Teledu Cylch Cyfyng
Diweddarwyd y dudalen: 04/10/2024
Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin dros 250 o systemau teledu cylch cyfyng a thros 1500 o gamerâu.
Mae'r Cyngor yn defnyddio camerâu gwyliadwriaeth at wahanol ddibenion. Mae'r rhain yn cynnwys teledu cylch cyfyng yn adeiladau'r Cyngor fel llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden, meysydd parcio yn ogystal ag ar y briffordd, camerâu gwisg, dronau, camerâu dangosfwrdd a chamerâu adnabod rhifau cofrestru cerbydau.
Mae gan y Cyngor bolisi ar reoli ei deledu cylch cyfyng. Mae pob adran wedi penodi Arweinwyr ar gyfer teledu cylch cyfyng a swyddogion cyfrifol sy'n rheoli systemau unigol o ddydd i ddydd.
Mae'n bwysig bod pawb sy'n ymwneud â'r gwaith o weithredu systemau teledu cylch cyfyng yn deall pam mae’r system wedi cael ei chyflwyno a’r hyn y dylid ac na ddylid defnyddio’r camerâu ar ei gyfer.
Mae Polisi teledu cylch cyfyng ar wahân ar gyfer Ysgolion.
Canllawiau allweddol ym mholisi teledu cylch cyfyng y Cyngor:
- Prynu: Prynu camerâu ac offer teledu cylch cyfyng - Rhaid cael caniatâd cyn caffael unrhyw systemau. Os ydych yn bwriadu gosod system teledu cylch cyfyng newydd neu am wneud newidiadau i system bresennol, cysylltwch â'ch arweinydd adran. Bydd wedyn yn cynorthwyo gyda'r gwaith o gwblhau'r Ffurflen Gymeradwyo teledu cylch cyfyng.
- Monitro: Rhaid cyfyngu'r gallu i weld monitorau'r system teledu cylch cyfyng i'r rhai sydd wedi'u hawdurdodi i'w gweld.
- Gwylio: At ddiben cyfreithlon penodol yn unig y dylid gwylio lluniau byw a lluniau wedi'u recordio. Mae gwylio neu dreillio fideos yn achlysurol wedi'i wahardd yn llym.
- Arwyddion: Rhaid gosod arwyddion clir lle mae systemau teledu cylch cyfyng ar waith. Mae arwyddion o'r fath yn rhybuddio pobl eu bod yn mynd i mewn i ardal lle mae system teledu cylch cyfyng ar waith neu’n eu hatgoffa eu bod yn dal i fod mewn ardal lle mae system teledu cylch cyfyng ar waith.
- Storio: Mae lluniau system teledu cylch cyfyng yn cael eu storio yn gyffredinol am 30 diwrnod ac yna'n cael eu trosysgrifo'n awtomatig.
- Mynediad: O dan Erthygl 15 o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU, mae gan bawb yr hawl i gael gafael ar wybodaeth a gedwir amdanynt gan y Cyngor ac i gael copi o'r data personol hwnnw. Rhaid gwneud ceisiadau o'r fath yn ysgrifenedig i'r Swyddog Diogelu Data, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP neu drwy e-bost diogeludata@sirgar.gov.uk
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â theledu cylch cyfyng, cysylltwch â'ch Arweinydd Adran.
Cuddwylio
Ni chaniateir i gamerâu cudd gael eu defnyddio o dan nawdd y polisi hwn. Mae gweithgareddau o'r fath yn dod o fewn cwmpas Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (RIPA) neu'n rhannol ac mae'n rhaid cael awdurdodiad ar gyfer gweithgaredd o'r fath o dan y gweithdrefnau RIPA perthnasol.
Fel arfer, dylai systemau teledu cylch cyfyng fod yn glir gydag arwyddion gweladwy wedi'u lleoli'n agos at y ddyfais yn hysbysu'r rhai yn y cyffiniau eu bod yn cael eu monitro a/neu eu recordio. Gall cynnwys arwydd neu hysbysiad o'r fath amrywio yn ôl natur y ddyfais sy'n cael ei defnyddio, yr ardal y mae'n cael ei defnyddio ynddi a diben ei defnyddio. Anfonwch e-bost at CELegalServices@sirgar.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth am Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (RIPA).
Mwy ynghylch Teledu Cylch Cyfyng (CCTV)