Y Polisi a'r Weithdrefn Dileu Swyddi - Ionawr 2024
Yn yr adran hon
- 9. Mynediad at Bensiwn Llywodraeth Leol
- 10. Taliadau Sydd eto i'w Gwneud
- 11. Cymorth Arall
- 12. Apeliadau
- 13. Cyngor a Chymorth
- 14. Monitro'r Polisi Hwn a'r Weithdrefn hon
- 15. Cyfeiriadau
- Atodiad 1 - Cyfnod Diogelu o Ran Dileu Swyddi yn Ystod Beichiogrwydd ac Wrth Ddychwelyd o Absenoldeb Teulu
Atodiad 1 - Cyfnod Diogelu o Ran Dileu Swyddi yn Ystod Beichiogrwydd ac Wrth Ddychwelyd o Absenoldeb Teulu
O 6 Ebrill 2024, bydd gweithwyr sy'n feichiog neu'n dychwelyd ar ôl absenoldeb mamolaeth, absenoldeb mabwysiadu neu absenoldeb rhiant a rennir yn cael statws blaenoriaeth ar gyfer cyfleoedd adleoli pan fydd swyddi'n cael eu dileu.
O dan y gyfraith bresennol, mae gan weithwyr ar absenoldeb mamolaeth, absenoldeb rhiant a rennir neu absenoldeb mabwysiadu ddiogelwch arbennig eisoes pan fydd swyddi'n cael eu dileu. Mae ganddynt yr hawl i gael cynnig swydd wag amgen addas, os oes un ar gael, cyn i'w swyddi gael eu dileu. Mae hyn yn rhoi blaenoriaeth i weithwyr yn ystod y mathau hyn o absenoldeb i gael cyfleoedd adleoli dros weithwyr eraill y mae eu swyddi'n cael eu dileu.
Mae Deddf Diogelu rhag Dileu Swyddi (Absenoldeb Beichiogrwydd a Theulu) 2023 yn ymestyn y statws blaenoriaeth i weithwyr beichiog a'r rhai sydd wedi dychwelyd yn ddiweddar o absenoldeb mamolaeth/mabwysiadu ac absenoldeb rhiant a rennir. Mae'r llywodraeth bellach wedi cyhoeddi'r rheoliadau sy'n nodi sut y bydd yr hawliau newydd yn gweithio'n ymarferol ac yn dod â'r hawliau i rym o 6 Ebrill 2024.
Pwy sy'n cael eu diogelu a phryd?
Hyd y diogelu | |
|---|---|
Gweithiwr beichiog sy'n cymryd absenoldeb mamolaeth | Dechrau: Pan fydd y cyflogwr wedi cael gwybod am feichiogrwydd |
Gweithiwr sydd wedi dioddef camesgoriad | Dechrau: Pan fydd y cyflogwr wedi cael gwybod am feichiogrwydd |
Gweithwyr yn cymryd absenoldeb mabwysiadu | Dechrau: Dechrau absenoldeb mabwysiadu |
Gweithiwr yn cymryd absenoldeb rhiant a rennir | Sylwer: Os yw'r gweithiwr hefyd wedi cymryd absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu, mae'r cyfnodau uchod yn berthnasol yn lle hynny. |
