Teledu Cylch Cyfyng (CCTV)

Diweddarwyd y dudalen: 09/09/2025

Proses Mynegi Diddordeb (EOI) ar gyfer CCTV

Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â Pholisi CCTV y Cyngor ac i ddilyn y broses gorfforaethol a gytunwyd, rhaid i bob cais am systemau CCTV newydd, wedi’u huwchraddio neu eu disodli ddechrau gyda chwblhau ffurflen Mynegi Diddordeb (EOI).

Pam mae’r Ffurflen EOI yn Angenrheidiol?

Mae’r ffurflen EOI yn gam cyntaf gorfodol yn y broses o gyflwyno CCTV. Mae’n sicrhau bod:

  • Pob gosodiad CCTV yn cael ei asesu am angen, cymesuredd, a chydymffurfiaeth â deddfwriaeth prosesu data a diogelwch.
  • Polisi CCTV y Cyngor yn cael ei ddilyn, gan gynnwys cymeradwyaeth ffurfiol
  • Penderfyniadau am gaffael, gosod a gweithredu yn cael eu gwneud yn dryloyw ac o dan oruchwyliaeth briodol.

 

Beth sy’n Digwydd ar Ôl i Chi Gyflwyno’r EOI?

Unwaith y bydd wedi’i gyflwyno, bydd eich EOI yn:

  1. Cael ei adolygu gan Swyddog Prosiect Trawsnewid Digidol (DTPO), a fydd yn trefnu sesiwn ymgysylltu i gasglu gofynion ac asesu dichonoldeb.
  2. Ysgogi cyfarfod safle gyda TGCh, contractwyr, ac swyddogion perthnasol i bennu cwmpas y gosodiad a chadarnhau anghenion technegol.
  3. Cael ei gyfeirio drwy’r sianeli cymeradwyo priodol.
    1. Camau Cymeradwyo:
    2. Arweinydd CCTV’r Adran
    3. Pennaeth y Gwasanaeth
    4. Prosesu Data – John Tilman
    5. Pwynt Cyswllt Unigol CCTV – John M Williams
    6. Uwch Swyddog Risg Gwybodaeth – Gareth Jones
  4. Bydd hyn yn arwain at y gosodiad a’r adolygiad ar ôl y gosodiad.

Nodiadau Pwysig

  • Ni chaniateir newid, caffael, gosod nac weithredu unrhyw system CCTV heb gwblhau’r broses EOI a derbyn awdurdodiad ffurfiol.
  • Rhaid defnyddio’r ffurflen EOI ar gyfer pob gwaith sy’n ymwneud â CCTV, gan gynnwys adrodd am fethiannau ac ychwanegu camerâu.
  • Ni chaniateir cysylltu’n uniongyrchol â chyflenwyr nes bod yr EOI wedi’i gwblhau a’i gymeradwyo.

Cliciwch yma i gwblhau’r Ffurflen EOI ar gyfer CCTV (Dim ond mynediad mewnol)

 

Am ragor o ganllawiau, cyfeiriwch at y ddogfen lawn cctv-policy.pdf

Os oes angen canllaw cyn cwblhau’r ffurflen EOI ar-lein, cysylltwch â ni drwy e-bost: digitaltransformation@carmarthenshire.gov.uk