Polisi Di-fwg (Mangreoedd a Cherbydau) 2026-2029
Pwrpas
Pwrpas y polisi yw darparu gwybodaeth am reoli dim ysmygu yn y gweithle. Mae gan y Cyngor ddyletswydd gofal i sicrhau bod gweithwyr yn ymwybodol o'r gyfraith ynghylch gweithle a mangreoedd di-fwg ac yn ei dilyn. Felly, mae'n ystyriaeth allweddol i'r Cyngor, o ran iechyd a diogelwch gweithwyr, morâl gweithwyr a chysylltiadau gweithwyr bod dim ysmygu (i gynnwys e-sigaréts/fêps) yn y gweithle yn cael ei reoli'n effeithiol. Bydd y polisi hwn yn cynorthwyo Rheolwyr / Goruchwylwyr i sicrhau bod gweithle a mangreoedd yr Awdurdod yn ddi-fwg.
At ddibenion y Polisi hwn ystyrir bod ‘E-Sigaréts/Fêps’ yn sigaréts.
Cwmpas y Polisi
Bydd y polisi hwn yn berthnasol i holl sefydliadau a holl weithwyr Cyngor Sir Caerfyrddin, gweithwyr achlysurol, gwirfoddolwyr sy'n gweithredu ar ein rhan, contractwyr, ymwelwyr, gweithwyr asiantaeth ac aelodau o'r cyhoedd sy'n cael mynediad neu'n defnyddio mangreoedd sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin neu a feddiannir ganddo.
Datganiad
Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn:
Annog gweithwyr, aelodau a defnyddwyr gwasanaeth i roi'r gorau i ysmygu a fepio, a darparu cymorth a chefnogaeth ymarferol trwy ein Canolfan Iechyd Galwedigaethol a'r Gwasanaeth Helpa fi i Stopio.
Gwahardd ysmygu a defnyddio E-sigaréts /fêps
ym mhob gweithle a mangre gaeedig a sylweddol gaeedig sy'n eiddo i'r Cyngor Sir, neu a feddiannir ganddo, gan gynnwys swyddfeydd, ysgolion, mannau cymunedol mewn cynlluniau tai gwarchod, ystafelloedd gorffwys, ffreuturau, theatrau, llyfrgelloedd, cyfleusterau cymunedol, toiledau cyhoeddus, amgueddfeydd, ciosgau, marchnadoedd, bwytai, caffis, ystafelloedd aelodau, cyfleusterau chwaraeon a hamdden, gorsafoedd a chysgodfannau bysiau, canolfannau dydd, a mangreoedd masnachol sydd ar brydles i drydydd parti neu a logwyd gan drydydd parti, ac ati.
ym mhob mangre gaeedig a sylweddol gaeedig a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau neu weithgareddau'r Cyngor Sir, gan gynnwys y rhai sydd ym mherchnogaeth eraill, a weithredir ganddynt, neu a rennir gyda nhw, megis swyddfeydd, gwasanaethau dydd, canolfannau cynadledda a lleoliadau hyfforddiant, ac ati.
ym mhob cerbyd a ddefnyddir at ddibenion gwaith neu ddarparu gwasanaethau gan gynnwys faniau, bysiau, llyfrgelloedd symudol, a cheir (gan gynnwys ceir personol yn ystod amser busnes). Rhaid i weithwyr ac eraill (e.e. gwirfoddolwyr, contractwyr) sy'n defnyddio cerbydau yng nghyswllt darparu gwasanaethau sicrhau bod y cerbydau'n ddi-fwg wrth eu defnyddio at y dibenion hynny.
ar dir mangreoedd sy'n eiddo i'r Cyngor Sir, neu a feddiannir ganddo, gan gynnwys meysydd parcio cysylltiedig â'n hadeiladau gweinyddol a masnachol, gerddi, ardaloedd chwarae, meysydd chwaraeon a mannau allanol eraill, ac ati.
Peidio â chaniatáu i weithwyr ysmygu yn ystod amser gwaith yn unol â gofynion y polisi ysmygu.
Peidio â chaniatáu gwefru E-sigaréts/fêps mewn unrhyw un o fangreoedd Cyngor Sir Caerfyrddin, gan gynnwys cerbydau.
Peidio â chaniatáu ysmygu ger drysau, ffenestri agored neu'n agos at systemau awyru lle gallai mwg fynd yn ôl i mewn i adeilad y Cyngor neu adeiladau cyfagos ac amlygu eraill i fwg ail-law.
Peidio â chreu niwsans i adeiladau cyfagos, aelodau o'r cyhoedd, neu gydweithwyr.
Peidio â darparu cyfleusterau i ysmygwyr, megis cysgodfannau neu ystafelloedd ysmygu, y tu mewn neu'r tu allan, gan gynnwys yn ymyl drysau ac yn union gerllaw i fangreoedd y Cyngor (ac eithrio'r esemptiadau a nodir isod).
