Yn yr adran hon
- 5. Hyrwyddo Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
- 6. Ynghylch ein Gweithlu
- 7. Amcanion ein Strategaeth Gweithlu
- 8. Atodiadau
7. Amcanion ein Strategaeth Gweithlu
Nod cyffredinol y Strategaeth hon yw cefnogi cyflawni ein blaenoriaethau corfforaethol drwy sicrhau bod gennym y nifer cywir o bobl, sydd â'r sgiliau a'r agweddau cywir, mewn lle ar yr adeg gywir. Byddwn yn cyrraedd y nod hwn drwy gyflawni ein pum Amcan Strategaeth y Gweithlu.
Amcanion Strategol y Gweithlu:
- Denu, Recriwtio, a Chadw Talent
- Tyfu Arweinwyr a Rheolwyr Eithriadol
- Gwella Ymgysylltu â'r Gweithlu
- Datblygu Diwylliant Perfformiad Uchel, Blaengar a Chyflawni
- Datblygu a Chynnal Gweithlu Diogel ac Iach
Fel llawer o gyflogwyr yn y DU, mae Llywodraeth Leol yn delio â marchnad recriwtio heriol oherwydd bylchau sgiliau mewn rhai sectorau allweddol a chyfyngiadau cyllidebol sy'n ei gwneud yn anodd i ni gynnig cyflogau cystadleuol yn gyson.
Er mwyn denu a recriwtio gweithlu amrywiol yn ddiogel, sydd â gweithwyr ac arweinwyr talentog, bydd angen i ni sicrhau brandio effeithiol o ran y cyflogwr a hyrwyddo'r Cyngor yn effeithiol fel 'cyflogwr o ddewis’.
Gan ddarparu cyfleoedd i'n pobl ffynnu mewn amgylchedd gwaith diogel, byddwn yn cefnogi ac yn annog talent bosibl trwy gynnig cyfleoedd dysgu o ansawdd uchel, datblygiad personol, llwybrau gyrfa clir a phecyn buddion cyfan sy'n deg. Felly, bydd cynllunio gweithlu effeithiol ar bob lefel yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gennym y bobl gywir â'r sgiliau cywir ar gyfer y swyddi cywir ar yr adeg gywir.
Mewn amgylchedd sy'n newid yn gyson, rydym yn gwybod y bydd y galw am wasanaethau megis gofal cymdeithasol, tai a diogelu ein hamgylchedd yn parhau. Bydd hyn hefyd, yn ddieithriad, yn effeithio ar y gefnogaeth cefn swyddfa sydd ei hangen i ddarparu'r gwasanaethau hynny yn ogystal â'r math o wytnwch sydd ei angen arnom ar lefel arweinyddiaeth. Mae prinder sgiliau parhaus, newid yn nemograffeg y farchnad lafur, a gofynion gweithwyr am gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, wedi creu cynnydd yn y gystadleuaeth am dalent.
Mae'r agenda ddigidol wedi dod yn fwyfwy pwysig, felly byddwn yn dangos i'n pobl ein bod yn eu gwerthfawrogi trwy eu cefnogi i ddatblygu'r sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer swyddi'r dyfodol. Y sgiliau a fydd yn ein helpu i drawsnewid, moderneiddio ac adfywio gwasanaethau. Trwy ailgynllunio gwasanaethau o safbwynt cwsmeriaid a defnyddio technoleg, deallusrwydd artiffisial a roboteg fel galluogwr, byddwn yn gallu cyflawni'r canlyniadau gorau i'n trigolion o fewn yr adnoddau gostyngol sydd ar gael i ni, gan leihau costau a gwella effeithlonrwydd trwy ffyrdd mwy clyfar o weithio.
Er mwyn llwyddo yn yr amgylchedd hwn sy'n newid yn barhaus ac aros yn gystadleuol o ran y farchnad recriwtio, bydd angen i ni wella ein cynnig cyflogaeth a sicrhau bod cynifer o fanteision ag sy'n bosib ynghlwm wrth weithio i ni, megis polisïau rheoli pobl hyblyg, buddion/gostyngiadau i staff a gweithio hybrid, fel ein bod yn gallu denu a chadw'r bobl orau.
