02/02/2023: Diwrnod Amser i Siarad
760 diwrnod yn ôl
Mae gan bawb iechyd meddwl, a thrwy sôn amdano gallwch helpu eich hun ac eraill i sicrhau llesiant cadarnhaol.
Beth yw Diwrnod Amser i Siarad?
Diwrnod Amser i Siarad yw sgwrs fwyaf y genedl am iechyd meddwl ac mae'n cael ei gynnal ddydd Iau, 2 Chwefror 2023. Mae'r diwrnod hwn yn ymwneud â siarad yn agored a chreu cymunedau cefnogol ymysg eich ffrindiau, teuluoedd, gweithleoedd a chydweithwyr; mae'n ddiwrnod i ddod at eich gilydd i siarad, gwrando a newid bywydau.
Pam mae siarad yn bwysig?
Wrth i ni nesáu at dair flynedd ers dechrau pandemig Covid-19, mae siarad am ein hiechyd meddwl yn bwysicach nag erioed.
- Nid yw siarad yn arwydd o wendid
- Mae siarad yn lleihau stigma
- Mae’n gwella eich perthynas ag eraill
- Mae’n eich helpu i wella
- Mae siarad yn eich helpu i deimlo'n ddiogel
- Rydych yn teimlo eich bod yn gallu gofyn am gymorth pan fydd ei angen arnoch
Gall gwrando ar rywun helpu'r person hwnnw i deimlo ei fod yn cael ei gefnogi ac yn llai unig. Mae'n rhan o fod yn gyfrifol am llesiant eich hun, a'r hyn y gallwch ei wneud i gadw'n iach.
Pan fydd un person yn siarad, bydd eraill yn ymuno.
Ymunwch â'r Tîm Iechyd a Llesiant ar 2 Chwefror 2022 am 12:30 drwy Teams a chael trafodaeth agored am iechyd meddwl a sut y gallwch gynnwys y trafodaethau hyn yn eich timau.
Mae sawl ffordd y gallwch ymuno â'r e-sgwrs;
- Ymunwch ar y diwrnod gan ddefnyddio'r ddolen ar y dudalen Beth sy' Mlaen.
- Anfonwch neges e-bost at iechyd&llesiant@sirgar.gov.uk i gael dolen i'r cyfarfod.
Ewch i'n tudalennau mewnrwyd i gael rhagor o Gymorth a Chefnogaeth.
Dewch i ni siarad!
Erthygl gan: Tim Iechyd a Llesiant