Diogelwch

Diweddarwyd y dudalen: 06/08/2024

Mae diogelu pobl yn gyfrifoldeb pawb.

Pan nodir camdriniaeth neu esgeulustod, dylid delio ag ef yn gyflym, yn effeithiol ac mewn ffyrdd sy'n gymesur â'r pryderon a godwyd.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cynnig disgwyliad clir bod angen i'r plentyn/person ifanc/oedolyn fod yn ganolog i unrhyw ymateb diogelu, ac bod ganddynt cymaint o rheolaeth a phosbl dros gwenud penderfyniadau.

Mae Fframwaith Diogelu, Dysgu a Datblygu Cenedlaethol newydd i Gymru yn gofyn i'r holl staff a gyflogir (gan gynnwys gwirfoddolwyr) gwblhau dysgu perthnasol ar Ddiogelu

Mae'n rhaid i holl staff awdurdodau lleol fel y nodwyd yng Ngrŵp A gwblhau'r e-ddysgu Ymwybyddiaeth Diogelu yn y dolenni isod fel elfen orfodol. Gweler y ddogfen sydd wedi'i atodi am gyfeiriad a diffiniad o Grŵp A.

Rhaid i holl staff awdurdodau lleol sydd ddim yn gweithio mewn gwasanaethau Gofal Cymdeithasol, gwblhau'r modiwl e-ddysgu hwn - Diogelu Grwp A

Mae'n rhaid i holl staff gwasanaethau Gofal Cymdeithasol gwblhau'r modiwl e-ddysgu canlynol - Diogelu Oedolion Lefel 2.

 

Bydd mwyo gyfleoedd dysgu a datblygu i weithredu'r Fframwaith newydd yn cael eu hysbysebu ar y tudalennau hyn