Byddwn hefyd yn adolygu ein strategaethau, ein polisïau a'n harferion, ynghyd â sut rydym yn datblygu, defnyddio a chadw talent. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein cynlluniau gweithlu i ddeall y galluoedd angenrheidiol ac i benderfynu ar y talentau sy'n ofynnol gan ein gweithlu.
Bydd pwysau ariannol parhaus yn rhoi pwyslais ar yr angen i wneud gwell defnydd o'r adnoddau ariannol sydd ar gael i ni. Mae ein Panel Ymgynghorol ynghylch y Polisi Tâl yn cydnabod hyn ac wedi mynegi ei awydd i gynnal adolygiad a fydd yn canolbwyntio ar strwythurau uwch-swyddogion, rhychwantau rheoli a chyflogau i sicrhau bod ein strwythur sefydliadol yn addas i'r diben ac yn gost-effeithiol wrth symud ymlaen.
I grynhoi, byddwn yn denu'r doniau gorau trwy gynnig pecyn 'cyflogwr o ddewis', sicrhau cynllunio gweithlu ac olyniaeth effeithiol, a symleiddio ein strwythurau sefydliadol. Bydd hyn yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau o ansawdd da tra'n gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael i ni.
Byddwn yn cyflawni hyn drwy:
- Adolygu ein model cyflogau, gan sicrhau ei fforddiadwyedd, er mwyn cefnogi ein huchelgais o fod yn 'gyflogwr o ddewis’.
Cyflwyno strategaeth recriwtio ddiwygiedig sy'n adlewyrchu ymrwymiad corfforaethol i gydraddoldeb ac amrywiaeth, tra'n sicrhau bod arferion recriwtio diogel ar waith. - Hyrwyddo arferion cyflogaeth diogel.
- Adolygu a symleiddio ein prosesau recriwtio presennol ac ymgorffori safonau ac arferion cyson i gefnogi denu, dewis a chadw'r doniau gorau sydd ar gael.
- Adolygu'r broses recriwtio a dewis ar gyfer uwch-swyddogion i adlewyrchu'r newidiadau sy'n ofynnol gan ein harweinwyr wrth i ni symud ymlaen.
- Recriwtio a chadw pobl sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd trwy fabwysiadu fframwaith cymhwysedd wedi'i alinio.
- Datblygu cylch gorchwyl i adolygu strwythurau ein huwch-swyddogion, rhychwantau rheoli a chyflogau er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion y sefydliad a chydraddoldeb.
- Adolygu'r broses sefydlu o'r dechrau i'r diwedd gan gynnwys lansio rhaglen sefydlu gorfforaethol newydd sy'n adlewyrchu ein brand corfforaethol.
- Adolygu effeithiolrwydd ein strategaethau cadw, fel talu atchwanegiadau marchnad, er mwyn sicrhau y ceir y canlyniadau a ddymunir.
- Sicrhau bod gan weithwyr y sgiliau a'r gallu i ymateb i ffyrdd newydd o weithio drwy ddatblygu llwybrau gyrfa a chyfleoedd cynhwysol i dalent dyfu.
- Datblygu gweithlu gwydn drwy gryfhau'r gweithlu a chynllunio olyniaeth ymhellach.
- Datblygu rhwydwaith o hyrwyddwyr a all ddarparu meysydd dysgu allweddol.
- Nodi potensial ar draws ein gweithlu amrywiol, gan sicrhau bod ein holl bobl yn cael y cyfle i gyrraedd eu potensial.
- Ein nod yw lleihau ein dibyniaeth ar weithwyr asiantaeth a chontractwyr allanol.
- Hybu'r defnydd o brofiad gwaith, secondiadau, prentisiaethau, cysgodi, hyfforddi, mentora a chynlluniau graddedigion.
- Annog pawb i gymryd cyfrifoldeb personol dros eu perfformiad a'u dysgu eu hunain.
Datblygu ymhellach y fframweithiau gwobrwyo a chydnabod presennol i ddathlu llwyddiant, arloesedd a chreadigrwydd yn gyson. - Cwblhau archwiliad sgiliau digidol ledled y cyngor i nodi anghenion gwybodaeth a sgiliau ein gweithlu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
- Gwella ein cynigion dysgu a datblygu digidol, gan sicrhau bod modd cael mynediad at ddysgu priodol o ystod o ddyfeisiau a lleoliadau.
