Strategaeth Gweithlu- 2024 – 2029 - Fframwaith Sefydlog ar gyfer Gweithlu sy'n Newid - Ebrill 2026

1. Pwrpas y Strategaeth Gweithlu

Mae’r Strategaeth Gweithlu hon yn darparu fframwaith corfforaethol parhaol y Cyngor ar gyfer cynllunio, datblygu a chynnal ei weithlu dros y tymor canolig. Mae’n nodi’r bwriad strategol, yr egwyddorion a’r amcanion sy’n llywio penderfyniadau ynghylch y gweithlu ar draws y sefydliad, gan sicrhau yr ymdrinnir â risgiau, capasiti a chynaliadwyedd y gweithlu mewn ffordd gydlynol sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae’r Strategaeth yn fwriadol sefydlog ac yn seiliedig ar egwyddorion. Mae’n cydnabod bod risgiau i’r gweithlu, amodau’r farchnad lafur a phwysau ar wasanaethau yn newid yn gyflym, yn enwedig mewn cyfnod o gyfyngiadau ariannol parhaus a galw cynyddol. Am y rheswm hwn, caiff y Strategaeth ei chefnogi, yn hytrach na’i disodli, gan y Cynllun Gweithlu Strategol a gaiff ei ddiweddaru’n flynyddol ac sy’n darparu’r dystiolaeth fanwl, y blaenoriaethu a’r camau gweithredu sydd eu hangen ar unrhyw adeg benodol.

Gyda’i gilydd, mae’r dogfennau hyn yn sicrhau bod cynllunio’r gweithlu yn parhau’n gyson yn strategol ac yn ymatebol yn weithredol.


2. Cyd-destun Strategol

Mae’r Cyngor yn gweithredu mewn amgylchedd cynyddol gymhleth a chyfyngedig a nodweddir gan:

  • Cyfrifoldebau statudol a rheoleiddiol cynyddol.

  • Pwysau ariannol a phwysau o ran fforddiadwyedd sy’n parhau.

  • Galw a chymhlethdod cynyddol ar draws gwasanaethau allweddol.

  • Prinder parhaus yn y farchnad lafur genedlaethol a rhanbarthol.

  • Trawsnewid digidol a moderneiddio gwasanaethau sy’n cyflymu.

  • Newid demograffig, gan gynnwys gweithlu sy’n heneiddio.

Nid yw’r pwysau hyn wedi’u dosbarthu’n gyfartal ac mae lefel y risg a’r effaith yn amrywio ar draws gwasanaethau. O ganlyniad, mae angen ymdrin fwyfwy â chynllunio’r gweithlu fel mater o risg gorfforaethol, sy’n gofyn am flaenoriaethu, cyfaddawdu a gwneud penderfyniadau ar y cyd, yn hytrach nag ymatebion ar wahân ar lefel gwasanaeth.

Mae’r Strategaeth hon yn cyd-fynd â Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, y Model Gweithredu Targed (TOM), y Rhaglen Drawsnewid, agendâu diwygio Llywodraeth Cymru ac egwyddorion datblygu cynaliadwy a chynllunio hirdymor, ac mae’n eu cefnogi. Yn benodol, mae’n cefnogi uchelgais y Model Gweithredu Targed i greu gweithlu sy’n barod ar gyfer y dyfodol a diwylliant Un Cyngor, drwy sicrhau bod capasiti, gallu a risgiau’r gweithlu yn llywio’r gwaith o gynllunio gwasanaethau, trawsnewid a gwneud penderfyniadau sefydliadol.

Bydd gofynion y gweithlu yn y dyfodol yn cael eu hystyried ochr yn ochr â’r galw a ragwelir, modelau gwasanaeth sy’n newid, atal ac ymyrryd yn gynnar, cynaliadwyedd ariannol a newid technolegol.


3. Ein Gweledigaeth ar Gyfer Gweithlu'r Dyfodol

Gweledigaeth y Cyngor yw datblygu a chynnal gweithlu sy’n barod ar gyfer y dyfodol, sydd â’r capasiti, y sgiliau a’r arweinyddiaeth sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel, addasu i ofynion sy’n newid a chefnogi cyfeiriad y Cyngor yn y dyfodol.

Bydd y gweithlu’n wydn, yn ymgysylltiedig, yn gynhwysol ac yn hyderus wrth ddefnyddio technoleg ddigidol, gyda’r gallu sydd ei angen i ymateb i newid sefydliadol, ffyrdd newydd o weithio a heriau’r gweithlu yn y dyfodol.


