Y Polisi a'r Weithdrefn Dileu Swyddi - Ionawr 2024
Yn yr adran hon
Egwyddorion cyffredinol
Bydd taliadau digolledu'n cael eu gwneud yn unol â'r darpariaethau statudol, Rheoliadau Digolledu Llywodraeth Leol a'r polisïau sy'n rhai yn ôl disgresiwn cyflogwyr ac sy'n weithredol ar y pryd. Nid yw polisïau yn ôl disgresiwn yn goblygu hawliau contractiol a gall y polisïau newid unrhyw bryd.
Bydd cyflogeion y dilëir eu swyddi yn gweithio cyfnod rhybudd yn unol â'u hawliau contractiol, neu eu hawliau statudol os yw'r rheiny'n fwy, er y gall y cyflogai dan sylw roi heibio'r hawl hon i gyfnod rhybudd. Dim ond mewn achosion lle bydd ystyriaethau gweithrediadol yn ei gwneud yn anymarferol gweithio cyfnod rhybudd y bydd tâl yn daladwy yn lle'r cyfnod rhybudd.
Rhaid i achos busnes gael ei gyflwyno bob tro yn unol â'r weithdrefn y cytunwyd arni (gweler y canllawiau ynghylch achos busnes mewn perthynas ag ymddeoliad, terfynu cyflogaeth a dileu swydd).
Lle bo modd, gofynnir yn y lle cyntaf i bobl wirfoddoli i'w swydd gael ei dileu. Ond mae'r Awdurdod yn cadw'r hawl i ddefnyddio meini prawf ar gyfer dewis os oes yn rhaid i wybodaeth a sgiliau penodol gael eu cadw neu os yw nifer y gwirfoddolwyr yn uwch na nifer y swyddi sydd i'w dileu.
Ymgynghorir â'r Undebau Llafur cydnabyddedig drwy bob cam o'r weithdrefn hon. Os oes 20 neu fwy o gyflogeion yn wynebu dileu eu swyddi o fewn cyfnod o 90 diwrnod mewn un sefydliad yna byddwn yn ymgynghori ar y cyd.
Rhaid i gyflogeion sy'n absennol o'r gwaith am ba reswm bynnag ond yn benodol pan fyddant ar gyfnod mamolaeth, cyfnod mabwysiadu neu gyfnod tadolaeth ychwanegol, absenoldeb rhiant a rennir neu oherwydd salwch tymor hir, gael y wybodaeth ddiweddaraf yn ystod pob cam o'r weithdrefn hon a rhaid rhoi'r un wybodaeth a'r un cyfleoedd iddynt hwy ag a roddir i gyflogeion eraill yr effeithir arnynt.
Mae gan gyflogeion yr hawl i swyddog o undeb llafur cydnabyddedig neu gydweithiwr fod yn bresennol gyda hwy yn ystod pob cam ffurfiol o'r weithdrefn hon.
Rhaid i reolwyr ystyried anghenion cyflogeion anabl yn ystod y broses a gwneud addasiadau rhesymol yn ôl yr angen.
Enghraifft: Mae Rheolwr yn rheoli tîm o 20 cyflogai, ac mae un ohonynt yn gweld yn rhannol. Wrth ymgynghori â'i dîm ynghylch y posibilrwydd o ddileu swyddi, dylai ystyried hyn a sicrhau bod yr holl ddeunydd ysgrifenedig yn hygyrch i'r cyflogai un ai drwy ddarparu gwybodaeth glywedol, drwy drefnu cwrdd â'i gyflogai i drafod yr holl wybodaeth ysgrifenedig â hi, neu drwy unrhyw ddull addas arall o gyfathrebu.