- Sicrhau bod yr holl weithwyr yn ymwybodol o ddysgu sgiliau hanfodol, statudol a chraidd ac wedi cwblhau hynny.
- Adolygu ein Strategaeth Sgiliau Iaith Gymraeg a gweithio mewn partneriaeth â Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ar brosiect peilot sy'n edrych ar y defnydd mewnol o'r iaith.
Mae sefydliadau arloesol ac uchel eu perfformiad yn arddangos ymddygiadau arweinyddiaeth ar bob lefel o'r sefydliad. Byddwn yn gweithio i feithrin yr ymddygiadau hyn i ymateb i'r heriau sy'n ein hwynebu, gan ein galluogi i ddatblygu ein cenhedlaeth nesaf o arweinwyr talentog - pobl sy'n gallu arwain mewn ffordd onest a dilys, gan ysbrydoli ac ymgysylltu â'r bobl maent yn gweithio gyda nhw drwy hyrwyddo gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus a modelu rôl ein Gwerthoedd Craidd.
Rydym yn deall nad yw gwneud mwy o'r un peth yn gynaliadwy, felly byddwn yn tyfu arweinwyr a rheolwyr addasadwy, cynhwysol, sy'n deall yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gan reolwr yn Sir Gaerfyrddin; unigolion â sgiliau arwain a all lywio'r sefydliad yn effeithiol drwy newid, gan ddarparu arweinyddiaeth, cyfeiriad a chymorth i'n pobl.
Byddwn hefyd yn gweithio i sicrhau diwylliant perfformio, sy'n golygu y bydd angen arweinwyr a rheolwyr datblygedig, cydweithredol ac effeithiol iawn arnom, sy'n bobl sy'n ffocysu ar ac yn gallu cyfrannu'n gadarnhaol at gydnabod a gwobrwyo gweithwyr - gan eu hyfforddi a'u datblygu fel y gallant ddarparu gwasanaethau o'r safon uchaf.
Gan roi mwy o ffocws ar gydweithio a gweithio mewn partneriaeth, bydd angen i'n harweinwyr hefyd fod yn ymwybodol yn wleidyddol, gan feddu ar y gallu i fod yn arloesol. Bydd angen i arweinwyr a rheolwyr fod yn dysgu'n barhaus i gefnogi ffyrdd newydd o weithio.
Yn ogystal, fel rhan o'n dull o ddatblygu sgiliau a chapasiti ar draws y gweithlu cyfan, byddwn yn sicrhau y gall pobl ar bob lefel yn ein sefydliad ddatblygu a dangos rhinweddau angenrheidiol arweinyddiaeth.
Byddwn yn cyflawni hyn drwy:
- Gweithredu'r Fframwaith Cymhwysedd newydd sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd, i gefnogi recriwtio, arfarniadau a datblygiad.
- Adeiladu dull arwain a rheoli 'hyfforddi ar gyfer perfformiad'.
- Datblygu offeryn asesu 360 gradd newydd ar gyfer arweinwyr yn seiliedig ar y cymwyseddau newydd.
- Dylunio a threialu rhaglen a fydd yn arfogi ein harweinwyr a'n rheolwyr â'r sgiliau craidd sydd eu hangen ar gyfer rheoli pobl a rheoli newid yn effeithiol.
- Datblygu arweinwyr sy'n ymwybodol yn wleidyddol ac yn ddemocrataidd.
- Meithrin sgiliau a hyder i reoli amrywiaeth yn ogystal ag atebolrwydd am ymgysylltu â gweithwyr a chynhwysiant.
- Sicrhau ein bod yn arwain gwasanaethau sy'n adlewyrchu natur ddwyieithog ein Sir drwy ddarparu ystod o gyfleoedd datblygu i weithwyr presennol a newydd wella eu sgiliau Cymraeg.
- Creu a chyflwyno cynnig "arweinwyr y dyfodol" ar gyfer gweithwyr sy'n anelu at ddringo i swyddi sy'n arwain.
- Gweithredu’r System Rheoli Dysgu newydd yn llawn i gefnogi’r gwaith o ddarparu ymyriadau Dysgu a Datblygu wedi’u targedu sy’n cefnogi nodau strategol y sefydliad wrth symleiddio prosesau.
