Sut ydw i’n gwybod bod gen i'r Ffliw?
Mae symptomau'r ffliw yn ymddangos yn gyflym yn aml o fewn 1-3 diwrnod o'r gael yr haint. Yn wahanol i annwyd cyffredin, yn aml gall ffliw olygu eich bod yn teimlo'n rhy sâl i barhau â gweithgareddau dyddiol.
Beth i'w Wneud Os Byddwch Chi'n Dal Annwyd neu'r Ffliw?
Gorffwys, cysgu, cadw'n gynnes, ac yfed digon o hylifau. Defnyddio paracetamol neu ibuprofen i leihau gwres a phoenau.
Cofiwch nid yw gwrthfiotigau yn gweithio: Maent yn aneffeithiol yn erbyn firysau, mae gofyn i'ch meddyg amdanynt yn wastraff adnoddau.
Gofynnwch am help meddygol os oes angen: Cysylltwch â GIG 111 os ydych chi dros 65 oed, yn feichiog, neu os oes gennych broblemau iechyd hirdymor neu wendid imiwnedd. Ffoniwch 999 am symptomau brys fel poen yn y frest neu ddiffyg anadl difrifol.
Atal Annwyd a Ffliw yn y Gwaith
Y brechiad: Cael eich brechlyn ffliw blynyddol yw'r modd mwyaf effeithiol o atal y ffliw.
Bydd y cyngor yn talu cost eich brechiad ffliw os nad ydych yn gymwys i gael un am ddim.
Cyngor yn talu am gost pigiadau ffliw i staff
Pwy sy'n gymwys i gael y brechlyn am ddim
Oedolion 65 oed a hŷn
Pobl â chyflyrau corfforol neu iechyd penodol
Unigolion beichiog
Y rhai sy'n byw gyda phobl ag imiwnedd gwan
Gweithwyr iechyd / gofal cymdeithasol rheng flaen.
Gallwch ei archebu trwy eich meddyg teulu neu Fferyllfa leol.
Arferion hylendid:
Dylech orchuddio eich peswch a thisian gyda hances (neu lawes)
Golchwch eich dwylo'n aml
Glanhewch arwynebau gwaith yn aml.
A oes gan eich ardal waith hylif diheintio dwylo a sebon dwylo?
Arhoswch gartref os ydych chi'n teimlo'n sâl: Mae'r ffliw yn fwyaf heintus yn y pum diwrnod cyntaf. Mae aros gartref yn helpu i gyfyngu ar ledaeniad.
Mwy ynghylch Lle, Seilwaith & Datblygiad Economaidd