Darparu arwyddion:
wrth bob mynedfa i'n mangreoedd, gan gynnwys wrth y mynedfeydd i diroedd, sy'n rhoi gwybod i bawb eu bod yn ddi-fwg, a bod ysmygu wedi'i wahardd. Bydd yr arwyddion hyn yn cydymffurfio â gofynion Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020, a Rheoliadau Di-fwg (Arwyddion) 2012, ac unrhyw ganllawiau cysylltiedig.
ym mhob un o'n cerbydau, gan gynnwys y rhai sydd ar brydles neu wedi'u llogi i eraill, sy'n rhoi gwybod i bawb eu bod yn ddi-fwg a bod ysmygu wedi'i wahardd. Rhaid i'r arwyddion hyn gydymffurfio â gofynion Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020, ac unrhyw ganllawiau cysylltiedig.
Gwahardd gwerthu neu hyrwyddo cynnyrch tybaco mewn mangreoedd sy'n eiddo i'r Cyngor Sir neu a feddiannir ganddo.
Cydweithio â chyflogwyr eraill, contractwyr neu sefydliadau gwirfoddol i sicrhau cydymffurfiaeth â'r polisi hwn ac y cyfyngir gymaint â phosibl ar unrhyw risgiau cysylltiedig â mwg tybaco ail-law.
Gweithredu fel cyflogwr enghreifftiol ac esiampl o ymddygiad i gyflogwyr eraill yn Sir Gaerfyrddin yng nghyswllt dim ysmygu a darparu gweithleoedd di-fwg.
Mynd ati'n achlysurol i fonitro, adolygu a gwella (pan fydd angen) cyflwyniad y polisi hwn er mwyn sicrhau ei fod yn parhau'n effeithiol, a'n bod yn parhau i gydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol cysylltiedig â/neu safonau rheoli perthnasol.
Cyfrifoldebau
4.1 Cyfarwyddwyr, Penaethiaid Gwasanaeth ac Uwch-reolwyr
Mae gan Gyfarwyddwyr, Penaethiaid Gwasanaeth ac uwch-reolwyr gyfrifoldeb cyffredinol am sicrhau bod y polisi hwn yn cael ei weithredu'n effeithiol ar draws eu gwasanaethau. Rhaid iddynt:
Sicrhau bod y polisi a'r canllawiau cysylltiedig yn cael eu cyfathrebu a'u deall yn glir.
Sicrhau bod gan reolwyr hyfforddiant, cefnogaeth a goruchwyliaeth ddigonol i gyflawni eu cyfrifoldebau.
Comisiynu cymorth neu adnoddau ychwanegol lle mae hyn yn rhesymol ymarferol ac yn angenrheidiol i gefnogi cydymffurfiaeth.
4.2 Rheolwyr Llinell a Goruchwylwyr
Mae pob rheolwr llinell a goruchwyliwr yn gyfrifol am gynnal gweithle di-fwg yn unol â'r polisi hwn. Yn benodol, rhaid iddynt:
Sicrhau bod y polisi hwn yn cael ei weithredu'n effeithiol o fewn eu meysydd cyfrifoldeb.
Arwain trwy esiampl a herio diffyg cydymffurfio yn briodol ac yn gymesur.
Sicrhau bod gweithwyr, contractwyr, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr yn ymwybodol o ofynion y polisi.
Cymryd camau rhesymol i atal ysmygu a fepio mewn ardaloedd gwaharddedig, gan gynnwys yn ystod amser gwaith ac mewn cerbydau gwaith.
Mynd i'r afael â thorri'r polisi yn brydlon, gan ddefnyddio camau rheoli anffurfiol neu ffurfiol fel y bo'n briodol.
Cefnogi gweithwyr sy'n dymuno rhoi'r gorau i ysmygu neu fepio trwy eu cyfeirio at y gwasanaethau cymorth sydd ar gael.
Ceisio cyngor gan Pobl, Digidol a Pholisi, Iechyd Galwedigaethol, neu'r Tîm Iechyd a Diogelwch lle mae angen cymorth neu arweiniad ychwanegol.
4.3 Gweithwyr (gan gynnwys Gweithwyr Asiantaeth a Gweithwyr Achlysurol)
Mae gan bob gweithiwr gyfrifoldeb personol i gydymffurfio â'r polisi hwn. Rhaid i weithwyr:
Peidio ag ysmygu neu fepio mewn unrhyw fangreoedd, tiroedd neu gerbydau lle gwaherddir ysmygu o dan y polisi hwn.
Peidio ag ysmygu neu fepio yn ystod amser gwaith ac eithrio yn unol â'r polisi hwn ac unrhyw drefniadau lleol.
Peidio â gwefru E-sigaréts na fêps mewn unrhyw fangreoedd neu gerbydau'r Cyngor.
Sicrhau nad yw eu hymddygiad yn amlygu eraill i fwg neu anwedd ail-law, nac yn achosi niwsans i gydweithwyr, defnyddwyr gwasanaeth, aelodau o'r cyhoedd neu fangreoedd cyfagos.