Y sefydliadau sy'n darparu'r profiadau gorau i gwsmeriaid yw'r rhai sydd â gweithwyr mawr eu hymgysylltiad. Mae sefydliadau sydd â gweithwyr ymgysylltiedig 21% yn fwy cynhyrchiol (Gallup). Yn ôl ein dealltwriaeth ni, y pedwar peth sy'n galluogi gweithlu ymgysylltiedig yw naratif strategol cryf, rheolwyr sy'n ymgysylltu, llais y gweithiwr ac uniondeb sefydliadol.
Byddwn yn gweithio i ddarparu naratif strategol cryf am Gyngor Sir Caerfyrddin, sy'n ddilys, ac yn cael ei ddarparu gan arweinwyr grymus a gweladwy. Mae ein Strategaeth Gorfforaethol yn amlinellu diben a rennir y gall ein pobl uniaethu ag ef, sy'n gweithredu fel conglfaen o ran dealltwriaeth pobl o'r darlun ehangach, a bydd ein rheolwyr yn perchnogi negeseuon corfforaethol gyda dilysrwydd.
Mae recriwtio a datblygu rheolwyr ymgysylltu yn hollbwysig; rheolwyr sy'n ffocysu eu pobl ac yn eu trin fel unigolion tra'n eu hyfforddi a'u herio. Rydym am i'n pobl deimlo'n rhan o sefydliad sy'n gwerthfawrogi cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn allweddol i hyn fydd rheolwyr sy'n gwneud i bawb deimlo'n rhan o'r tîm ac yn blaenoriaethu llesiant eu pobl, gan fod yn synhwyrol ac yn ddibynadwy ar yr un pryd.
Byddwn yn rhoi llais i'n staff. Mae llais y gweithiwr yn hanfodol i'n helpu i wneud newidiadau cadarnhaol a gwirioneddol. Byddwn yn gweithio i greu diwylliant lle mae ein pobl yn cael eu hystyried yn ganolog i'r ateb, yn cymryd rhan, yn cael eu gwahodd i gyfrannu eu profiad, eu harbenigedd a'u syniadau, ac yn bobl y gwrandewir arnynt. Byddwn yn adeiladu ar ein dulliau presennol ac yn rhoi fframwaith ar waith sy'n sicrhau ein bod yn cael sgyrsiau dwyffordd parhaus gyda'n pobl mewn gwahanol ffyrdd, er mwyn sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed.
Mae uniondeb sefydliadol yn bodoli pan fydd ein gwerthoedd craidd y cytunwyd arnynt yn cael eu hadlewyrchu mewn ymddygiadau o ddydd i ddydd. Nid oes bwlch 'dweud–gwneud'. Addewidion a wnaed ac addewidion a gadwyd, neu esboniad pam nad felly. Mae ymddiriedaeth yn hanfodol i berfformiad da mewn tîm, ac ymgysylltiad uchel mewn sefydliad. Mae uniondeb sefydliadol yn meithrin ymddiriedaeth a bydd yn cael ei amlygu nid yn unig gan uwch-arweinwyr ond gan reolwyr ar draws y sefydliad.
Byddwn yn cyflawni hyn drwy:
- Sicrhau bod gan ein rheolwyr y sgiliau i arwain a rheoli yn effeithiol, gan ymddwyn yn onest a chydag uniondeb a chreu amgylchedd cadarnhaol, dibynadwy i'w pobl.
- Sicrhau bod ein rheolwyr yn cytuno ar amcanion clir gyda'u pobl ac yn dangos iddynt sut mae eu gwaith yn cyfrannu at amcanion y sefydliad.
- Sicrhau bod ein rheolwyr yn cael y gorau o'u pobl drwy roi adborth rheolaidd, meddylgar, gonest ac adeiladol ar berfformiad.
- Sicrhau bod rheolwyr yn trafod datblygiad proffesiynol a gyrfaol eu pobl ar adegau rheolaidd yn ystod y flwyddyn ac yn darparu cefnogaeth i gyflawni nodau y cytunwyd arnynt.
- Cynnwys ein pobl yn ein Rhaglen Drawsnewid drwy gyflwyno rhaglen rheoli talent.
- Datblygu a rhannu adnoddau dysgu i gefnogi cynhwysiant digidol.
- Gwella cyfathrebu mewnol ymhellach.
- Gwella'r cyfleoedd i bobl ddweud eu dweud.