4. Egwyddorion y Strategaeth Gweithlu

Mae’r Strategaeth yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol, sy’n llywio’r broses o wneud penderfyniadau ar draws y sefydliad cyfan:

Perchnogaeth gorfforaethol o risgiau’r gweithlu

Mae risgiau’r gweithlu yn risgiau corfforaethol. Rhaid deall, blaenoriaethu a mynd i’r afael ar y cyd â phrinderau, bylchau o ran gallu, gwendidau mewn trefniadau olyniaeth a materion yn ymwneud â chapasiti arweinyddiaeth, yn hytrach nag ar lefel gwasanaeth yn unig.

Nid yw perchnogaeth gorfforaethol yn dileu atebolrwydd gwasanaethau. Mae arweinwyr gwasanaethau yn parhau i fod yn gyfrifol am ddeall eu gofynion gweithlu presennol ac yn y dyfodol, cynnal cynlluniau gweithlu credadwy a gweithredu mewn ymateb i risgiau’r gweithlu a nodwyd. Cânt eu cefnogi a’u herio drwy drefniadau llywodraethu corfforaethol a swyddogaethau galluogi.

Blaenoriaethu ar sail tystiolaeth

Rhaid i flaenoriaethau’r gweithlu gael eu llywio gan wybodaeth gadarn am y gweithlu a thystiolaeth sefydliadol ehangach, gan gynnwys y galw am wasanaethau, gwybodaeth am berfformiad a risgiau sefydliadol.

Blaenoriaethu a chymesuredd o dan gyfyngiadau

Mewn amgylchedd gweithredu cyfyngedig, ni all y Cyngor ddatblygu holl uchelgeisiau’r gweithlu ar yr un pryd. Rhaid targedu ymdrech a buddsoddiad lle mae risgiau’r gweithlu a’r effaith ar y sefydliad ar eu mwyaf, gan dderbyn bod angen cyfaddawdu weithiau.

Cynaliadwyedd yn hytrach nag ymateb tymor byr

Mae’r Strategaeth yn blaenoriaethu cynaliadwyedd hirdymor y gweithlu, gan geisio lleihau’r ddibyniaeth ar atebion adweithiol, dros dro neu atebion sy’n cael eu sbarduno gan argyfwng, lle bynnag y bo modd.

Arweinyddiaeth a diwylliant fel ffyrdd o liniaru risg

Mae arweinyddiaeth effeithiol, capasiti rheoli, trefniadau olyniaeth a diwylliant sefydliadol yn hanfodol i wydnwch, llesiant, ymgysylltiad a chadw’r gweithlu.

Hyblygrwydd a’r gallu i addasu

Rhaid i’r Cyngor greu’r amodau sy’n galluogi hyblygrwydd a’r gallu i addasu ar draws y gweithlu. Dylai polisïau’r gweithlu, cynllun gwasanaethau, arferion arweinyddiaeth a threfniadau sefydliadol gynorthwyo gweithwyr i ymateb i ofynion sy’n newid, technoleg a ffyrdd o weithio yn y dyfodol, gan gynnal tegwch, diogelwch, cynhwysiant a llesiant.


5. Amcanion Strategol y Gweithlu (WSOs)

Mae dull gweithlu'r Cyngor wedi'i strwythuro o amgylch pum Amcan Strategol parhaol y Gweithlu. Mae'r amcanion hyn yn parhau i fod yn gyson trwy gydol oes y Strategaeth, a gall eu pwyslais cymharol a'u trefn esblygu mewn ymateb i risg a thystiolaeth.

Amcan Strategol y Gweithlu 1: Denu, Recriwtio a Chadw Talent

Sicrhau bod y Cyngor yn gallu denu, recriwtio a chadw’r bobl sydd eu hangen arno, yn enwedig mewn rolau hanfodol a rolau y mae’n anodd recriwtio iddynt, drwy gynnig pecyn cyflogaeth deniadol, datblygu ffrydiau talent cynaliadwy a defnyddio dulliau cadw wedi’u targedu.

Amcan Strategol y Gweithlu 2: Datblygu Arweinwyr a Rheolwyr Eithriadol

Datblygu capasiti a gwydnwch arweinyddiaeth a threfniadau olyniaeth ar bob lefel, er mwyn sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu harwain yn dda, eu bod yn gynaliadwy a’u bod yn gallu rheoli pwysau cyflawni, llesiant y gweithlu a newid.

Amcan Strategol y Gweithlu 3: Gwella Ymgysylltu â'r Gweithlu

Creu gweithlu ymgysylltiedig lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael gwybodaeth, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn gallu cyfrannu, gan gydnabod bod ymgysylltiad yn sbardun allweddol i gadw’r gweithlu, gwella perfformiad a meithrin gwydnwch sefydliadol.

