reoli perfformiad da a gwael. Dysgwch sut i greu diwylliant tîm cefnogol.
Bydd cyfranogwyr yn cynyddu eu lefelau hunanymwybyddiaeth ac yn ystyried ystod o wahanol arddulliau / dulliau rheoli a fydd yn cael eu hategu gan gyfathrebu effeithiol.
Mae'n darparu cymorth, sgiliau a thechnegau hanfodol y gellir eu defnyddio yn y gweithle ar unwaith.
Mae'n darparu gwybodaeth sy'n rhoi hyder mewn gallu rheoli, sy'n cynyddu cymhelliant a morâl yr unigolyn a'r timau maent yn gweithio ynddynt.
CYNNWYS:
SEFYDLU:
Bydd yr holl gyfranogwyr yn dechrau'r rhaglen gyda sesiwn Sefydlu
- Sesiwn gyda Hyfforddwr
- Diwylliant Cyngor Sir Caerfyrddin
- Trawsnewid yng Nghyngor Sir Caerfyrddin
- Rheoli eich dysgu drwy Thinqi
- Trosolwg o'r Fframwaith Un Cyngor
- Beth yw Arweinydd Da - ymarfer
RHAGLEN: Datblygiad Arweinydd 2 – Arweinydd Newydd
- Modiwl 1 - Creu diwylliant o gyfathrebu da – (Ymddiriedaeth, Pendantrwydd, Sgyrsiau Hyfforddi, Gosod Amcanion, Rhoi a Derbyn Adborth)
- Modiwl 2 - Sgiliau ymarferol i wella effeithiolrwydd rheolaethol – (Cyllidebu, arfarnu, rheoli newid, recriwtio a dethol)
- Modiwl 3 - Hunan-ddarganfod – pwy ydych chi a pha effaith rydych yn ei chael ar eich timau – (MBTI, Arddull Arweinyddiaeth, Gwytnwch, Gwerthoedd)
- Modiwl 4 - Y Llwyfan Gwleidyddol - (Y prosesau gwleidyddol)
- Gwaith prosiect – gweithio gyda'ch rheolwr llinell i nodi darn o waith lle byddwch yn gallu rhoi eich dysgu ar waith, dangos eich dysgu yn ymarferol. Byddwch wedyn yn rhoi cyflwyniad byr ar hyn yn ystod y cyfnod Adfyfyrio.
ADFYFYRIO:
Bydd yr holl gyfranogwyr yn gorffen gyda'i gilydd drwy gyfnod o adfyfyrio
- Cyflwyniad: Beth wyf wedi'i ddysgu a sut bydd yn cael ei roi ar waith
- Rhwydweithio
- Bitesize – Sut i fod yn Fentor (dewisol)
- Sesiwn gyda Hyfforddwr
Ymrwymiad
- Rhaglen 6 mis a fydd yn cynnwys 2 ddiwrnod o Sefydlu dros gyfnod o 2 wythnos a chyfnod Adfyfyrio o 2 wythnos, presenoldeb 1 diwrnod i'w gadarnhau
- Mae'r rhaglen o 4 modiwl wedi'i gwasgaru dros gyfnod o 4 mis
- Modiwl 1 – 7 diwrnod
- Modiwl 2 – 3.5 diwrnod
- Modiwl 3 – 1 diwrnod
- Modiwl 4 – 1 diwrnod
- Gwaith prosiect - wedi'i wasgaru dros gyfnod o 4 mis
- Hunan-ddysgu
- Gwaith grŵp
- Cyflwyniad Terfynol
Wedi'i anelu at reolwyr ag uchelgeisiau i fod yn rheolwyr trydedd haen neu uwch-reolwyr.
Mae'n darparu dysgu hanfodol i ddyrchafu sgiliau cyfredol ac annog agwedd fwy strategol.
Yn uniongyrchol gysylltiedig â maes gwaith y cyfranogwr, mewn cydweithrediad â'u rheolwr llinell.
Wedi'i gynllunio ar gyfer Uwch-reolwyr y rhoddwyd ffydd ynddynt i yrru ac arwain y sefydliad ymlaen mewn amgylchedd busnes cystadleuol a heriol.