- Cynnal arolwg blynyddol i ymgysylltu â gweithwyr a gweithredu ar yr adborth a dderbyniwn yn gorfforaethol ac yn adrannol.
- Cynnal arolygon "gwirio tymheredd" rheolaidd i sicrhau bod llais y gweithiwr yn cael ei glywed ac y gwrandewir arno.
- Datblygu fframwaith cydnabyddiaeth, yn seiliedig ar adborth gan ein staff, sy'n annog ein rheolwyr i ddiolch nid yn unig i'w pobl am y gwaith maen nhw'n ei wneud, ond hefyd i wneud ymdrech i sicrhau bod arloesedd, creadigrwydd, llwyddiant a chyflawniadau unigolion a thimau yn cael eu cydnabod, eu gwerthfawrogi a'u dathlu.
- Datblygu strategaeth cysylltiadau gweithwyr sy'n croesawu egwyddorion partneriaeth gymdeithasol i sicrhau ein bod yn meithrin perthynas gadarnhaol â'n hundebau llafur cydnabyddedig.
Mae'r sefydliadau gorau bob amser yn chwilio am gyfleoedd i wella, ac felly'r gweithwyr gorau hefyd. Mae creu diwylliant sy'n gwerthfawrogi blaengarwch a chreadigrwydd, a datblygu ein gweithlu cyfan, mewn diwylliant nad yw'n gweld bai, yn hanfodol i berfformiad ein sefydliad – dyma'r gwahaniaeth rhwng sefydliad sydd ond yn cael y pethau sylfaenol yn iawn a sefydliad sy'n arloesi'n llwyddiannus trwy fod yn barod i roi cynnig ar bethau newydd, gan ddefnyddio camgymeriadau fel cyfleoedd dysgu lle mae pawb yn rhannu atebolrwydd.
Mae sicrhau perfformiad da ar bob lefel o'r sefydliad hefyd yn hanfodol i'n llwyddiant yn y dyfodol. Mae'n dechrau gyda'n harweinwyr yn dangos y gwerthoedd a'r ymddygiadau rydym am i eraill efelychu a sefydlu mesurau perfformiad clir sy'n cyd-fynd â'r gwerthoedd a'r ymddygiadau hyn. O hyn, byddwn yn ymgorffori arferion recriwtio teg a chyson sy'n adlewyrchu ein cymuned ac yn canolbwyntio ar ddenu a chadw'r talentau gorau sydd ar gael. Mae'r mesurau perfformiad hyn yn sail i fframwaith arfarnu a rheoli perfformiad safonol, a phan fyddant yn cael eu defnyddio byddant yn ein galluogi i adnabod perfformwyr a chyflawnwyr da. Byddant hefyd yn ein helpu ni i fynd i'r afael yn briodol â thanberfformiad drwy sgyrsiau gonest ac adeiladol, a thrwy roi i'n harweinwyr a'n rheolwyr yr hyn sydd eu hangen arnynt, rhoddir cymorth iddynt fynd i'r afael â thanberfformiad effeithiol.
Gan sefydlu llwybrau gyrfa clir ar gyfer rolau allweddol a chynnig cyfleoedd twf i bawb, byddwn yn cefnogi ein gweithlu i ffynnu a llwyddo, gan hyrwyddo diwylliant o greadigrwydd a blaengarwch a hybu ymgysylltu â gweithwyr, cadw gweithwyr a theyrngarwch ymysg y gweithwyr.
Bydd cyflwyno rhaglen arbrofol tymor byr yn rhoi cyfle i'n pobl ddatblygu wrth iddynt gyfrannu at brosiectau trawsnewid gan ychwanegu gwerth go iawn i'n sefydliad.
Ar hyn o bryd mae data'n dangos nad oes gan 21% o bobl ledled y DU sgiliau digidol sylfaenol llawn, ac mae'r lefel allgáu digidol ledled Cymru yn uwch fyth . Felly, mae'n hanfodol ein bod, fel sefydliad, yn gynhwysol yn ddigidol trwy sicrhau bod ein gweithlu'n hyderus yn ddigidol a bod ein cynnwys digidol yn cadw at ganllawiau hygyrchedd.
