6. Ynghylch ein Gweithlu

Yn genedlaethol, gwyddom fod tua 30% o weithlu'r DU dros 50 oed, a bod y ganran hon yn mynd i barhau i gynyddu. Yn lleol, ers Cyfrifiad 2011, mae Sir Gaerfyrddin wedi gweld cynnydd o 19% bron yn nifer y bobl 65 oed a hŷn a gostyngiad o 2.5% yn nifer y bobl 15 i 64 oed. O ystyried y sefyllfa gymdeithasol/economaidd a'r cynnydd yng nghostau byw gyda chwyddiant uwch, mae'n anochel y bydd llawer o bobl yn gweithio am fwy o amser. Fodd bynnag, cydnabyddir bod y pandemig wedi cael effaith ar y dewisiadau personol y mae rhai pobl yn eu cymryd mewn perthynas ag ymddeoliad cynnar, llai o oriau, a'r angen am amgylchedd gwaith mwy hyblyg.

Wrth i'n poblogaeth dyfu'n hŷn, nid yw cyn symled yn ymarferol â disodli'r rhai sy'n ymddeol gyda phobl iau. Felly, bydd angen i ni ystyried sut rydym yn gofalu am iechyd a llesiant ein gweithlu i helpu i ymestyn eu bywydau gwaith.

Rydym hefyd yn un o'r cyflogwyr mwyaf yn y Sir ac ar hyn o bryd yn cyflogi:

  • 8,665 o bobl (6,566 cyfwerth ag amser llawn) yn meddiannu 5,022 o swyddi gydag ychydig llai na 100 o weithwyr yn cael eu cyflogi drwy asiantaeth gyflogaeth ar unrhyw adeg benodol.
  • Mae gan 45% o'n pobl dros 10 mlynedd o wasanaeth.
  • Mae 27% yn debygol o ymddeol yn y deng mlynedd nesaf.
  • Mae gan 11.77% o'n pobl anabledd datganedig.
  • Y cyflog cyfartalog yn y Cyngor yw £27,128.
  • Mae trosiant gwirfoddol ar hyn o bryd yn 9.11%, sy'n is na chyfartaledd y DU.

Mae Tabl 1 isod yn darparu dadansoddiad proffil oedran manwl:

Tabl 1

Ystod Oedran Nifer Cyfran y gweithlu
     
Dan 25 oed 482 5.6%
25-44 3,476 40%
45-54 2,405 28%
55-64 1,957 23%
Dros 65 345 4%

 

Mae'r siartiau cylch canlynol yn darparu dadansoddiad pellach o'n gweithlu presennol:

Oed

Dan 25

25-44

45-54

55-64

Dros 65

Rhywedd

Benyw

Gwryw

Statws Contract

Parhaol

Dros Dro

Amser Llawn V Rhan-amser

Amser Llawn

Rhan-amser