1. Cyflwyniad gan y Prif Weithredwr a'r Aelod Cabinet

Rydym yn falch o'n Sir gan fod Sir Gaerfyrddin yn lle gwych i fyw, gweithio, ac ymweld ag ef. Fel Cyngor, rydym hefyd yn hynod falch o'r bobl sy'n gweithio i ni. Mae ein gwasanaethau yn cael eu darparu gan ein pobl, a'n pobl ni sy'n gwneud y Cyngor hwn yr hyn ydyw.

Rydym wedi gweithio'n galed i rymuso a chefnogi ein pobl i greu diwylliant 'Un tîm' cynhwysol. Cafodd hyn ei gydnabod yn 2022, pan wnaethom ennill achrediad safon Aur Buddsoddwyr mewn Pobl, gyda'r adroddiad yn nodi: ‘Mae'r sefydliad yn cyflawni canlyniadau rhagorol o ganlyniad i'r ffyrdd y mae pobl yn cael eu hannog a'u grymuso i fod yn ystwyth, yn arloesol ac yn gydweithredol’. Fodd bynnag, gellir gwneud rhagor.

Rydym yn gwybod bod y byd yn newid, a bydd y ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu yn parhau i newid, felly nid yw gwneud mwy o'r un peth yn gynaliadwy. Cafodd pandemig COVID-19 effaith fawr ar y ffordd rydym yn gweithio, ac, ar ôl rhoi ystyriaeth i'n profiadau, rydym bellach yn edrych ymlaen. Trwy gynnwys yr Egwyddor Datblygu Cynaliadwy yn llawn wrth flaengynllunio, rydym wedi llunio Strategaeth sy'n nodi sut rydym yn bwriadu siapio ein gweithlu dros y 5 mlynedd nesaf, gan sicrhau, gyda'n gilydd, fel un Cyngor ac un tîm, y gallwn ganolbwyntio ar wneud yr hyn sy'n bwysig i'n trigolion a busnesau lleol.

Ar hyn o bryd mae'r farchnad recriwtio yn heriol, ac mae cyfyngiadau cyllidebol yn golygu ei bod yn anodd i ni gynnig cyflogau cystadleuol. Fel pob corff arall yn y sector cyhoeddus, byddai'n ffôl tanamcangyfrif yr heriau ariannol sylweddol rydym yn eu hwynebu, mewn sefyllfa lle mae llai o gyllid a mwy o alw am wasanaethau. Mae hyn yn golygu y bydd angen i ni fod yn agored i ffyrdd newydd o weithio a ffyrdd gwahanol o feddwl. Rydym yn gwybod hefyd ei bod yn debygol y bydd gweithlu'r dyfodol yn wahanol i'r hyn sydd gennym heddiw ac angen sgiliau gwahanol, felly bydd angen i ni fuddsoddi yn ein pobl, yn ogystal â thyfu a datblygu ein harweinwyr ein hunain, fel eu bod yn barod i gwrdd â'r heriau sy'n ein hwynebu.

Drwy'r cyfnod hwn o newid a thrawsnewid, byddwn yn sicrhau bod ein pobl yn cael eu harwain, eu cefnogi, yr ymddiriedir ynddynt ac yn cael eu cydnabod am y cyfraniad a wnânt, gan sicrhau eu bod yn cael eu trin yn deg, gyda pharch ac yn cael eu hannog i gyflwyno syniadau ynghylch sut y gallwn wella'r hyn a wnawn. Byddwn hefyd yn annog ein pobl i groesawu newid ac ymgysylltu â'n rhaglen drawsnewid i'n helpu i foderneiddio'r gwasanaethau a ddarparwn ac adeiladu Cyngor mwy gwydn ac effeithlon.

Yn olaf, ni allwn wireddu ein huchelgeisiau heb ein gweithlu ymroddedig a brwdfrydig. Felly, byddwn yn gweithio gyda'n gilydd, yn agored, yn onest, yn deg ac yn gynhwysol, sef yr ymrwymiad sy'n sail i'r strategaeth hon.

 

Wendy Walter a'r Cynghorydd Philip Hughes