4. Ein Rôl o ran Darparu Gwasanaethau Dwyieithog

Rydym yn deall bod y Gymraeg yn allweddol i hunaniaeth nifer o'n trigolion ac yn aml iawn bod pobl yn gallu mynegi eu barn a'u hanghenion yn well yn eu hiaith gyntaf. Felly mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau bod ein trigolion a'n cwsmeriaid yn gallu cyrchu ein gwasanaethau trwy eu dewis iaith a sicrhau bod gan ein gweithwyr y sgiliau gofynnol.

Gan weithio ochr yn ochr â Phanel Ymgynghorol yr Iaith Gymraeg, rydym yn cefnogi hyrwyddo a datblygu'r Gymraeg yng nghyd-destun sicrhau ein bod yn gallu recriwtio i swyddi allweddol a hanfodol.

Mae data'r Cyfrifiad diweddaraf ar gyfer 2021 yn dweud wrthym fod Sir Gaerfyrddin yn gartref i 72,838 o siaradwyr Cymraeg. Mae hyn yn cyfateb i 39.9% o gyfanswm poblogaeth y sir. Mae'r ffigur hwn wedi gostwng 5,210 ers y Cyfrifiad diwethaf yn 2011, sy'n cyfateb i ostyngiad pwynt canran o 4.0. Dyma'r gostyngiad mwyaf fel pwynt canran o blith holl awdurdodau lleol Cymru.

Yn 2001 a 2011, Sir Gaerfyrddin oedd â'r nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg o bob awdurdod lleol yng Nghymru, gydag 84,196 o siaradwyr Cymraeg yn 2001 a 78,048 o siaradwyr Cymraeg yn 2011. Mae'r ffigurau newydd hyn yn golygu bod gan y sir bellach y nifer ail uchaf o siaradwyr Cymraeg o bob awdurdod lleol yng Nghymru. Sir Gaerfyrddin yw'r pedwerydd uchaf o hyd o ran canran y boblogaeth sy'n medru siarad Cymraeg.

Yn unol â Strategaeth Hybu’r Gymraeg (llyw.cymru) a'r ymrwymiadau a nodir yn Safonau'r Gymraeg, Strategaeth Sgiliau'r Gymraeg, a'r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth mae'r Strategaeth hon yn adleisio'r hyn y bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei wneud i hwyluso'r gwaith o ddarparu gwasanaethau dwyieithog.