Mae gweithlu sy'n hyderus yn ddigidol yn hanfodol ar gyfer sector cyhoeddus modern, arloesol ac effeithlon. Mae gweithlu sy'n hyderus yn ddigidol yn weithlu sydd â'r sgiliau, y wybodaeth a'r meddylfryd i ddefnyddio technolegau digidol yn effeithiol ac yn effeithlon yn eu gwaith. Gweithlu sy'n gallu addasu i ofynion digidol sy'n newid, cydweithio ar-lein, a chreu gwerth drwy arloesi digidol. Mae gweithlu sy'n hyderus yn ddigidol nid yn unig yn gymwys yn ddigidol, ond hefyd yn chwilfrydig a chreadigol yn ddigidol.
Byddwn yn cefnogi ein pobl i fod yn hyderus yn ddigidol ac i addasu i dechnolegau newydd, deallusrwydd artiffisial a roboteg, fel ein bod yn gwneud y gorau o'r cyfleoedd a gyflwynir.
Byddwn yn cyflawni hyn drwy:
- Datblygu arferion recriwtio teg a chyson sy'n adlewyrchu ein cymuned ac yn canolbwyntio ar ddenu a chadw'r talentau gorau sydd ar gael.
- Sefydlu ymddygiadau arweinyddiaeth clir a chymwyseddau rheoli disgwyliedig.
- Gweithio gyda'n gilydd i ymgorffori ymddygiadau sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd ac yn ein gadael i ddangos pa mor falch ydym ni o weithio i Sir Gaerfyrddin.
- Canolbwyntio ar gadw ein perfformwyr da a rheoli tanberfformio trwy gyfnodau o newid a gweithredu cynlluniau olyniaeth mewn swyddi hollbwysig.
- Gwella profiad y defnyddiwr gyda'n System Rheoli Dysgu newydd a datblygu gallu i dynnu gwybodaeth reoli briodol.
- Defnyddio ein rhaglen drawsnewid i wrando ar staff am syniadau sut i wella ac i ymchwilio ymhellach i gyfleoedd i weithio mewn modd mwy clyfar.
- Cyflwyno Rhaglen Profiad Tymor Byr (STEP) sy'n rhoi cyfle i staff ddatblygu wrth gefnogi Prosiectau Trawsnewid.
- Datblygu gwybodaeth a sgiliau ymhellach i gefnogi mabwysiadu dull mwy masnachol o ddarparu gwasanaethau'r Cyngor, gyda'r nod o gynhyrchu incwm ychwanegol a lliniaru effaith heriau cyllidebol parhaus.
- Darparu data perthnasol, manwl-gywir am bobl i'r sefydliad, i helpu i wneud penderfyniadau effeithiol ar sail tystiolaeth trwy ddatblygu dangosfwrdd data pobl.
- Datblygu a gweithredu fframwaith cymwysterau a sgiliau newydd.
- Cefnogi ein gwasanaethau i wneud gwell defnydd o dechnoleg, fel ein bod yn lleihau gwastraff a chostau ac yn rhyddhau ein pobl i wneud pethau gwell.
- Gweithredu ein Fframwaith Sgiliau Digidol newydd.
- Adolygu ein proses arfarnu newydd, o safbwynt ansoddol a meintiol.
Ein nod yw cefnogi ein pobl i fod yn fwy diogel, yn iachach ac yn hapusach yn y gwaith. Mae integreiddio iechyd, diogelwch, a llesiant i'n ffordd o weithio, gan hyrwyddo amgylchedd cadarnhaol, diogel ac iach yn allweddol i sicrhau bod ein pobl yn gallu ffynnu yn y gwaith. I gyflawni hyn, byddwn yn parhau i greu cyfleoedd sy'n canolbwyntio ar iechyd, diogelwch a llesiant ein pobl, gan gefnogi mentrau sy'n darparu addysg a chyngor ar amrywiaeth eang o bynciau iechyd, diogelwch, a llesiant.
Gan weithio gyda'n rheolwyr a'u pobl, byddwn yn datblygu, gweithredu, adolygu a monitro asesiadau risg, polisïau, gweithdrefnau a systemau gwaith diogel sy'n lleihau risgiau ac yn darparu gweithle diogel ac iach. Bydd ein pobl yn rhan flaenllaw o'r prosesau hyn i sicrhau bod y canlyniadau'n briodol, gan wneud eu gweithle mor ddiogel ag sy'n rhesymol ymarferol.