Cydweithredu â rheolwyr a'r Cyngor wrth weithredu'r polisi hwn.
Codi unrhyw bryderon am gymhwyso'r polisi hwn gyda'u rheolwr llinell.
4.4 Pobl, Digidol a Pholisi
Mae gan Pobl, Digidol a Pholisi gyfrifoldeb am hyrwyddo, monitro ac adolygu'r polisi hwn. Mae hyn yn cynnwys:
Darparu cyngor ac arweiniad i reolwyr a gweithwyr ar gymhwyso'r polisi.
Cefnogi dull rhagweithiol trwy fewnbwn amserol gan Iechyd Galwedigaethol, y Tîm Iechyd a Diogelwch, a Dysgu a Datblygu.
Cefnogi rheolwyr i fynd i'r afael â thorri'r polisi, gan gynnwys lle y gallai fod angen gweithdrefnau ffurfiol.
Monitro effeithiolrwydd y polisi ac argymell gwelliannau lle bo angen.
4.5 Aelodau Etholedig
Mae gan Aelodau Etholedig gyfrifoldeb personol tuag at yr holl staff a'r cyhoedd o ran cynnal y gwerthoedd a bennir yn y polisi hwn, hybu cysylltiadau da, a herio ymddygiad amhriodol lle bo angen. Mae Aelodau Etholedig yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn cefnogi'n gadarnhaol yr egwyddor o gydraddoldeb ac amrywiaeth, wrth ymgymryd â'u dyletswyddau cyhoeddus a dilyn y Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau Etholedig a pholisïau a gweithdrefnau cysylltiedig.
4.6 Contractwyr, Gwirfoddolwyr ac Ymwelwyr
Disgwylir i gontractwyr, gwirfoddolwyr, ymwelwyr ac eraill sy'n cael mynediad i fangreoedd neu gerbydau'r Cyngor gydymffurfio â'r polisi hwn. Rhaid i reolwyr sy'n gyfrifol am ymgysylltu â chontractwyr neu wirfoddolwyr gymryd camau rhesymol i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r gofynion di-fwg.
Torri Polisi
Gellir mynd i'r afael â methu â chydymffurfio â'r polisi hwn trwy gamau rheoli priodol. Ar gyfer gweithwyr, gall hyn gynnwys camau gweithredu o dan weithdrefnau disgyblu'r Cyngor. Ar gyfer pobl nad ydynt yn gyflogedig, gall hyn gynnwys gofyn iddynt adael adeiladau'r Cyngor neu derfynu contractau neu drefniadau.
Trefniadau mewn Ysgolion
Caiff Cyrff Llywodraethu pob ysgol eu hannog i fabwysiadu'r polisi hwn, gydag argymhelliad y gall ysgolion fod yn dymuno datblygu geiriad priodol i gynnwys disgyblion neu gyfeirio at y polisi neu'r canllawiau priodol ar gyfer disgyblion. Rhaid i dimau rheoli ysgolion sicrhau bod ein mangreoedd bob amser yn parhau'n ddi-fwg, gan gynnwys y tu allan i oriau arferol yr ysgol pryd y gellir llogi'r cyfleusterau i drydydd parti.
Eithriadau
Caniateir ystafelloedd ysmygu dynodedig neu ardaloedd ysmygu allanol mewn cartrefi gofal preswyl a seibiant i oedolion, a chaniateir ardaloedd ysmygu allanol dynodedig mewn sefydliadau gofal cymdeithasol sy'n darparu gwasanaethau gofal dydd i'r henoed neu rai sy'n agored i niwed.
Mewn fflatiau ac ardaloedd cartref ar Fangreoedd Tai Gwarchod a Thai Cyngor - bydd HOLL ardaloedd cymunedol ac allanol y mangreoedd hyn yn dod o fewn cwmpas y polisi.
Dogfennau Ategol
Bydd gwybodaeth, canllawiau a dogfennau ategol ar gael i helpu i reoli ac i weithredu'r polisi hwn.
Sicrhau Triniaeth Gyfartal
Rhaid arfer cysondeb yn y modd y gweithredir y polisi hwn wrth ymdrin â phob gweithiwr, heb ystyried hil, lliw, tarddiad ethnig neu genedlaethol (gan gynnwys dinasyddiaeth), iaith, anabledd, crefydd, cred neu ddiffyg cred, oedran, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, statws o ran cyfrifoldebau magu plant neu statws priodasol, beichiogrwydd neu famolaeth.
Os oes gennych unrhyw bryderon cydraddoldeb ac amrywiaeth ynghylch gweithredu’r polisi a’r weithdrefn hon, dylech gysylltu ag aelod o’r Tîm Adnoddau Dynol a fydd, os oes angen, yn sicrhau y caiff y polisi/gweithdrefn ei hadolygu yn ôl y galw.
Os oes angen y wybodaeth hon arnoch mewn fformat arall, cysylltwch â Pobl, Digidol a Pholisi ar CHR@sirgar.gov.uk.
