Diweddariad ar symud o Gynllun Ffeiliau’r Cyngor i SharePoint
1408 diwrnod yn ôl
Mae gwaith yn parhau i symud o Gynllun Ffeiliau'r Cyngor i SharePoint.
Hyd yma, mae Asesiad Effaith wedi'i gwblhau yn ogystal â chynllun peilot llwyddiannus i symud data TGCh o Gynllun Ffeiliau'r Cyngor (CFP) i SharePoint.
Bydd gweddill y data sy'n cael ei storio ar CFP yn cael ei symud yng ngham nesaf y prosiect a rhagwelir y bydd popeth yn cael ei symud i SharePoint erbyn diwedd mis Mawrth 2022.
Ni fyddwch yn gweld llawer o newid yn y ffordd yr ydych yn defnyddio'r system gan y bydd strwythur ffolderi lefel uchaf y CFP yn cael ei gopïo yn yr amgylchedd SharePoint newydd.
Oherwydd maint y data a'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â symud y data, byddwn yn defnyddio dull strwythuredig a graddol a byddwn yn defnyddio cynnyrch symud data arbenigol sy'n flaenllaw yn y diwydiant.
Mae amserlen o'r holl brosesau symud data bellach wedi'i chreu a bydd yn cael ei chynllunio'n ofalus i ganiatáu ar gyfer gwaith cyn symud. Bydd hyn yn cynnwys ymgysylltu adrannol, yn ogystal ag amser penodedig i asesu, didoli a pharatoi data ar gyfer ei symud.
Mae'r tîm TG yn edrych ymlaen at weithio gyda chi er mwyn sicrhau bod eich data'n symud yn hwylus i SharePoint ac er mwyn rhoi cymorth parhaus o ran ei ddefnyddio.
- Caffael - 15 Hydref, 2021
- Y Gwasanaethau Etholiadol - 15 Hydref, 2021
- Rheoli Pobl - 29 Hydref, 2021
- Cynllunio a Rheoli Adeiladu - 30 Hydref, 2021
- Cyfreithiol – 12 Tachwedd, 2021
- Addysg a Sgiliau - 13 Tachwedd, 2021
- Rheoli Risg – 26 Tachwedd, 2021
- Democratiaeth – 28 Tachwedd, 2021
- Iechyd a Diogelwch – 10 Rhagfy, 2021
- Trafnidiaeth a Seilwaith - 12 Rhagfyr, 2021
- Cofrestru – 17 Rhagfyr, 2021
- Plant a Theuluoedd – 15 Ionawr, 2022
- Archwilio Mewnol – 28 Ionawr , 2022
- Cyllid – 29 Ionawr, 2022
- Diogelwch Cymunedol ac Argyfyngau – 11 Chwefror, 2022
- Rheoli Gwastraff - 11 Chwefror, 2022
- Comisiynu –25 Chwefror, 2022
- Hamdden a Diwylliant - 26 Chwefror, 2022
- Tai – 11 Mawrth, 2022
- Gofal i Oedolion – 12 Mawrth, 2022
- Diogelu'r Cyhoedd – 25 Mawrth, 2022
- Eiddo'r Cyngor - 26 Mawrth, 2022
- Rheoli Gwybodaeth - Dyddiad i'w gadarnhau
- Rheoli - Dyddiad i'w gadarnhau
*Noder na fydd data'n cael ei symud i safle SharePoint sy'n uniongyrchol gysylltiedig â thîm (yn Microsoft Teams) ond bydd yn cael ei storio mewn llyfrgelloedd dogfennau pwrpasol ar wahân.
Mae'n bwysig cofio y dylid defnyddio Microsoft Teams at ddibenion cydweithio ac nid fel lle i gadw dogfennau.