Amcan Strategol y Gweithlu 4: Datblygu Diwylliant o Berfformiad uchel, o Arloesi ac o Gyflawni

Meithrin y gallu, y capasiti, y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen i wella cynhyrchiant, mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio a chyflawni trawsnewid gwasanaethau cynaliadwy. Mae hyn yn cydnabod bod gallu digidol, gallu o ran data a gallu dadansoddol digonol yn hanfodol i alluogi cyflawni, ac y gall bylchau yn y galluoedd hyn gyfyngu ar drawsnewid.

Amcan Strategol y Gweithlu 5: Datblygu a Chynnal Gweithlu Diogel ac Iachus

Diogelu cynaliadwyedd y gweithlu drwy ymwreiddio iechyd, diogelwch a llesiant mewn prosesau cynllunio’r gweithlu, cynllunio gwasanaethau, newid sefydliadol ac arferion arweinyddiaeth, gan gydnabod bod pwysau o ran llwyth gwaith a chapasiti yn risgiau sylweddol i’r gweithlu.


6. Perthynas â'r Cynllun Gweithlu Strategol

Mae’r Strategaeth Gweithlu hon yn darparu’r fframwaith strategol sefydlog ar gyfer penderfyniadau ynghylch cynllunio’r gweithlu.

Mae’r Cynllun Gweithlu Strategol, a gaiff ei ddiweddaru’n flynyddol, yn dwyn ynghyd dystiolaeth o gynlluniau gweithlu adrannol i roi darlun corfforaethol o gapasiti, gallu, cynaliadwyedd a risgiau’r gweithlu. Mae’n nodi’r pwysau ar y gweithlu, y gwendidau critigol a’r meysydd blaenoriaeth y mae angen sylw sefydliadol arnynt, ac yn llywio gwaith cynllunio, blaenoriaethu a gwneud penderfyniadau corfforaethol.

Yn ymarferol:

  • Mae’r Strategaeth yn diffinio cyfeiriad, egwyddorion ac amcanion hirdymor y gweithlu.

  • Mae’r Cynllun yn darparu’r dystiolaeth, yr asesiad o risgiau’r gweithlu, y blaenoriaethau a’r camau gweithredu sydd eu hangen i ymateb i heriau presennol y gweithlu a’r rhai sy’n dod i’r amlwg.

Mae’r gwahaniad hwn yn sicrhau parhad strategol, gan alluogi ymatebion cymesur sy’n seiliedig ar dystiolaeth i amodau’r gweithlu sy’n newid.


7. Llywodraethu a Sicrwydd

Cefnogir y gwaith o gyflawni’r Strategaeth hon drwy:

  • Ystyried risgiau’r gweithlu yn rheolaidd drwy Ffrwd Waith y Gweithlu Trawsnewid.

  • Diweddaru’r Cynllun Gweithlu Strategol yn flynyddol, gan ddarparu gwybodaeth gorfforaethol am y gweithlu, sicrwydd a blaenoriaethu.

  • Integreiddio â gwaith cynllunio corfforaethol, cynllunio ariannol, trefniadau llywodraethu trawsnewid a fframwaith llywodraethu’r Model Gweithredu Targed (TOM).

  • Defnyddio gwybodaeth am y gweithlu i lywio gwaith cynllunio gwasanaethau, trawsnewid, buddsoddi, arbedion, rheoli risg a phenderfyniadau sefydliadol ehangach.

Mae cynlluniau gweithlu adrannol yn parhau’n sylfaen i gynllunio’r gweithlu a rheoli risg ar lefel leol, ac mae’r Cynllun Gweithlu Strategol yn darparu darlun corfforaethol o gapasiti, gallu a risgiau’r gweithlu. Gyda’i gilydd, mae’r trefniadau hyn yn sicrhau bod ystyriaethau’n ymwneud â’r gweithlu yn llywio blaenoriaethau a phenderfyniadau sefydliadol, tra bo’r Strategaeth hon yn darparu’r fframwaith cyffredinol, y cyfeiriad a’r sicrwydd.


8. Adolygiad o'r Strategaeth

Bwriedir i’r Strategaeth Gweithlu hon barhau’n sefydlog drwy gydol ei hoes. Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y caiff ei diweddaru:

  • Newid sylweddol i flaenoriaethau corfforaethol.

  • Diwygio sefydliadol neu ddiwygio gwasanaethau ar raddfa fawr.

  • Newid sylweddol mewn deddfwriaeth sy’n effeithio ar ofynion y gweithlu.

Bydd adolygiadau canol tymor cyfnodol, wedi’u llywio gan y Cynllun Gweithlu Strategol a thystiolaeth sy’n dod i’r amlwg am y gweithlu, yn sicrhau bod y Strategaeth yn parhau’n addas at y diben, yn gymesur ac yn cyd-fynd â chyd-destun gweithredu’r Cyngor.