Bydd y rhaglen hefyd yn edrych ar sut i osod a gweithredu newid strategol a'r sgiliau a'r ymddygiadau arweinyddiaeth craidd sydd eu hangen i arwain, ysbrydoli a grymuso eraill i gyflawni lefelau uchel o berfformiad yn gyson.
CYNNWYS:
SEFYDLU:
Bydd yr holl gyfranogwyr yn dechrau'r rhaglen gyda sesiwn Sefydlu
- Sesiwn gyda Hyfforddwr
- Diwylliant Cyngor Sir Caerfyrddin
- Trawsnewid yng Nghyngor Sir Caerfyrddin
- Rheoli eich dysgu drwy Thinqi
- Trosolwg o'r Fframwaith Un Cyngor
- Beth yw Arweinydd Da - ymarfer
RHAGLEN: Arweinydd Datblygol - Datblygiad Arweinydd 3
- Dewis Un Modiwl o'r llwyfan ILM/CMI, ar Lefel 7. Credydau tuag at barhad dysgu i Ddiploma
- Gwaith prosiect, yn seiliedig ar y modiwl a ddewiswyd – gan weithio gyda'ch rheolwr llinell i nodi darn o waith sy'n berthnasol i'ch gofynion dysgu a gofynion yr adran. Byddwch wedyn yn rhoi cyflwyniad byr ar hyn yn ystod y cyfnod Adfyfyrio.
- Gweithdai Rheoli Prosiectau yn cynnig dysgu i gefnogi eich gwaith prosiect
ADFYFYRIO:
Bydd yr holl gyfranogwyr yn gorffen gyda'i gilydd drwy gyfnod o adfyfyrio
- Cyflwyniad: Beth wyf wedi'i ddysgu a sut bydd yn cael ei roi ar waith
- Rhwydweithio
- Bitesize – Sut i fod yn Fentor (dewisol)
- Sesiwn gyda Hyfforddwr
YMRWYMIAD:
- Rhaglen 6 mis a fydd yn cynnwys 2 ddiwrnod o Sefydlu dros gyfnod o 2 wythnos a chyfnod Adfyfyrio o 2 wythnos, presenoldeb 1 diwrnod i'w gadarnhau
- Mae'r ymrwymiad i bresenoldeb ffurfiol ar gyfer y modiwl Lefel 7 i'w gytuno gyda'r darparwr
- Hyfforddiant Rheoli Prosiect – 3 diwrnod dros gyfnod o 4 mis
- Gwaith prosiect - wedi'i wasgaru dros gyfnod o 4 mis
- Hunan-ddysgu
- Gwaith grŵp
- Cyflwyniad Terfynol
Wrth ystyried ceisiadau ar gyfer y rhaglen hon, mae'r tîm yn ceisio cydbwysedd o gynrychiolaeth sefydliadol, yn ogystal â phrofiad proffesiynol ymgeiswyr a chyfrifoldebau sefydliadol cyfredol.
Mae ceisiadau bellach ar gau ar gyfer y flwyddyn academaidd hon. Bydd y manylion yn cael eu lansio ar gyfer y derbyniad nesaf yn ystod haf 2025.
Mae 70:20:10 yn theori dysgu a datblygu sy'n crynhoi'r holl wahanol ffyrdd y mae pobl yn dysgu.
Mae dysgu o brofiadau, rhyngweithio ag eraill, neu drwy hyfforddiant, wrth wraidd y dull hwn. Mae'r model hwn yn symud ffocws o hyfforddiant i berfformiad.
- Mae 70% o'r wybodaeth yn cael ei hennill o brofiadau cysylltiedig â gwaith.
- 20% o ryngweithio ag eraill, fel cyd-weithwyr a rheolwyr
- 10% o ddigwyddiadau dysgu ffurfiol.
Mae pob rhaglen yn seiliedig ar yr athroniaeth hon o ddysgu. Mae pecyn dysgu yn cael ei greu sy'n cefnogi amgylchedd dysgu cyfannol gyda sgiliau a gwybodaeth y gellir eu trosglwyddo'n hwylus i'r gweithle.