Gan weithio'n agos gyda'n pobl, byddwn yn eu hannog i fyw bywyd iach. Mae hyn yn cynnwys darparu mynediad at y wybodaeth, yr adnoddau a'r cymorth sy'n angenrheidiol i wneud penderfyniadau cadarnhaol iach a diogel, yn ogystal â chynnal digwyddiadau, gweithgareddau a mentrau dysgu a datblygu rheolaidd i hyrwyddo iechyd a llesiant cadarnhaol.
Byddwn hefyd yn gweithio'n galed i leihau unrhyw agweddau ar yr amgylchedd gwaith, a allai effeithio'n negyddol ar iechyd, diogelwch neu les gweithiwr, gan sicrhau bod yr holl brosesau a gweithdrefnau yn rhoi ystyriaeth briodol i iechyd meddwl a chorfforol ein pobl.
Byddwn yn sicrhau bod digon o gapasiti yn ein Canolfan Iechyd Galwedigaethol fewnol i gefnogi ein pobl, ac yn darparu cyngor meddygol arbenigol, i reoli presenoldeb yn effeithiol a ffitrwydd gweithwyr i weithio. Byddwn hefyd yn parhau i gynnal profion sgrinio meddygol statudol i fesur effaith gwaith, ar gyfer grwpiau galwedigaethol a nodwyd.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu a gweithredu polisïau sy'n berthnasol i iechyd a llesiant ein gweithwyr a byddwn yn parhau i adolygu a diweddaru polisïau o'r fath i sicrhau eu bod yn cefnogi'r Strategaeth hon.
Ar ben hynny, mae'n bwysig ein bod yn edrych ar ffyrdd o adeiladu a chefnogi gwytnwch a chapasiti i ffynnu mewn hinsawdd o newid parhaus. Mae hynny'n golygu darparu'r dulliau, y technegau, y polisïau a'r prosesau i gefnogi ein pobl drwy gyfnodau anodd.
Byddwn yn annog cyfrifoldeb personol i gael gafael ar y cymorth sydd ar gael ac yn parhau i eirioli ein rhwydweithiau iechyd a lles gweithwyr a'r gwaith gwych maent yn ei wneud, a'r llais cryf sydd ganddynt ar draws y sefydliad.
Mae ein dull gweithio hyblyg eisoes yn darparu buddion gwych ar gyfer rheoli cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Rydym am wneud mwy i sicrhau bod y meddylfryd hwn yn gyson ar draws y sefydliad, tra'n galluogi rheolwyr i fod yn greadigol ac yn arloesol er mwyn diwallu anghenion busnes sy'n newid.
Byddwn yn cyflawni hyn drwy:
- Creu diwylliant lle mae iechyd, diogelwch a llesiant wedi'u hintegreiddio i ymddygiad gweithwyr, yn ogystal â pholisïau, prosesau a gweithgareddau perthnasol sy'n cael dylanwad ar iechyd, diogelwch a llesiant cyffredinol gweithwyr.
- Sefydlu a hyrwyddo diwylliant o arweinyddiaeth gadarnhaol ar gyfer iechyd, diogelwch a llesiant, sy'n dangos ymrwymiad gan Uwch-reolwyr.
- Datblygu a gweithredu trefniadau rheoli perthnasol ar gyfer iechyd, diogelwch a llesiant.
- Datblygu a chyflwyno cynllun a rhaglen iechyd a llesiant.
- Sicrhau bod gennym yr ymrwymiad sefydliadol parhaus i iechyd a llesiant ein pobl.
- Sicrhau ffocws corfforaethol digonol o ran cymorth iechyd a llesiant i weithwyr.
- Annog a chefnogi gweithwyr i wneud newidiadau cadarnhaol i'w ffordd o fyw a chymryd cyfrifoldeb dros eu hiechyd, eu diogelwch a'u llesiant eu hunain, drwy ddarparu cyngor, cymorth, digwyddiadau a gweithgareddau.
- Darparu amgylchedd gwaith cadarnhaol sy'n hyrwyddo ac yn galluogi gwelliannau i iechyd, diogelwch a llesiant gweithwyr.
- Atgyfnerthu dysgu Iechyd a Diogelwch yn y System Rheoli Dysgu newydd, er mwyn gwella cydymffurfiaeth a monitro.